Canllawiau gyrwyr a cherbydau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
Canllaw ymgeisydd gyrrwr tacsi i lenwi'r ffurflen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Mae'r nodiadau canllaw hyn yn darparu gwybodaeth bwysig ar sut i lenwi eich rhan o'r ffurflen gais DBS.
Ar y dudalen hon
Fel ymgeisydd, rhaid i chi lenwi adrannau a, b, c ac e ar dudalennau canol y ffurflen gais. Peidiwch â chwblhau unrhyw adrannau ar dudalen gefn y ffurflen gais; mae'r adrannau hyn yn cael eu cwblhau gan y person sy'n gwirio eich dogfennau adnabod a'r tîm Fetio Gweithwyr.
Byddwch yn ofalus pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflen gais gan y gallai unrhyw wallau oedi eich cais neu achosi i'r ffurflen gael ei gwrthod.
Profi eich hunaniaeth
Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth wreiddiol (ni dderbynnir llungopïau na dogfennaeth wedi'i lawrlwytho) er mwyn galluogi'r corff cofrestredig i gadarnhau eich hunaniaeth. Rhaid i'r holl ddogfen fod yn eich enw cyfredol.
Gwybodaeth y bydd angen iddi gael ei dilysu:
- eich enw presennol
- eich dyddiad geni
- eich cyfeiriad presennol
Os nad ydych yn gallu darparu dogfen yn eich enw presennol (er enghraifft os ydych wedi priodi/ysgaru neu newid eich enw drwy weithred newid enw yn ddiweddar), mae'n rhaid i chi ddarparu'r ddogfennaeth i gefnogi'r newid diweddar yn eich enw (er enghraifft tystysgrif priodas/partneriaeth sifil/archddyfarniad absoliwt /tystysgrif diddymu partneriaeth sifil/tystysgrif gweithred newid enw). Dan yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i chi gynnwys taflen ychwanegol gyda'r ffurflen gais, yn nodi'r canlynol yn glir:
- eich enwau presennol a blaenorol
- dyddiad newid enw
- rheswm dros newid enw'
- y ddogfen sydd gennych i gefnogi newid enw
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod yr holl 'enwau blaenorol' a 'dyddiadau a ddefnyddiwyd' yn cael eu cofnodi ar y ffurflen gais.
Cyngor ar gyfer cwblhau'r ffurflen gais DBS
Adran A
- os ydych wedi nodi eich bod wedi defnyddio enwau eraill, mae'n rhaid i chi bob amser gwblhau'r adrannau Cyfenw/Enw(au) Cyntaf a ddefnyddiwyd hyd yn oed os yw'r enwau cyntaf yr un fath â'r enwau a ddefnyddir gyda'ch enw presennol
- os oes gennych rif Yswiriant Gwladol, rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a20 a darparu'r rhif yn a21. Os nad ydych yn gallu darparu'r rhif Yswiriant Gwladol, gadewch a21 yn wag a nodwch ar daflen ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r rhif.
- os oes gennych drwydded yrru, mae'n rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a22 a darparu'r rhif yn a23. os nad ydych yn gallu darparu rhif y drwydded yrru, gadewch a23 yn wag a nodwch ar daflen ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r rhif.
- os oes gennych basport cyfredol, mae'n rhaid i chi ateb 'oes' i gwestiwn a24 a darparu manylion oddi ar y pasbort yn a25-a27. Os nad ydych yn gallu darparu'r manylion pasbort, mae'n rhaid i chi adael a25-a27 yn wag a nodi ar safle ychwanegol pam nad ydych yn gallu darparu'r ddogfen.
Adran B
- rhaid i chi gwblhau manylion cyfeiriad cyfredol llawn gan gynnwys tref/dinas, gwlad a chod post os oes gennych gyfeiriad yn y DU
Adran C
- Os oes angen i chi gwblhau'r adran hon, mae'n rhaid i chi gwblhau pob maes ar gyfer pob cyfeiriad ychwanegol
Adran D
- peidiwch â chwblhau'r adran hon
Adran E
- cofiwch lofnodi'r blwch yn adran E
- E55 - anwybyddwch eiriad y cwestiwn hwn ar y ffurflen gais a'i drin fel pe byddai'n gofyn:
'A oes gennych unrhyw euogfarnau, rhybuddion, ceryddiadau neu rybuddion terfynol na fyddai'n cael eu hidlo yn unol â'r canllawiau cyfredol?'
Beth sy'n digwydd nesaf?
- ewch â'ch ffurflen gais ac unrhyw daflenni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych, ynghyd â'r ddogfennaeth wreiddiol i brofi eich hunaniaeth i'r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN, lle bydd Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gwirio eich cais. Fel arall, bydd eich rheolwr llinell neu'ch swyddog cyfrifol yn gallu gwirio eich ffurflen gyda chi.
- cadwch nodyn o rif cyfeirnod y ffurflen, sydd ar flaen y ffurflen gais, fel y gallwch olrhain eich ffurflen gais unwaith y bydd yn cyrraedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- gallwch olrhain cynnydd eich cais yn https://secure.crbonline.gov.uk/enquiry/enquirySearch.do
Rhestr o ddogfennau adnabod dilys
Rhaid i chi ddarparu cyfanswm o dair dogfen i wirio eich hunaniaeth.
Rhaid i chi gyflwyno un ddogfen o Grŵp 1, a dwy ddogfen arall o naill ai Grŵp 1, 2a neu 2b (rhaid i un ohonynt ddilysu eich cyfeiriad presennol).
