Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid
Manylion y ffïoedd ar gyfer trwyddedau cŵn.
Os na welwch y ffioedd sy'n berthnasol i chi isod, cysylltwch â Bwyd a Diogelwch.
Sylwer, lle bo'r broses drwyddedu'n gofyn am adroddiad gan filfeddyg, bydd angen talu unrhyw ffioedd milfeddyg yn ogystal â'r ffioedd trwyddedu.
Trwyddedu | Y gost |
---|---|
Siop anifeiliaid anwes | £158.00 |
Ysgol farchogaeth | 182.00 |
Anifeiliaid gwyllt peryglus | 667.00 |
Anifeiliaid gwyllt peryglus - amrywio trwydded | 269.00 |
Ffi lletya gartref | 96.00 |
Lletya anifeiliaid | 182.00 |
Bridio cŵn | 138.00 |
Anifeiliaid perfformio | 192.00 |
Sw | Gweler y nodyn isod |
Sylwer:
- Sŵau y caniateir esgusodeb iddynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn berthnasol i swau bach neu swau lle cedwir nifer bach o anifeiliaid yn unig) - £936.00
- Sŵau nad oes ganddynt esgusodeb - £3209.00
- Nid yw'r ffioedd hyn yn cynnwys ffioedd milfeddyg. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn anfoneb am ffioedd y milfeddyg lle bo'n berthnasol.
Talu eich ffioedd
Gellir talu ffioedd trwy un o'r dulliau canlynol:
- Yn y Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth: Arian, Siec - Yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe', Cerdyn Credyd - Gallwn dderbyn Mastercard, Visa, Electron a Maestro
- Drwy'r post: Siec - Yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' (Peidiwch ag anfon arian drwy'r post).
- Ar-lein (lle y bo ar gael): Cerdyn Credyd - Gallwn dderbyn Mastercard, Visa, Electron a Maestro