Toglo gwelededd dewislen symudol

Sŵau

Os ydych yn cadw anifeiliaid gwyllt i'w harddangos yn gyhoeddus, bydd angen trwydded sŵ arnoch. Cyn gwneud cais am y drwydded, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad eich bod yn bwriadu gwneud cais.

Cyn i ni roi'r drwydded bydd swyddog o'r cyngor a milfeddyg yn archwilio'r adeiladau. Mae angen i chi sicrhau bod gennych ganiatâd cynllunio​ ar gyfer y rhain i gyd cyn gwneud cais.  

Nid yw'r mangreoedd hyn yn cynnwys syrcasau na siopau anifeiliaid anwes y mae deddfwriaeth benodol yn berthnasol iddynt.

Sut i gyflwyno adborth

O leiaf deufis cyn cyflwyno cais am drwydded, mae'n rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys dulliau cyfathrebu electronig) i'r Tîm Trwyddedu am ei fwriad i gyflwyno'r cais. Mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys:

  • lleoliad y sŵ
  • y mathau o anifeiliaid ac amcangyfrif o'r nifer ym mhob grŵp a gedwir i'w arddangos ar y fangre a'r trefniadau ar gyfer eu llety, eu gofal a'u lles
  • amcangyfrif o nifer a chategorïau'r staff i'w cyflogi yn y sŵ
  • amcangyfrif o nifer yr ymwelwyr a nifer y cerbydau modur y darperir ar eu cyfer
  • amcangyfrif o nifer a lleoliad y mynediadau i'r fangre
  • sut bwriedir rhoi mesurau cadwraeth gofynnol ar waith yn y sŵ.

O leiaf deufis cyn cyflwyno'r cais, rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o'r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol a rhaid iddo arddangos copi o'r hysbysiad hwnnw. Mae'n rhaid i'r hysbysiad nodi lleoliad y sŵ a nodi bod yr hysbysiad o gais i'r awdurdod lleol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

Lawrlwythwch y  ffurflen hysbysiad o fwriad (PDF) [56KB] i hysbysu'r awdurdod trwy'r post.

Lawrlwythwch y  ffurflen hysbysiad o fwriad (PDF) [142KB] i roi hysbysiad i un papur newydd lleol, un papur newydd cenedlaethol ac yn y fangre.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Ar ôl y cyfnod rhybudd deufis, gallwch anfon cais atom i drwydeddu'r sŵ.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sŵ Cyflwyno cais am drwydded i gadw sŵ

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu ebostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 28 niwrnod o apelio'r penderfyniad.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sŵ

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt ar gyfer arddangosfa gyhoeddus.

Cwestiynau cyffredin am drwyddedau sŵ

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedau sŵ.
Close Dewis iaith