Os na allwch ddarparu 3 dogfen hunaniaeth, ni fyddwn yn gallu cadarnhau eich hunaniaeth. Yn y sefyllfa hon, mae angen i chi gysylltu â'r Swyddog Fetio Gweithwyr, ar 01792 637795 i gael cyngor ac arweiniad pellach.
Grŵp 1 - Dogfennau adnabod sylfaenol dibynadwy
- pasbort dilys cyfredol
- trwydded breswylio fiometrig (DU)
- trwydded yrru gyfredol (DU) (llawn neu dros dro) Ynys Manaw/Ynysoedd y Sianel; (mae cerdyn llun yn ddilys dim ond os yw'r unigolyn yn ei gyflwyno gyda'r drwydded gyfatebol gysylltiedig; ac eithrio Jersey).
- tystysgrif geni (y DU ac Ynysoedd y Sianel) - a gyhoeddwyd ar adeg geni; Mae ffurflen lawn neu fer yn dderbyniol gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan awdurdodau'r DU dramor, megis Llysgenadaethau, Uchel Gomisiynau a Lluoedd EF. (Nid yw llungopïau yn dderbyniol)
Grŵp 2a - Dogfennau dibynadwy a roddir gan y llywodraeth/y wladwriaeth
- trwydded yrru gyfredol y DU (fersiwn bapur)
- trwydded yrru ffotograffig gyfredol o du allan i'r DU (yn ddilys i ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i'r DU ar adeg gwneud cais.)
- tystysgrif geni (y DU ac Ynysoedd y Sianel) - (a gyhoeddwyd ar ôl genedigaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/awdurdod perthnasol h.y. Cofrestryddion - ni dderbynnir llungopïau).
- tystysgrif priodas/partneriaeth sifil (y DU ac Ynysoedd y Sianel).
- tystysgrif fabwysiadu (y DU ac Ynysoedd y Sianel)
- Cerdyn Adnabod y Lluoedd Arfog (DU)
- trwydded arfau tanio (y DU ac Ynysoedd y Sianel)
- dogfen mewnfudo, fisa, neu drwydded waith - a gyhoeddwyd gan wlad y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (EEA). Dim ond yn ddilys ar gyfer rolau lle mae'r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio y tu allan i'r DU.
Grŵp 2b - Dogfennau hanes ariannol/cymdeithasol
- datganiad morgais (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))** (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
- cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))* (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
- llythyr cadarnhau agor cyfrif banc/cymdeithas adeiladu (DU)
- datganiad cerdyn credyd (DU neu Ardal Economaidd Ewrop (AEE))* (ni ddylid derbyn datganiadau o du allan i'r AEE).
- datganiad ariannol ** e.e. pensiwn, polisi gwaddol, ISA (DU)
- datganiad P45/P60 **(y DU ac Ynysoedd y Sianel)
- datganiad treth y cyngor (y DU ac Ynysoedd y Sianel)**
- llythyr nawdd gan ddarparwr cyflogaeth yn y dyfodol (y tu allan i'r DU / y tu allan i'r AEE yn unig - yn ddilys ar gyfer ymgeiswyr sy'n byw y tu allan i'r DU ar adeg y cais).
- bil cyfleustodau (DU) * - nid ffôn symudol
- datganiad budd-daliadau * - e.e. lwfans plant, pensiwn.
- dogfen gan y Llywodraeth Ganolog/Llywodraeth Leol/Asiantaeth y Llywodraeth neu'r Awdurdod Lleol sy'n rhoi hawl (yn y DU ac Ynysoedd y Sianel) * - e.e. gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Gwasanaeth Cyflogi, Cyllid a Thollau, Canolfan Byd Gwaith neu Nawdd Cymdeithasol.
- Cerdyn Adnabod Cenedlaethol yr UE.
- Cardiau gyda logo achredu PASS (y DU ac Ynysoedd y Sianel).
- Llythyr gan Bennaeth neu Bennaeth Coleg (pobl ifanc 16/17 oed mewn addysg amser llawn - (i'w ddefnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig os na ellir darparu dogfennau eraill).
- Datganiad Banc neu Gymdeithas Adeiladu - Wedi'i gyhoeddi o fewn Gwlad y tu allan i AEE, rhaid iddi fod wedi cael ei chyhoeddi o fewn y 3 mis diwethaf - rhaid i'r gangen fod yn y Wlad lle mae'r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio.
Noder
Os yw dogfen ar y Rhestr o Ddogfennau Adnabod Dilys:
- Wedi'i dynodi â * - dylai fod yn llai na thri mis oed;
- Wedi'i ddynodi â ** - dylai fod wedi'i chyhoeddi o fewn y 12 mis diwethaf.
- Heb ei dynodi - gall fod yn fwy na 12 mis oed.
Gallai'r rhestr hon newid.
Ceisiadau DBS - Ceisiadau newydd yn unig
Ffoniwch i drefnu apwyntiad i wneud cais ar gyfer y DBS - 01792 637366. Bydd gofyn i chi fynychu'r Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN ar y dyddiad a'r amser a gadarnhawyd dros y ffôn.
