Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Polisi cludiant rhwng y cartref a'r ysgol (Medi 2015)

Yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i blant sy'n gymwys.

Bydd hawl gan eich plentyn i dderbyn cludiant ysgol am ddim os yw'r canlynol yn berthnasol:

1. Disgyblion oed ysgol gynradd:

  • O oed ysgol gorfodol (i) ac
  • Yn byw yn yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod (ii) ac
  • Yn mynd i'r ysgol addas neu ddynodedig agosaf (iii) ac
  • Yn byw dwy filltir neu fwy o'r ysgol. Mesurir y pellter yn ôl y llwybr cerdded byraff sydd ar gael, a gall gynnwys llwybrau cerdded (iv).

2. Disgyblion oed ysgol uwchradd:

  • O oed ysgol gorfodol (v) ac
  • Yn byw yn yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod (ii) ac
  • Yn mynd i'r ysgol addas neu ddynodedig agosaf (iii) ac
  • Yn byw tair milltir neu fwy o'r ysgol (iv). Mesurir y pellter hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael.

3. Disgyblion eraill, ac maent:

  • O oed ysgol gorfodol; ac
  • Yn byw yn yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod; ac
  • Yn mynd i'r ysgol addas neu ddynodedig agosaf; ond
  • Yn byw o fewn pellter cerdded o'u hysgol, ond ystyrir nad yw eu llwybr yn addas oherwydd y byddai'n anniogel, hyd yn oed pe bai ganddynt y cwmni angenrheidiol o ystyried oed y plentyn a'i allu, ei anableddau neu ei anawsterau dysgu (vi).

Gall yr awdurdod lleol, mewn amgylchiadau cwbl eithriadol, arfer ei ddisgresiwn i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion nad ydynt yn bodloni'r meini prawf uchod (vii).

Trefniadau cludiant i ddisgyblion / ddysgwyr cymwys

Mae trefniadau cludiant i ddisgyblion cymwys yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a'r Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014).

Bydd y math o gludiant ac unrhyw oruchwyliaeth a ddarperir yn dibynnu ar anghenion y plentyn/dysgwr a'i oed (viii). Defnyddir y dull(iau) cludiant mwyaf cost-effeithiol ac addas. Gallai hyn gynnwys tocyn i'w ddefnyddio ar wasanaeth bws lleol, lle ar gerbyd contract, lwfans i rieni neu lwfans beic. Bydd angen adolygu trefniadau cludiant ac anghenion cludiant disgyblion yn rheolaidd (ix) i sicrhau eu bod yn addas ac yn gost-effeithiol.

I blant sy'n gymwys, darperir cludiant o'r cartref i'r ysgol (neu'r coleg) ar ddechrau a diwedd y dydd. Ni chaiff ei ddarparu ar gyfer teithio rhan-amser/amser cinio na rhwng ysgolion. (xi) Bydd yr awdurdod yn darparu cludiant o fan sy'n rhesymol agos at gartref y plentyn i fan sy'n rhesymol agos at yr ysgol/coleg. (xii) Efallai bydd angen i blentyn, gan ddibynnu ar ei oed a'i allu, gerdded i fan codi a gollwng.

Gall yr awdurdod dynnu cludiant yn ôl os yw'n fodlon bod dysgwr wedi methu cydymffurfio â'r Côd Ymddygiad. (xiii)

Sut mae gwneud cais

Mae ffurflenni cais ar gael yn ysgol neu goleg eich plentyn neu o wefan: Cais am gymorth teithio.

Apeliadau

Os gwrthodir cludiant am ddim, gall rhieni/gofalwyr herio'r penderfyniad hwnnw, naill ai os ydynt yn credu nad yw'r awdurdod wedi gweithredu'r polisi'n iawn neu am fod amgylchiadau eithriadol.

