Gwneud cais am Fathodyn Glas neu ei adnewyddu
Mae'n rhaid gwneud cais am Fathodynnau Glas a'u hadnewyddu trwy'r system ar-lein ar y wefan gov.uk.
Cyn dechrau eich cais
Cyn dechrau ar eich cais, bydd angen y pethau canlynol arnoch:
- llun digidol diweddar sy'n dangos eich pen a'ch ysgwyddau
- eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych chi un)
- prawf hunaniaeth (megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
- prawf o'ch cyfeiriad (megis bil Treth y Cyngor neu lythyr oddi wrth y llywodraeth)
- prawf o fudd-daliadau (os ydych yn derbyn unrhyw beth)
- manylion eich Bathodyn Glas cyfredol (os ydych chi'n gwneud cais).
Gwnewch gais ar-lein heddiw ar wefan gov.uk
Mae Bathodynnau Glas am ddim yng Nghymru.
Rydym yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r broses drostynt eu hunain lle y bo'n bosib, neu i gael cefnogaeth gan deulu, ffrindiau neu sefydliadau cefnogi. Gallwch gael cefnogaeth gan wasanaeth Cyngor ar Bopeth, y Groes Goch Brydeinig, Age UK, Ymddiriedolaeth Shaw neu cysylltwch â CGGA i gael manylion sefydliadau cefnogi eraill.
Mae'r gwasanaeth ar-lein ar gyfer pobl sy'n cyflwyno cais ar ran rhywun ac mae hefyd nodwedd 'cadw a dychwelyd', sy'n caniatáu i bobl aros i rywun eu helpu i gwblhau eu cais.
Lle nad yw ymgeiswyr yn gallu cael mynediad at systemau ar-lein, rydym yn darparu cyfrifiaduron i alluogi hyn yn y Ganolfan Ddinesig a hefyd yn ein Canolfannau Cymunedol a'n llyfrgelloedd.
Lle nad yw ymgeiswyr yn gallu defnyddio'r system ar-lein oherwydd nam corfforol neu wybyddol, gallwn drefnu apwyntiad i gasglu a chyflwyno'r wybodaeth: ffoniwch 01792 637366 i esbonio'r sefyllfa a bydd apwyntiad yn cael ei drefnu yng Nghanolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN ar adeg sy'n gyfleus. Os oes posibilrwydd y byddwch yn cael anhawster wrth gyrraedd y Ganolfan Ddinesig, dylech grybwyll hyn pan fyddwch yn ffonio'r tîm Bathodyn Glas a byddwn yn egluro'r trefniadau sydd gennym i'ch helpu.
Beth os ydw i'n anghytuno â'r penderfyniad ynghylch fy nghais am Fathodyn Glas?
Nid oes unrhyw broses apelio statudol yn erbyn penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol mewn perthynas â chais am Fathodyn Glas.
Rydym yn dilyn arweiniad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ond nid oes ganddynt y pŵer i ymyrryd wrth asesu achosion unigol.
Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad i beidio â rhoi Bathodyn Glas i chi ac mae gennych wybodaeth neu dystiolaeth nas cyflwynwyd gyda'ch cais gwreiddiol, dylech ei hanfon atom o fewn un mis calendr o'r dyddiad yr anfonwyd y llythyr penderfyniad atoch. Byddwn yn ystyried y penderfyniad eto, gan ystyried y dystiolaeth ychwanegol.
Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed i beidio â rhoi Bathodyn Glas i chi, ond nid oes gennych unrhyw wybodaeth na thystiolaeth ychwanegol yr hoffech ei rhoi, byddwn yn ystyried y penderfyniad eto ond mae'n annhebygol y bydd yn newid.