Canllawiau ar euogfarnau ar gyfer ymgeiswyr gyrwyr tacsi a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat
- Wrth gwblhau'r ffurflenni perthnasol, mae'n RHAID i bob ymgeisydd ddatgelu ei euogfarnau, rhybuddiadau, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddion a/neu unrhyw hysbysiadau cosb eraill nad ydynt yn cael eu crybwyll ôl yr angen. Mae methiant bwriadol i wneud hynny, neu ffugio'r ffurflenni yn drosedd ynddo'i hun, ac os caiff ei ddarganfod, mae'n debygol o arwain at erlyniad gan Ddinas a Sir Abertawe. Mae unrhyw drwydded a roddir ar sail gwybodaeth anghyflawn neu ffug hefyd yn agored i gael ei hatal neu ei dirymu. Mae angen manylion erlyniadau sydd ar y gweill hefyd.
- Pan fo euogfarnau, rhybuddiadau, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddion a/neu unrhyw hysbysiadau cosb eraill nad ydynt yn cael eu crybwyll yn cael eu datgelu ar y ffurflen gais, bydd y penderfyniad ynghylch rhoi'r drwydded ai peidio yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Trwyddedu. Ym mhob achos, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol cyn dod i benderfyniad. Bydd gennych hawl i ymddangos yn y Pwyllgor.
- Gall euogfarnau a ddatgelir amrywio o euogfarnau bach iawn i euogfarnau difrifol iawn, ac mewn rhai sefyllfaoedd, mae'n fwy tebygol y bydd y ceisiadau'n cael eu gwrthod. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu fframwaith polisi sy'n manylu ar y gwahanol fathau o droseddau a'u difrifoldeb. Mae hefyd yn nodi'r cyfnod heb unrhyw euogfarnau sy'n briodol.
- Efallai y bydd ffactorau lliniarol a chythruddol sy'n effeithio ar benderfyniad y Pwyllgor. Mae ffactorau lliniarol yn cynnwys bod y drosedd yn un ynysig, gyda record lân fel arall. Mae ffactorau cythruddol yn cynnwys defnyddio neu gynnwys tacsis/cerbydau hurio preifat yn y drosedd dan sylw. Yn achos monitro euogfarnau, mae'r Pwyllgor yn talu sylw penodol am droseddau sy'n ymwneud ag yswiriant y cerbyd.
- Ers mis Mawrth 2002, mae gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975. Canlyniad hyn yw bod pob euogfarn, waeth beth fo'i oedran, y ddedfryd a osodwyd neu'r drosedd a gyflawnwyd, yn parhau i fod yn fyw i ymgeisydd ar gyfer trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat. Mae hyn yn golygu y gellir rhoi ystyriaeth i bob un ohonynt wrth ystyried cais am drwydded o'r fath.
- Atgoffir ymgeiswyr o'u hawl i gael cynrychiolaeth wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor. Byddwch yn derbyn copi o'r adroddiad i'w gyflwyno i'r Pwyllgor tua wythnos cyn gwrandawiad y Pwyllgor ei hun.
Atgoffir ymgeiswyr bod RHAID iddynt gyflwyno trwydded DVLA gyfredol sy'n dangos eu cyfeiriad presennol gyda'u cais. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer ceisiadau newydd a cheisiadau i adnewyddu. Ni fydd y cais yn cael ei ystyried nes bod y drwydded DVLA yn cael ei chynhyrchu.
Y prawf llythrennedd sylfaenol ar gyfer ymgeiswyr gyrrwr tacsi
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy'n ymgeisio am drwydded gyrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat sefyll a phasio prawf llythrennedd sylfaenol yn y lle cyntaf.
Ar y dudalen hon
Ar ôl llwyddo yn y prawf hwn, byddwch yn sefyll y prawf gwybodaeth a fydd hefyd yn cynnwys prawf o'ch sgiliau rhifedd sylfaenol. Nid yw'r prawf rhifedd yn berthnasol i geisiadau Gyrrwr Cyfyngedig.
Mae'r Prawf Llythrennedd Sylfaenol yn cynnwys 5 rhan. Bydd y prawf yn cael ei gynnal o dan amodau arholiad gyda goruchwyliwr yn bresennol a chaniateir i chi gwblhau'r prawf o fewn 15 munud. Mae'n rhaid i chi gael marc o 75% ym mhob un o'r 5 rhan i lwyddo yn y prawf.
Adran 1 Atebion gorau
Yma byddwch yn cael 5 brawddeg a rhaid i chi ddewis yr ateb cywir trwy dicio'r blwch priodol.
Adran 2 Prawf Saesneg
Yma bydd gofyn i chi gwblhau brawddegau.
Adran 3 Deddfwriaeth Hurio Preifat/ Cerbydau Hacni
Yma bydd gofyn i chi ateb cwestiynau amlddewis am gyfreithiau, amodau ac is-ddeddfau trwyddedu cyffredinol ar gyfer gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.
Adran 4 Diogelu
Yma bydd gofyn i chi ateb cwestiynau dewis gwir neu ffug am ddiogelu. Bydd angen i ymgeiswyr ddarllen a deall eu cyfrifoldebau sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn cais.
Adran 5 Prawf Clyw
Yma bydd gofyn i chi wrando ar sgwrs wedi'i recordio ymlaen llaw ac ateb cwestiynau am y sgwrs.
Y prawf Gwybodaeth
Ar y dudalen hon
Bydd angen i chi drefnu apwyntiad i sefyll y prawf gwybodaeth. Fe'ch cynghorir i sefyll y prawf cyn cyflwyno'ch cais am drwydded. Mae angen talu am bob ymgais ar y prawf a bydd angen i chi ddarparu eich derbynneb a chopi o'ch cerdyn llun DVLA ar ddechrau'r prawf. Gweler y tabl ffioedd cyfredol am ragor o wybodaeth.