Dylid cyflwyno apeliadau'n ysgrifenedig gan nodi'r rhesymau dros yr apêl, a darparu copïau o unrhyw wybodaeth gefnogi. Gellir cael manylion llawn y broses apêl trwy ysgrifennu i'r cyfeiriad isod:

Rheolwr Gwasanaethau Ysgolion
Adran Addysg
Canolfan Ddinesig
Abertawe
SA1 3SN

neu drwy e-bostio schoolgovernorunit@swansea.gov.uk

Trefniadau lleol

Myfyrwyr ôl-16

Mae'n ofynnol, yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, i awdurdodau lleol ystyried anghenion dysgwyr sydd rhwng 16 a 19 oed; fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i'r ysgol neu'r coleg am ddim i unrhyw ddysgwr sy'n hŷn na'r oed ysgol gorfodol. Mae'r awdurdod, serch hynny, yn defnyddio'i bwerau disgresiwn, a bydd yn darparu cludiant i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oed ysgol gorfodol sy'n bodloni meini prawf y pellter gofynnol neu ddiffyg llwybr diogel/ar gael i'w hysgol neu eu coleg dynodedig neu angen addysgol arbennig. Mae'r cyngor yn darparu tocynnau bws i ddysgwyr cymwys deithio i'w hysgol ddynodedig.

Mae'r cyngor yn dirprwyo arian a chyfrifoldeb am ddarparu cludiant coleg ôl-16 i'r ddau goleg addysg bellach.

Os nad yw ysgol ddynodedig neu'r coleg cysylltiol yn cynnig y cwrs astudio penodol y mae'r myfyriwr yn dymuno ei astudio, darperir cludiant i'r ysgol/coleg agosaf sy'n cynnig y cwrs os yw'n bodloni'r isafswm meini prawf pellter.

Cludiant i ysgolion Cymraeg / Saesneg

Wrth ystyried a yw ysgol yn addas, mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi na ddylai dewis iaith na mamiaith y plentyn na'r rhieni gael unrhyw ddylanwad ar a yw ysgol yn addas. Fodd bynnag, mae'n ofynnol, yn ôl y mesur, i awdurdodau hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfwng y Gymraeg. Am y rheswm hwn, bydd Dinas a Sir Abertawe'n darparu cludiant am ddim i'r ysgol agosaf sy'n darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ar yr amod bod y plentyn yn bodloni'r meini prawf pellter neu am nad oes llwybr cerdded diogel ar gael. Y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014) Llywodraeth Cymru 1.40,1.74 - 1.79.

Cludiant i ysgolion ffydd

Mae'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru yn nodi na ddylai ffydd neu argyhoeddiadau crefyddol plentyn na rhieni gael unrhyw ddylanwad ar a yw ysgol yn addas. Fodd bynnag, bydd Dinas a Sir Abertawe'n darparu cludiant am ddim i'r ysgol ffydd addas agosaf ar yr amod bod y disgybl yn bodloni'r meini prawf pellter neu am nad oes llwybr cerdded diogel ar gael . Y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teitio gan Ddysgwyr (2014) 1.40, 1.80-1.82.

Cludiant i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig

Disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig (neu lefel angen addysgol gyfwerth os caiff datganiadau eu disodli gan asesiad a dull darparu gwahanol yn dilyn canlyniad unrhyw gynnig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ADY).

Ni fydd pob disgybl ag anghenion addysgol arbennig yn derbyn cludiant am ddim yn awtomatig, a bydd yr un meini prawf cymhwysedd yn berthnasol i blant ag anghenion addysgol arbennig â'r rhai i'r holl ddisgyblion o oed ysgol statudol.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cydnabod ei bod yn debygol y bydd gan blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig anghenion cludiant ychwanegol, a gall yr anghenion hyn newid yn ystod eu gyrfa ysgol. Am y rheswm hwn, caiff plentyn neu berson ifanc â datganiad sydd efallai'n bodloni'r meini prawf cludiant ysgol am ddim, ei ystyried yn unigol gan yr ALl i ganfod ei ofynion cludiant. Efallai y bydd rhai plant nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cludiant ysgol am ddim yn cael eu hasesu'n ffurfiol os yw eu hanghenion arbennig yn awgrymu y gall fod angen cefnogaeth arnynt gyda chludiant i'r ysgol ac oddi yno.

