Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded sefydliad bridio cŵn.

Cyn cwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn gallu darparu'r canlynol:

  • Manylion brîd eich ci(/cŵn).
  • Manylion eich staff.
  • Manylion lles cŵn, h.y. trefniadau ymarfer corff.
  • Enw a chyfeiriad y milfeddyg.
  • Manylion ar gyfer yr adran Rhaglen Gwella a Chyfoethogi/adran Yr Amgylchedd a'r Rhaglen Gyfoethogi a'r adran Rhaglen Gymdeithasu.
  • Adroddiad iechyd a lles ysgrifenedig gan eich milfeddyg yn manylu'r cŵn (ci gre a geist bridio) a archwiliwyd. Lawrlwythwch yr adroddiad canlynol i'ch milfeddyg ei gwblhau a'i gynnwys yn eich cais  Archwiliad Milfeddygol o Addasrwydd Cŵn i Fridio (Word doc) [46KB].
  • Cynllun o'ch eiddo. Rhaid iddo gynnwys nifer y cytiau cŵn a maint pob un ohonynt.

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Codir ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg os bydd un.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2024