Mae'r prawf gwybodaeth yn cynnwys 7 rhan. Bydd y prawf yn cael ei gynnal o dan amodau arholiad gyda goruchwyliwr yn bresennol a byddwch yn cael awr i gwblhau'r prawf. Mae'n rhaid i chi gael marc o 75% ym mhob un o'r 7 rhan i lwyddo yn y prawf. Pan fyddwch wedi pasio'r prawf gwybodaeth, byddwch yn derbyn Tystysgrif a fydd yn ddilys am 12 mis a rhaid ei chyflwyno wrth wneud cais am drwydded.
Mae'r cwestiynau yn y prawf gwybodaeth wedi'u llunio i brofi gwybodaeth yr ymgeisydd am yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ynghyd â'i wybodaeth am briffyrdd a ffyrdd cyhoeddus Dinas a Sir Abertawe. Bydd rhannau o'r prawf yn gofyn i'r ymgeisydd feddu ar wybodaeth am dirnodau ac atyniadau adnabyddus yn yr ardal a allai apelio at y cyhoedd, megis gwestai, sinemâu. ysbytai a bywyd gyda'r nos.
Adran 1: A i B
Bydd angen i chi gwblhau atebion llafar ar o leiaf 5 llwybr. Bydd yr arholwr yn gofyn i'r ymgeisydd am y llwybr byrraf a'r mwyaf uniongyrchol rhwng dau bwynt penodol.
Cwestiwn enghreifftiol:
Disgrifiwch ar lafar y llwybr byrraf mwyaf uniongyrchol o'r Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth i Faes Awyr Abertawe?
Adran 2: Defnydd o'r A i Z
Mae'r adran hon yn cynnwys defnyddio llawlyfr A-Z. Rhoddir 5 lleoliad ac mae'n rhaid i'r ymgeisydd nodi tudalen a blwch cyfeirnod grid ar eu cyfer gan ddefnyddio'r llawlyfr A-Z.
Enghraifft o gwestiwn ac ateb
Lleoliad Tudalen Cyfeirnod grid
Defnydd swyddogol
Cae rygbi St Helens - 42, 5c
Adran 3: Deddfwriaeth/ amodau ac is-ddeddfau
Yma bydd gofyn i chi ateb 20 cwestiwn amlddewis am gyfreithiau, amodau ac is-ddeddfau trwyddedu cyffredinol ar gyfer gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.
Enghraifft o arddull cwestiwn:
Faint o fathodynnau fyddai'n cael eu rhoi i Yrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni? Rhowch gylch o amgylch yr ateb cywir
Adran 4: Diogelu
Yma bydd gofyn i chi ateb 5 cwestiwn gwir neu ffug yn ymwneud â Diogelu. Bydd angen i ymgeiswyr ddarllen a deall eu cyfrifoldebau sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn cais.
Enghraifft o arddull ateb:
Gwir neu Ffug
Adran 5: Enwau ffyrdd ac ardaloedd
Mae'r adran hon yn seiliedig ar wybodaeth yr ymgeisydd am y ffyrdd/strydoedd cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe. Y nod yw bod yr ymgeisydd yn nodi'n gywir yr ardal lle mae Ffordd neu Stryd wedi'i lleoli. Ceir 20 cwestiwn yn yr adran hon.
Enghraifft o gwestiwn ac ateb:
Enw'r ffordd neu'r stryd a'r ardal lle mae wedi'i lleoli
Ffordd y Dywysoges, Canol y Ddinas
Adran 6: Mannau o ddiddordeb
Mae'r adran hon yn seiliedig ar fannau o ddiddordeb i'r cyhoedd. Bydd angen i'r ymgeisydd wybod yr ardal ac enw'r ffordd neu'r stryd ar gyfer atyniadau fel sinemâu, gwestai, bwytai, atyniadau twristaidd, theatrau ac ati. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn hanner marc ar gyfer yr ardal gywir a hanner marc ar gyfer y ffordd neu'r stryd gywir gydag uchafswm o 1 marc llawn fesul cwestiwn. Ceir 10 cwestiwn yn yr adran hon.
Enghraifft o gwestiwn ac ateb:
Man o ddiddordeb, ffordd neu stryd ac ardal
Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, canol y ddinas
Adran 7: Rhifedd sylfaenol
Yma bydd gofyn i chi ateb cwestiynau i ganfod sgiliau rhifedd sylfaenol. Os oes unrhyw bryder mewn perthynas â lefelau Saesneg sgyrsiol yn ystod y prawf, efallai y bydd angen i chi gael rhagor o dystiolaeth ddogfennol o gymhwysedd.
Map o Ddinas a Sir Abertawe
Gwneud apwyntiad i sefyll y Prawf Gwybodaeth
Cysylltwch â'r adran Trwyddedu Tacsis dros y ffôn ar 01792 635600 neu e-bostiwch taxilicensing@swansea.gov.uk
Is-ddeddfau Cerbydau Hacni
Gwnaed o dan Adran 68 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 ac Adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875, gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Mewn perthynas â Cherbydau Hacni yn Ninas a Sir Abertawe.
Ar y dudalen hon
Dehongliad
1. Drwy gydol yr is-ddeddfau hyn mae "y Cyngor" yn golygu Cyngor Dinas a Sir Abertawe.
Caiff y darpariaethau sy'n rheoleiddio'r modd y mae rhif pob Cerbyd Hacni yn cyfateb â rhif ei drwydded eu harddangos
2.(a) Bydd perchennog cerbyd hacni yn peri bod rhif y drwydded a gyflwynwyd iddo mewn perthynas â'r cerbyd yn cael ei baentio neu ei farcio'n ddarllenadwy ar du allan a thu mewn y cerbyd, neu ar blatiau sydd wedi'u gosod arno.