Adolygir anghenion cludiant dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig yn yr adolygiad blynyddol

Plant a phobl ifanc sy'n mynd i unedau cyfeirio disgyblion, canolfannau cynhwysiad neu ganolfannau dysgu

Darperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion oed cynradd ac uwchradd sy'n mynd i'r sefydliadau hyn ac yn bodloni'r pellterau cymhwyso. Efallai y bydd plant sy'n byw llai na'r isafswm pellter o'u darpariaeth addas agosaf yn cael cynnig cludiant os ystyrir ei fod yn angenrheidiol i sicrhau presenoldeb da. Bydd hyn yn golygu ystyriaeth unigol a defnyddio pwerau disgresiwn yr ALl. Byddai unrhyw gludiant yn destun adolygiad rheolaidd.

Plant sy'n derbyn gofal

Mae gan yr awdurdod gyfrifoldeb fel rhiant corfforaethol am Blant sy'n Derbyn Gofal. Gwneir pob ymdrech i ddarparu parhad a sefydlogrwydd i'r plant hynny o ran darpariaeth ysgol. Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu y dylai plentyn barhau i fynd i'w ysgol arferol, darperir cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i gynnal presenoldeb yn ysgol arferol y plentyn lle mae cartref y gofalwr yn bellach na 2 filltir i ffwrdd yn achos plentyn ysgol gynradd, neu 3 milltir yn achos plentyn ysgol uwchradd. Bydd y trefniad hwn hefyd ar gael i'r plant sy'n derbyn gofal mewn cartrefi mewn awdurdodau cyfagos. Fodd bynnag, dylai'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn ymwybodol o'r uchafswm amser/pellter teithio a argymhellir wrth benderfynu ar anghenion y plentyn. Defnyddir cludiant cyhoeddus lle bynnag y bo modd. Gweler y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014) 1.29, 1.49-1.51.

Cynorthwywyr teithwyr

Caiff llwybrau eu hasesu'n unigol ond ni ddarperir cynorthwywyr teithwyr fel arfer ar lwybrau prif ffrwd i ddisgyblion cynradd nac uwchradd. Bydd disgwyl i deithwyr gydymffurfio â'r côd ymddygiad, a chyfrifoldeb y rhieni/gofalwyr fydd sicrhau bod eu plentyn yn mynd ar y bws yn ddiogel a bod rhywun yn cwrdd â'r plentyn wrth iddo ddod oddi ar y bws ar ôl ysgol, yn ôl y galw. Byddant, fodd bynnag, yn cael eu cyflogi i gefnogi disgyblion ar rai llwybrau ac mae'r penderfyniad i gyflogi cynorthwywyr teithwyr ar lwybr penodol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn unol â'r Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch y Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys anghenion unigol y disgyblion, hyd a natur y llwybr etc. Gweler y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014) 1.15.

Hyrwyddo teithio annibynnol

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cefnogi nifer o fentrau a gynlluniwyd i sicrhau bod cynifer ag y bo modd o'n disgyblion yn dod yn hyderus wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus a dulliau teithio cynaliadwy eraill, megis cerdded neu feicio, erbyn iddynt adael yr ysgol.

Rheini neu ofalwyr absennol

Bydd plant diamddiffyn megis plant ifanc iawn neu rai plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes unrhyw un ar gael i gwrdd â hwy pan fyddant yn cyrraedd pen y daith yn cael eu cadw ar y cerbyd fel na fydd oedi i blant eraill ar y llwybr. Bydd gyrrwr yn rhoi gwybod i'r awdurdod a gwneir trefniadau i'r rhiant neu'r gofalwr gasglu'r plentyn ar ddiwedd y daith. Os na ellir cysylltu â rhiant neu ofalwr, cysylltir naill ai â swyddog ar ddyletswydd y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r heddlu. (Gweler tudalen 12 Côd Ymddygiad Rhwng y Cartref a'r Ysgol SWWITCH neu dudalen 15 Côd Ymddygiad Cludiant Dysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig SWWITCH).

Talu lwfans milltiredd

Lle bydd hawl i gludiant ysgol neu lle arferwyd disgresiwn, mewn rhai amgylchiadau e.e. lle mai dyma'r opsiwn mwyaf economaidd, neu os yw'n ofynnol oherwydd anghenion y plentyn, gall yr awdurdod gytuno i gynnig lwfans milltiredd lle mae rhiant/gofalwr y plentyn yn cludo'r plentyn/plant ei hun. Os cytunwyd â'r rhiant neu'r gofalwr y bydd yn cael lwfans milltiredd i fynd â'i blentyn i'r ysgol, byddai'r gyfradd ar gyfer un daith ddychwelyd y dydd.

