Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau anifeiliaid

Rydym yn rhoi trwyddedau i fusnesau lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw neu eu gofalu amdanynt.

Lletya anifeiliaid

Os ydych am agor sefydliad lletya anifeiliaid, gan gynnwys gwasanaeth gofal dydd ar gyfer cathod neu gŵn, bydd angen trwydded arnoch. Bydd angen trwydded arnoch i gynnal busnes lletya anifeiliaid neu warchod cŵn o'ch cartref eich hun hefyd.

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Manylion y ffïoedd ar gyfer trwyddedau cŵn.

Anifeiliaid gwyllt peryglus

Os ydych chi'n cadw anifail yr ystyrir ei fod yn beryglus, yn wyllt neu'n egostig, bydd angen trwydded arnoch. Mae hyn hefyd yn cynnwys anifeiliaid hybrid neu groesiad gan ddibynnu ar ba mor bell yw'r anifail o'i ddisgynnydd gwyllt.

Bridwyr cŵn

Os ydych yn bridio cŵn ac yna'n gwerthu'r rhai bychain maent yn rhoi geni iddynt, ystyrir eich bod yn cynnal busnes bridio cŵn. Os ydych eisoes yn bridio neu fwriadu gwneud hynny yn y dyfodol, bydd rhaid i chi gael trwydded gennym.

Anifeiliaid perfformio

Os ydych yn arddangos, yn defnyddio neu'n hyfforddi anifeiliaid perfformio, bydd rhaid i chi gofrestru gyda ni. Mae hyn yn cynnwys defnyddio anifeiliaid mewn perfformiadau llwyfan, mewn syrcas ac fel rhan o arddangosfa.

Siopau anifeiliaid anwes

I gynnal busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, mae angen i chi gael trwydded gennym ni. Mae hyn yn cynnwys gwerthu anifeiliaid mewn siop anifeiliaid anwes a thros y rhyngrwyd.

Sefydliadau marchogaeth

Mae'n rhaid bod stablau sy'n hurio ceffylau neu ferlod i bobl eu marchogaeth neu at ddibenion hyfforddi gael trwydded gennym. Bydd eich mangre hefyd yn cael ei harchwilio'n flynyddol gan swyddog a milfeddyg.

Sŵau

Os ydych yn cadw anifeiliaid gwyllt i'w harddangos yn gyhoeddus, bydd angen trwydded sŵ arnoch. Cyn gwneud cais am y drwydded, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad eich bod yn bwriadu gwneud cais.

Pryderon ynghylch lles anifeiliaid mewn mangre drwyddedig

Os ydych yn bryderus ynghylch arferion busnes anifeiliaid trwyddedig neu gyflwr y man lle cedwir yr anifeiliaid.
Close Dewis iaith