(b) Ni fydd perchennog neu yrrwr cerbyd hacni yn:
(i) fwriadol nac yn esgeulus yn peri neu'n goddef bod unrhyw rif o'r fath yn cael ei guddio rhag y cyhoedd tra bo'r cerbyd yn segur neu'n ymgymryd â chael ei hurio;
(ii) peri nac yn yn caniatáu i'r cerbyd fod yn segur neu ymgymryd â chael ei hurio gydag unrhyw farciau paent neu blât sydd wedi'i ddifwyno i'r fath raddau nes bod unrhyw rif neu ddeunydd penodol yn annarllenadwy.
Darpariaethau sy'n rheoleiddio sut y caiff Cerbydau Hacni eu dodrefnu neu eu darparu
3. Bydd perchennog Cerbyd Hacni yn:
(a) darparu digon o fodd fel y gall unrhyw berson yn y cerbyd gyfathrebu gyda'r gyrrwr;
(b) sicrhau bod y to neu'r gorchudd yn dal dŵr;
(c) darparu unrhyw ffenestri angenrheidiol a modd o'u hagor a'u cau, o leiaf un ffenestr ar bob ochr;
(d) sicrhau bod y seddi wedi'u clustogi a'u gorchuddio'n gywir;
(e) sicrhau bod y llawr wedi'i garpedu'n iawn, neu gyda mat neu orchudd priodol arall;
(f) sicrhau bod y ffitiadau a'r dodrefn yn gyffredinol yn cael eu cadw mewn cyflwr glân, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac ym mhob ffordd yn addas ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus;
(g) darparu ffordd o ddiogelu'r bagiau os yw'r cerbyd wedi'i gynhyrchu yn y fath fodd i gario bagiau;
(h) darparu diffoddydd tân 2.5kg addas sy'n gallu gollwng am gyfnod o 10 eiliad. Mae'n rhaid i'r diffoddydd gael ei farcio gyda rhif plât y cerbyd, yn hawdd ei weld ar gyfer defnydd brys ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n unol â'r Safon Brydeinig gyfredol; a
(i) darparu o leiaf dau ddrws i'w defnyddio gan bobl sy'n cael eu cludo yn y fath gerbyd a modd ar wahân i'r gyrrwr fynd i mewn ac allan o'r cerbyd.
4. Bydd perchennog Cerbyd Hacni yn peri bod unrhyw fesurydd tacsi a ddarperir gyda'r cerbyd yn cael ei adeiladu, ei osod a'i gynnal yn y fath fodd fel y bydd yn cydsynio gyda'r gofynion canlynol:
(a) caiff dyfais ei gosod ar y mesurydd tacsi a fydd yn gweithredu mecanwaith y mesurydd gan achosi i'r gair "HIRED" ymddangos ar wyneb y mesurydd. Bydd mesuryddion presennol nad ydynt yn arddangos y gair "HIRED" ar yr wyneb yn cael eu heithrio nes bod y mesurydd neu'r cerbyd yn cael ei ddisodli, pa un bynnag sydd gynharaf;
(b) bydd modd cloi dyfais o'r fath mewn sefyllfa fel nad yw mecanwaith y mesurydd ar waith ac na chofnodir unrhyw bris ar wyneb y mesurydd tacsi pan nad yw'r cerbyd wedi'i hurio;
(c) pan fo mecanwaith y mesurydd tacsi ar waith, bydd pris y daith wedi'i gofnodi ar wyneb y mesurydd mewn ffigurau clir nad yw'n fwy na chyfradd y ffi y mae hawl i'r perchennog neu'r gyrrwr ei godi am hurio'r cerbyd yn ôl amser neu bellter yn unol â'r tariff a bennir gan y Cyngor yn hynny o beth;
(d) bydd y gair 'FARE' yn dangos ar wyneb y mesurydd tacsi mewn llythrennau plaen fel ei fod yn amlwg yn berthnasol i'r ffi a nodir arno;
(e) rhaid i'r mesurydd tacsi gael ei osod fel bod pob llythyren a rhif ar wyneb y mesurydd yn weladwy i unrhyw un sy'n cael ei gludo yn y cerbyd, ac at y diben hwnnw, bydd modd goleuo'r llythrennau a'r ffigyrau'n briodol yn ystod unrhyw gyfnod hurio; a
(f) rhaid i'r mesurydd tacsi a'r holl ffitiadau gael eu gosod ar y cerbyd gyda seliau ac offerynnau priodol i atal unrhyw un rhag ymyrryd â nhw ac eithrio trwy dorri, difrodi neu ddisodli'r seliau/offerynnau yn barhaol.