Sylwer - ar gyfer unrhyw gytundeb, byddai'n rhaid bod gan y rhiant neu'r gofalwr drwydded yrru, byddai'n rhaid bod MOT ar y cerbyd (os yw'n berthnasol gan ddibynnu ar oed y cerbyd), a byddai angen tystiolaeth o yswiriant priodol (naill ai defnydd busnes dosbarth 1 neu lythyr gan y cwmni yswiriant sy'n hepgor yr angen am ddefnydd busnes dosbarth 1 i gludo'i blentyn am lwfans).

Teithio dewisol

Lle mae'r cyngor yn dewis darparu trefniadau cludiant dewisol, gellir cael gwared arnynt yn y dyfodol. Wrth wneud hyn, dylai'r cyngor ddilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer tynnu darpariaeth cludiant yn ôl yn unol â'i brotocolau polisi perthnasol, er enghraifft, ymgynghoriad cyhoeddus.

Os yw'r cyngor yn penderfynu newid darpariaeth cludiant ddewisol neu gael gwared arni, mae'n rhaid iddo gyhoeddi'r wybodaeth cyn 1 Hydref y flwyddyn cyn y flwyddyn academaidd pan ddaw'r newidiadau i rym yn unol â Rheoliadau Teithio gan Ddysgwyr 2009. Gweler y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014) 1.104. 1.105

Gwerthu seddi gwag ar gludiant ysgol

Darperir cludiant ysgol gan ystyried defnydd effeithlon ac effeithiol adnoddau'r awdurdod. Bydd yr AALl yn grwpio disgyblion i rannu cerbydau a gallai hyn olygu bod seddi gwag mewn ambell gerbyd. Cynigir gwerthu'r seddi ychwanegol hyn i rieni a gofalwyr plant na fyddai ganddynt hawl fel arall i gludiant am ddim. Cynigir y seddi hyn fesul tymor neu'n flynyddol. Ni werthir seddi i ddisgyblion cyn oed ysgol.

Os, yn ystod y flwyddyn, bydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol a chanddo hawl i gludiant am ddim trwy'r meini prawf statudol isafswm pellter gofynnol neu ddiffyg llwybr cerdded diogel, gallai fod angen diddymu'r penderfyniad i werthu sedd wag os yw'r cerbyd yn llawn. Y Tîm Cludiant fydd yn penderfynu sut caiff sedd ei dewis yn unol â'r Cynllun Gwerthu Seddi Gwag. I gael rhagor o wybodaeth am brynu seddi gwag, cysylltwch â'r Tîm Cludiant, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN


Nodiadau arweiniol

i.  Cludiant i'r rhai dan oed ysgol gorfodol - Mae Dinas a Sir Abertawe'n cynnwys disgyblion amser llawn sy'n iau nag oed ysgol gorfodol o ddechrau'r flwyddyn academaidd pan fyddant yn dathlu eu pumed pen-blwydd yn yr hawl i gludiant.

ii.  Preswylfa - Preswylfa yw cartref parhaol y plentyn, h.y. nid yw preswylfa'n drefniad dros dro megis aros gyda pherthnasau am gyfnod byr. Darperir cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn unig nid, er enghraifft, rhwng eiddo'r gwarchodwr plant a'r ysgol.

Lle mae trefniadau gwarchodaeth a rennir/trefniadau plant sy'n derbyn gofal ac mae'r plentyn yn gymwys i gael cludiant o'r ddau gyfeiriad (ac mae'r ddau'n bodloni'r meini prawf pellter neu nid yw'r llwybr ar gael/yn ddiogel, etc.) darperir cludiant os yw hyn yn drefniad rheolaidd, parhaol a pharhaus h.y. am fwy nag un tymor. Dylai cais am gludiant o fwy nag un cyfeiriad gael ei gefnogi gan dystiolaeth o breswylfa.

iii.  Ysgol addas neu ddynodedig agosaf - Mae'n rhaid bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol. Mae'r ysgol addas neu ddynodedig agosaf yn cynnwys yr ysgol a enwir i blant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion ychwanegol, ysgol a gynhelir neu UCD.

