Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cludiant i'r ysgol

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gofyn bod yr Awdurdod Lleol yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol i blant cymwys.

Wrth benderfynu a ddylid darparu cludiant am ddim ai peidio, rhaid i'r cyngor ystyried:

  • oedran y plentyn
  • natur y llwybr
  • unrhyw ddymuniad sydd gan riant i addysgu ei blentyn mewn ysgol sy'n darparu addysg grefyddol yn unol â'r grefydd y mae'r rhiant yn ei dilyn
  • unrhyw ddymuniad i riant i'w blentyn dderbyn addysg Gymraeg
  • anghenion dysgwyr anabl neu ddysgwyr ag anableddau dysgu
  • ac unrhyw anghenion penodol plant sy'n 'derbyn gofal' gan yr awdurdod lleol.

Prynu sedd wag ar fws cludiant ysgol

Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun gwerthu seddi sbâr disgresiynol.

Rhoi tocyn bws ysgol newydd

Os yw eich tocyn bws ar goll, wedi'i ddifrodi neu wedi'i ddwyn, rhaid talu £5.00 cyn y gallwn roi un newydd.

Cais am asesiad risg o lwybr cerdded

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein os hoffech wneud cais am asesiad risg o'ch llwybr cerdded i ysgol.

Cwestiynau cyffredin am gludiant ysgol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gludiant ysgol.

Talu am wiriad GDG

Os ydych wedi cael cynnig gwaith gan weithredwr a gymeradwywyd i weithio ar ein contractau Gwasanaethau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol neu Gludiant Cwsmeriaid (Gofal Cymdeithasol) ar ran Cyngor Abertawe, bydd angen i chi gwblhau gwiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Cais am gymorth teithio

Gwneud cais ar-lein am gymorth teithio i blentyn neu brson ifanc.

Gwasanaethau cludiant o'r cartref i'r ysgol a gwasanaethau bysus lleol

Gwybodaeth yn gywir ar 25 Hydref 2022 (gellir ei newid).

Cod ymddygiad

Bwriad y Cyngor yw darparu cludiant ar gyfer dysgwyr lle mae ganddo gyfrifoldeb statudol i wneud hynny ar gyfer disgyblion/myfyrwyr i deithio yn ôl ac ymlaen o le perthnasol yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).

Polisi cludiant rhwng y cartref a'r ysgol (Medi 2015)

Yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i blant sy'n gymwys.
Close Dewis iaith