Darpariaethau sy'n ymwneud ag ymddygiad perchnogion a gyrwyr Cerbydau Hackney sy'n ymgymryd â hurio o fewn ardal y Cyngor yn eu cyflogaethau amrywiol, a phenderfynu a ddylai gyrwyr o'r fath wisgo unrhyw fathodynnau pha rai
2. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni:
(a) wrth fod yn segur neu ymgymryd â hurio, yn cadw'r ddyfais a osodwyd o ganlyniad i'r is-ddeddf i'r tu hwnnw, wedi'i gloi yn y safle lle na chaiff unrhyw bris ei gofnodi ar wyneb y mesurydd tacsi;
(b) cyn dechrau'r daith lle mae'r pris yn talu am bellter neu amser, gweithredu mecanwaith y mesurydd tacsi trwy symud y ddyfais fel bod y gair 'HIRED' i'w weld ar wyneb y mesurydd, a chadw mecanwaith y mesurydd yn gweithredu nes bod y daith wedi dod i ben. Bydd mesuryddion presennol nad ydynt yn arddangos y gair "HIRED" ar yr wyneb yn cael eu heithrio nes bod y mesurydd neu'r cerbyd yn cael ei ddisodli, pa un bynnag sydd gynharaf; a
(c) sicrhau bod deial y mesurydd tacsi yn cael ei gadw wedi'i oleuo'n briodol drwy gydol teithiau sy'n digwydd yn ystod oriau tywyllwch (sef hanner awr ar ôl machlud yr haul a hanner awr cyn y wawr), a hefyd ar unrhyw amser arall ar gais y sawl sy'n hurio.
3. Ni fydd perchennog na gyrrwr Cerbyd Hacni yn amharu ar nac yn caniatáu bod unrhyw berson yn amharu ar unrhyw fesurydd tacsi y mae'r cerbyd yn cael ei ddarparu ag ef, gyda'r ffitiadau sy'n gysylltiedig ag ef na'r seliau sydd wedi eu hatodi.
4. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni, wrth iddo ymgymryd â hurio mewn unrhyw stryd a heb gael ei hurio eto:
(a) yn gyrru ar gyflymder rhesymol tuag at un o'r safleoedd a benodwyd gan yr is-ddeddf yn hynny o beth;
(b) os bydd safle, ar yr adeg y bydd yn cyrraedd, yn llawn o ran y nifer llawn o gerbydau yr awdurdodir i fod yno, yn gyrru at safle arall;
(c) ar ôl cyrraedd safle nad yw eisoes yn llawn o ran nifer llawn y cerbydau yr awdurdodir i fod yno, bydd yn stopio'r cerbyd yn union y tu ôl i'r cerbyd neu'r cerbydau yn yr safle fel ei fod yn wynebu'r un cyfeiriad; ac
(d) o bryd i'w gilydd pan fydd unrhyw gerbyd arall yn union o'i flaen yn cael ei yrru i ffwrdd neu ei symud ymlaen, bydd yn symud ei gerbyd ymlaen er mwyn llenwi'r lle yr oedd y cerbyd sydd wedi gyrru i ffwrdd neu symud ymlaen.
5. Ni fydd perchennog neu yrrwr Cerbyd Hacni, pan fydd yn segur neu'n ymgymryd â chael ei hurio, yn galw allan neu fel arall, yn erfyn ar unrhyw berson i hurio cerbyd o'r fath, ac ni fydd yn defnyddio gwasanaethau unrhyw berson arall i'r perwyl hwn.
6. (a) Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn ymddwyn mewn modd cwrtais a threfnus; ac
(b) yn cymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau diogelwch y rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd, neu'n mynd i mewn neu allan o'r cerbyd.
7. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni sydd wedi cytuno neu sydd wedi cael ei hurio i weinyddu'r cerbyd ar adeg a lle penodol, yn mynychu'n brydlon, oni bai ei fod wedi'i oedi neu ei atal drwy ryw achos digonol, gyda cherbyd o'r fath ar yr amser penodol ac yn y lle a benodwyd.
8. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni pan gaiff ei hurio i yrru i unrhyw gyrchfan benodol, yn amodol ar unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan sawl sy'n hurio, fynd i'r gyrchfan honno gan ddefnyddio'r llwybr byrraf sydd ar gael.
9. Ni fydd perchennog neu yrrwr Cerbyd Hacni yn cludo nac yn caniatáu cludo, mwy o bobl na'r nifer a bennir ar y plât sydd wedi ei atodi at gorff allanol y cerbyd.
10. Bydd y bathodyn a ddarperir gan y Cyngor a'i ddanfon at yrrwr Cerbyd Hacni, pan fydd y cerbyd yn segur neu'n ymgymryd â hurio, ac wrth hurio, yn cael ei wisgo gan y gyrrwr yn y fath safle a'r fath fodd fel ei fod yn weladwy.
11. Bydd yr ail fathodyn a ddarperir gan y Cyngor a'i ddanfon at yrrwr Cerbyd Hacni, pan fydd y cerbyd yn segur neu'n ymgymryd â hurio, ac wrth hurio, yn cael ei arddangos ar ffasgai'r cerbyd mewn lle amlwg fel ei fod yn weladwy i'r holl deithwyr.
12. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni sicrhau na fydd unrhyw set radio sydd wedi'i gosod ar y cerbyd neu unrhyw offer ar gyfer chwarae cerddoriaeth yn cael ei weithredu mewn modd fel bod yn achosi aflonyddwch oherwydd ei ddefnydd swnllyd, parhaus neu ailadroddus. Bydd unrhyw offer (ac eithrio ar gyfer derbyn negeseuon) yn cael ei ddiffodd ar gais y sawl sy'n hurio.
13. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni sydd wedi derbyn trwydded neu fathodyn Cerbyd Hacni gan y Cyngor, adrodd o fewn 3 diwrnod gwaith pe bai'r drwydded neu'r bathodyn yn cael ei golli neu ei ddwyn.
14. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni sydd wedi derbyn bathodyn Cerbyd Hacni gan y Cyngor ddychwelyd y bathodyn i'r Cyngor o fewn 7 diwrnod gwaith iddo ddod i ben, neu'n dilyn atal neu ddirymu'r drwydded yrru.