Ni ddarperir cludiant lle mae rhiant yn dewis ysgol sy'n bellach i ffwrdd ac mae lle ar gael mewn ysgol sy'n nes at y cartref.

Sylwer y gall yr ysgol agosaf fod mewn awdurdod cyfagos

iv.  Mesur dwy / tair milltir - Dylid mesur y pellter cerdded dwy/tair milltir yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Gall hyn gynnwys llwybrau cerdded.

Caiff ei fesur o'r man lle mae'r cartref yn cwrdd â'r briffordd/ffin yr eiddo h.y. diwedd y dreif neu'r lon breifat i gât flaen neu gât agosaf yr ysgol. Sylwer bod gan rai ysgolion lawer o dir ac os oes mynedfa i gerddwyr i eiddo/dir yr ysgol, efallai mai hon fydd y gât agosaf yn hytrach na'r brif fynedfa, os oes modd ei defnyddio.

v.  Oed ysgol gorfodol - Darperir cludiant i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fydd y plentyn yn cyrraedd 16 oed.

vi.  Diogelwch / argaeledd y llwybr cerdded - Bernir bod llwybr cerdded ar gael os oes modd i'r plentyn/dysgwr gerdded ar ei hyd yn gymharol ddiogel ar ei ben ei hun neu yng nghwmni oedolyn, yn ôl yr angen, gan ystyried natur y llwybr ac oed a gallu'r plentyn/dysgwr.

Caiff diogelwch y llwybr ei asesu gan gyfeirio at y Weithdrefn Asesu Risg a bennwyd yn y Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2014) i benderfynu a oes llwybr ar gael os yw plentyn yng nghwmni oedolyn ai peidio, gan ystyried oed y plentyn. Mae hyn yn ystyried ffactorau megis y terfyn cyflymder, faint o draffig sydd yno, ffactorau cymdeithasol etc.

Wrth bennu a yw llwybr yn addas ai peidio, bydd angen i swyddogion ystyried natur y llwybr, a yw oedolyn yn gallu mynd gyda'r plentyn a gallu/oed y plentyn

Y cwestiynau allweddol yw:

1.  Diogelwch y llwybr

  • A yw'r llwybr yn ddiogel i blentyn hyd yn oed os na fyddai neb yn ei hebrwng?
  • A yw'r llwybr yn ddiogel i blentyn pan fydd yn cael ei hebrwng yn ôl yr angen?
  • A oes modd gwella'r llwybr e.e. croesfan newydd, i'w wneud yn ddiogel i unrhyw blentyn, heb ei hebrwng neu'n cael ei hebrwng yn ôl yr angen?

Os yw'r ateb i'r rhain yn gadarnhaeol, mae angen ystyried gallu / anabledd rhiant / gwarcheidwad / gofalwr i hebrwng y plentyn a gallu / anabledd ac anghenion penodol y plentyn a'i oed.

2.  Oedolyn i hebrwng yn ôl yr angen.

Nid yw'r ffaith bod rhiant yn gweithio yn golygu nad yw ar gael i hebrwng ei blentyn yn ôl yr angen. Bydd llawer o rieni'n dweud nad ydynt ar gael i hebrwng eu plentyn. Yn anffodus, mae'r canllawiau a chyfraith achos wedi dod i'r casgliad nad oes rhaid i'r awdurdod ddarparu cludiant oherwydd bod rhiant yn gweithio.

Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle na fydd oedolyn priodol ar gael i hebrwng y plentyn - er enghraifft os yw'r rhiant yn anabl ac yn methu cerdded y llwybr, neu os yw'r awdurdod eisoes yn disgwyl i'r rhiant hebrwng brawd neu chwaer arall i sicrhau bod eu llwybr hwy'n ddiogel i deithio ar ei hyd i'r ysgol.

3.  Mae anableddau/anawsterau dysgu'r plentyn yn golygu nad yw'n gallu cerdded ar hyd llwybr diogel, hyd yn oed os yw'n cael ei hebrwng?

