Toglo gwelededd dewislen symudol

Prynu sedd wag ar fws cludiant ysgol

Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun gwerthu seddi sbâr disgresiynol.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn llai na nifer y lleoedd sydd ar gael yn y cerbyd, trefnir bod y seddi sbâr ar gael i'w prynu gan ddisgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim.

Mae gennym ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion sydd â hawl iddo. Lle nad yw disgyblion yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim, gallant wneud cais i brynu sedd sbâr ar fws ysgol.Trefnir bod y seddi sbâr hyn ar gael i ddisgyblion sy'n byw o fewn ardal ddalgylch yr ysgol ar sail y cyntaf i'r felin. Byddant ond yn cael eu cynnig i ddisgyblion sy'n byw y tu allan i'r dalgylch os ydynt ar gael. Ni all bysus gael eu dargyfeirio ac ni ellir ymestyn y llwybr i ddarparu ar gyfer y sawl sy'n prynu sedd ac ni allwn gynyddu maint y cerbyd.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn llai na nifer y lleoedd sydd ar gael ar y bws, trefnir bod y seddi sbâr ar gael i'w prynu gan ddisgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn cynyddu ar unrhyw adeg, yna mae'n bosib y bydd angen i ddisgyblion sydd wedi talu i ddefnyddio sedd sbâr ildio'u seddi a rhoddir ad-ddaliad iddynt pan fyddant yn ildio'u pas.

Gellir gwneud ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, er mae ffi sefydlog.  Ar ôl i leoedd am ddim gael eu dyrannu, neilltuir seddi sbâr ar sail y cyntaf i'r felin.

Gwybodaeth bwysig 

Gweithredir y rhan fwyaf o'n contractau ysgol gan goetsis a choetsis mini gyda mwy na 22 o seddi i deithwyr.Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi dweud wrthym, o 1 Ionawr 2020, os caiff seddi eu gwerthu ar wasanaethau cludiant ysgol ac mae gan y cerbydau hynny fwy na 22 o seddi i deithwyr, fod yn rhaid i nifer o nodweddion ychwanegol gael eu gosod yn y cerbydau hyn i gynorthwyo hygyrchedd, gan gynnwys lifft i gadeiriau olwyn.Ehangodd yr Adran Drafnidiaeth y dyddiad cau dros dro, ond rydym bellach wedi gorfod dod i'r casgliad nad yw hi'n bosib gwerthu seddi sbâr ar wasanaethau cludiant ysgol sy'n cael eu gweithredu gan gerbydau sydd â mwy na 22 o seddi i deithwyr.

Ffi

Blwyddyn academaidd 2025 / 2026

£697.00

Y gwasanaethau sydd ar gael

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 / 2026, bydd ond yn bosib gwerthu seddi sbâr ar y gwasanaethau canlynol, yn amodol ar argaeledd, sy'n cael eu gweithredu gan gerbydau gyda 22 sedd i deithwyr neu lai:

Y gwasanaethau sydd ar gael
Rhif gwasanaethYsgol a wasanaethir
319Ysgol Gynradd Christchurch Church in Wales
331Ysgol Gynradd Pontarddulais
334Ysgol Gynradd Pontarddulais
334AYsgol Gyfun Pontarddulais
342YGG Pontybrenin
345YGG Pontybrenin
347YGG Pontybrenin
368Ysgol Gyfun Gŵyr
369Ysgol Gyfun Gŵyr
373Ysgol Gyfun Gŵyr
374Ysgol Gyfun Gŵyr
382Ysgol Gyfun Gŵyr
607Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
613Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
661YGG Y Login Fach
662YGG Y Login Fach
666YGG Y Login Fach
670St David's RC Primary School
674St David's RC Primary School
683YGG Llwynderw
685YGG Llwynderw
688YGG Bryn y Môr
694Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff
696Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff
698Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff
699Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff
702Ysgol Olchfa
729Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
815Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
816Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
817Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
818Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
839YGG Gellionnen
846Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff Clydach
847Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff Clydach
848Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff Clydach

Cais i brynu sedd wag ar fws contract cludiant ysgol

Os hoffech chi dalu am sedd wag ar lein, cwblhewch y ffurflen hon.

Cwestiynau cyffredin am werthu seddi gwag ar gludiant ysgol

Cwestiynau cyffredin am Gynllun Gwerthu Seddi Sbâr y cyngor.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Hydref 2025