15. Pan fydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn cyrraedd lleoliad a drefnwyd gyda'r huriwr, bydd yn nodi ei fod wedi cyrraedd drwy guro ar y drws neu ganu'r gloch drws fel bo'n briodol. Ni ddylid seinio corn y cerbyd heblaw mewn amgylchiadau a nodir yn rheolau'r ffordd fawr, neu mewn argyfwng.
16. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni fod wedi'i wisgo'n briodol mewn dillad glân addas. Ni chaniateir gwisgo festiau, siorts neu ddillad budr neu fod â brest noeth.
17. Ni fydd gyrrwr Cerbyd Hacni, wrth fod yn segur neu wrth ymgymryd â hurio, neu ar ôl cael ei hurio yn;
(a) ysmygu yn y cerbyd ar unrhyw adeg; nac yn
(b) yfed neu fwyta yn y cerbyd wrth gario teithwyr.
18. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni a gafwyd yn euog o unrhyw drosedd yn ystod cyfnod y drwydded hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig, o fewn 3 diwrnod gwaith i'r euogfarn honno.
19. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni fynd â pherson anabl, yng nghwmni tywysydd, ci clyw neu gi cymorth arall, neu unrhyw berson sy'n ofynnol iddo fynd gydag ef mewn Cerbyd Hacni heb unrhyw ffi ychwanegol oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn rhoi eithriad ar sail feddygol.
20. Rhaid i yrrwr Cerbyd Hacni hysbysu perchennog y cerbyd ar unwaith os yw'r diffoddydd tân a ddarperir i'w ddefnyddio yn y cerbyd wedi'i ddefnyddio at unrhyw ddiben.
21. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn sicrhau bod Tystysgrif Yswiriant gyfredol yn cael ei chario yn y cerbyd bob amser ac yn cael ei chyflwyno ar gais i unrhyw swyddog awdurdodedig o'r Cyngor neu Swyddog yr Heddlu.
22. Ni fydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn cludo nac yn caniatáu cludo unrhyw berson arall heb ganiatâd y sawl sy'n hurio ar y daith honno.
23. Rhaid i berchennog a gyrrwr Cerbyd Hacni hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod am unrhyw newid cyfeiriad.
24. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni, ar gais unrhyw berson sy'n hurio neu'n ceisio hurio'r cerbyd, yn:
(a) cludo swm rhesymol o fagiau, siopa neu eiddo o natur debyg;
(b) rhoi cymorth rhesymol i lwytho a dadlwytho; a
(c) rhoi cymorth rhesymol wrth eu symud i fynedfa neu oddi wrth fynedfa unrhyw adeilad, gorsaf neu fan y gall gasglu neu ollwng y person.
Darpariaethau sy'n sicrhau gwarchodaeth ddiogel ac ail-ddosbarthu unrhyw eiddo a adawyd drwy ddamwain mewn Cerbydau Hacni, a gosod y prisiau sydd i'w codi mewn perthynas â hynny
25. Bydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn syth ar ôl diwedd taith neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny, yn chwilio'r cerbyd yn ofalus am unrhyw eiddo a allai fod wedi cael ei adael ynddo ar ddamwain.
26. Os bydd gyrrwr Cerbyd Hacni yn dod o hyd i unrhyw eiddo wedi'i adael yn ddamweiniol yn y Cerbyd Hacni gan unrhyw un a allai fod wedi cael ei gludo yn y cerbyd, bydd yn:
(a) ei gludo cyn gynted â phosibl ac ym mhob achos o fewn pedair awr ar hugain os nad yw'n cael ei hawlio'n gynt gan ei berchennog neu ar ei ran, i unrhyw orsaf heddlu o fewn ardal y Cyngor, a'i adael dan warchodaeth y swyddog sy'n gofalu am yr orsaf ar ôl iddo roi derbynneb amdano;
(b) cael yr hawl i dderbyn oddi wrth unrhyw berson y bydd yr eiddo yn cael ei ail-ddosbarthu iddo, swm sy'n gyfartal â phum ceiniog yn y bunt o amcangyfrif ei werth (neu'r pris am y pellter o'r man y cafodd ei ddarganfod i swyddfa'r Cyngor, pa bynnag un fyddo fwyaf), ond dim mwy na phum punt.
Darpariaethau sy'n pennu safleoedd Cerbydau Hacni
27. Bydd yr holl leoedd a bennir gan y Cyngor yn safleoedd ar gyfer y nifer o Gerbydau Hacni a nodir.
Darpariaeth sy'n pennu'r cyfraddau neu'r prisiau sydd i'w talu ar gyfer Cerbydau Hacni yn ardal y Cyngor ac yn sicrhau cyhoeddi prisiau o'r fath yn briodol
28. Bydd hawl gan berchennog neu yrrwr Cerbyd Hacni i orchymyn a chymryd arian am hurio'r cerbyd yn ôl y gyfradd neu'r pris a ragnodwyd gan y Cyngor, sef y gyfradd neu'r pris sy'n cael ei gyfrifo drwy gyfuniad o bellter ac amser oni bai fod y person sy'n hurio yn dymuno ar ddechrau'r cyfnod hurio ei ddymuniad i gyflogi yn ôl amser. Ar yr amod bob amser, pan fo Cerbyd Hacni yn cynnwys mesurydd tacsi, y bydd yn cael ei hurio yn ôl pellter ac amser, ni fydd hawl gan berchennog neu yrrwr i ofyn na chymryd pris sy'n fwy na'r pris a gofnodwyd ar y mesurydd tacsi, ac eithrio unrhyw daliadau ychwanegol a awdurdodwyd gan y Cyngor, a allai beidio â bod yn bosibl eu cofnodi ar wyneb y mesurydd.