  • Os yw hyn yn wir, a ellir darparu hyfforddiant teithio a/neu gefnogaeth i ddatblygu gallu'r plentyn?
  • Os nad yw hyfforddiant teithio'n briodol, bydd angen cludiant a bydd angen i'r awdurdod ystyried anghenion y plentyn, a hefyd adolygu gallu'r plentyn ac unrhyw gyfle i'w hyfforddi / gefnogi'n rheolaidd.

vii.  Amgylchiadau dewisol eraill:

Dylai'r math o gludiant a'r hawl i gludiant gael eu hadolygu'n rheolaidd.

Mae'n debygol y bydd rhai eithriadau dewisol cyfyngedig lle darperir cludiant am ddim i ddisgyblion na fyddai hawl ganddynt iddo fel arfer. Gall y rhain gynnwys cyflwr meddygol dros dro, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth feddygol (meddyg ymgynghorol fel arfer) sy'n cadarnhau'r cyflwr, ei effaith ar deithio i'r ysgol, a pha mor hir y mae'n debygol o barhau, neu lle mae plentyn yn ofalwr ifanc a lle byddai presenoldeb yn yr ysgol yn annhebygol heb gefnogaeth cludiant ychwanegol. Bydd disgresiwn penodol yn dibynnu ar arfer/amgylchiadau lleol.

viii.  Asesu cludiant addas / anghenion penodol:

Yn ôl y canllawiau, dylai cludiant fod yn 'ddi-straen' ac yn ddiogel.

Dylai cludiant gael ei ddarparu yn unol â'r Ddarpariaeth Statudol a'r Canllawiau Gweithredol ynghylch y Mesur Teithio gan Ddysgwyr.

I ddisgyblion ag anghenion ychwanegol, caiff eu gofynion cludiant eu hasesu'n unigol o leiaf bob blwyddyn. Bydd hyn yn pennu'r cerbyd a'r llwybr addas a'r angen am unrhyw gyfarpar arbenigol a/neu oruchwyliaeth, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir fel rhan o'r broses asesu statudol, a/neu adolygiad blynyddol

ix.  Adolygiad o'r trefniadau cludiant:

I ddisgyblion sy'n gwneud cais am gludiant oherwydd nad oes llwybr ar gael neu nad ywn ddiogel, bydd angen adolgyu hawliau cludiant ac anghenion cludiant yn flynyddol. I'r rhai ag anghenion addysgol arbennig, bydd hyn yn rhan o'u hadolygiad blynyddol.

x.  Cludiant i leoliad preswyl:

Lle bydd plentyn mewn lleoliad preswyl, darperir cludiant ar ddechrau a diwedd yr wythnos/hanner tymor neu fesul tymor fel y bo'n briodol. Darperir cymorth gyda chost un daith ddychwelyd i un oedolyn bob hanner tymor at ddibenion ymweld ac un daith ddychwelyd ar gyfer yr adolygiad blynyddol. Ad-delir yr arian naill ai fel lwfans milltiredd neu fel costau cludiant cyhoeddus safonol â derbynebau.

xi.  Cludiant a ddarperir ar gyfer taith y bore a'r plentyn yn unig:

I'r rhai sy'n gymwys i dderbyn cludiant am ddim, fe'i darperir i'r ysgol (neu'r coleg) ac oddi yno ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Ni ddarperir cludiant ar gyfer presenoldeb rhan-amser pan fydd disgyblion yn mynd ar adegau eraill, er enghraifft, i ddosbarth nos. Nid oes dyletswydd ar yr awdurdod chwaith i ddarparu cludiant yn ystod y dydd na rhwng safleoedd. Ni fydd cludiant fel arfer yn cael ei ddarparu i'r rhai ar asesiad.

xii.  Fel arfer, disgwylir i ddisgyblion gerdded i'r man codi agosaf:

Bydd angen i'r awdurdod ystyried anghenion y plentyn, ond byddai'n disgwyl i rieni hebrwng y plentyn, yn ôl yr angen, i unrhyw fan codi. (gweler vii hefyd).

xiii.  Tynnu cludiant yn ôl:

Pennir y broses ar gyfer tynnu cludiant yn ôl yn y Canllawiau Statudol ynghylch Côd Ymddygiad wrth Deithio 2009 Llywodraeth Cymru.

 

Close Dewis iaith