Tariffau ychwanegol
Caiff gyrrwr Cerbyd Hacni weithredu tariff ychwanegol, ar yr amod ei fod yn is na'r tabl prisiau cyfredol Cerbydau Hacni a gymeradwywyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan ddarpariaethau adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
29. Rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am unrhyw dariffau ychwanegol.
30. Bydd perchennog Cerbyd Hacni yn sicrhau bod datganiad o'r prisiau a osodwyd gan benderfyniad y Cyngor yn hynny o beth yn cael ei arddangos o fewn y cerbyd, mewn llythrennau a ffigurau clir a darllenadwy.
31. Ni fydd perchennog na gyrrwr Cerbyd Hacni sy'n cario datganiad o'r prisiau yn unol 'r is-ddeddf hon yn peri nac yn goddef drwy fwriad nac esgeulustod fod llythrennau neu ffigurau yn y datganiadau yn cael eu cuddio na'u gwneud yn annarllenadwy ar unrhyw adeg tra bo'r cerbyd yn ymgymryd â hurio neu wrthi'n cael ei hurio.
32. Bydd gan berchennog neu yrrwr Cerbyd Hacni hawl i hawlio swm nad yw'n fwy na'r hyn a gymeradwywyd gan y Cyngor gan unrhyw berson sy'n baeddu'r cerbyd yn y fath fodd sy'n achosi i du mewn y cerbyd orfod cael ei lanhau neu ei fygdarthu.
Cosbau
33. Bydd unrhyw un sy'n troseddu yn erbyn unrhyw un o'r is-ddeddfau hyn yn atebol yn dilyn Euogfarn Ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 2, ac yn achos trosedd parhaus, i ddirwy bellach na fydd yn fwy na £2, neu fel y'i diwygiwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol am bob dydd y mae'r drosedd yn parhau ar ôl euogfarn am hynny.
Amodau trwyddedu ar gyfer gyrwyr cerbydau Hurio Preifat
1. Gwnaed yr amodau hyn yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Gall torri un neu ragor o'r Amodau hyn arwain at atal, dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded yn unol ag Adran 61 o'r Ddeddf honno a/neu erlyniad pe bai trosedd o dan gyfraith Trwyddedu Tacsi.
2. Yn y drwydded hon:
Ystyr "y Cyngor" yw Dinas a Sir Abertawe
Ystyr "Deddf 1976" yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Ystyr "Swyddog Awdurdodedig" yw unrhyw berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Cyngor at ddibenion y Ddeddfwriaeth Berthnasol
Ystyr "Trwydded Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat"yw Trwydded a ddyroddir yn unol ag Adran 51 o Ddeddf 1976
Ystyr "Teithiwr" yw unrhyw berson sy'n hurio'r Cerbyd a, lle mae'r cyd-destun yn caniatáu, yn cynnwys unrhyw berson sydd â hawl i gael ei gludo yn y cerbyd yn unol â'i hurio
Ystyr "Platiau Trwydded" yw'r platiau a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hurio Preifat a drwyddedwyd gan y Cyngor hwn
Ystyr "y Cerbyd" yw'r Cerbyd Hurio Preifat a bennir yn y Drwydded
Ystyr "Y Gyrrwr Trwyddedig" yw'r person sydd wedi'i drwyddedu gan y Cyngor i yrru cerbydau o'r math penodol hwn at ddibenion hurio neu dderbyn tâl
Ystyr "Arwyddion Drws" yw'r arwyddion a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hurio Preifat a drwyddedwyd gan y Cyngor
3. Mae'r Drwydded yn cael ei rhoi i'r person a enwir arni i weithredu fel gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat yn ardal y Cyngor yn amodol ar gydsyniad gweithredwr/perchennog y cerbyd hwnnw ac yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn yr ardal honno.
4. Ni roddir trwydded i unrhyw un nad yw'r cyngor yn ei ystyried yn addas ac yn briodol i weithredu fel gyrrwr cerbyd hurio preifat.
5. Dim ond teithwyr sydd wedi archebu eu taith ymlaen llaw trwy weithredwr trwyddedig y bydd gyrwyr Cerbyd Hurio Preifat yn eu cludo. Rhaid i yrwyr cerbyd hurio preifat beidio â cheisio cael eu hurio.
6. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i wrthod rhoi trwydded pan fo'r ymgeisydd eisoes wedi'i gyflogi fel gyrrwr mewn gweithgaredd arall, e.e. gyrrwr bws neu drafnidiaeth.
7. Ar ôl talu'r ffi briodol, bydd y drwydded yn parhau i fod yn weithredol, oni bai ei bod yn cael ei hatal neu ei dirymu gan y Cyngor, am flwyddyn a bydd yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn cyhoeddi'r drwydded.
8. Pan delir ffi'r drwydded gyda siec nad yw'n cael ei anrhydeddu, bydd y drwydded a roddir yn ddi-rym.
9. Rhaid gwneud cais i adnewyddu trwydded cyn i'r drwydded gyfredol ddod i ben i sicrhau cysondeb. Bydd ceisiadau i adnewyddu a dderbynnir ar ôl y dyddiad y daw'r drwydded i ben yn cael eu trin fel ceisiadau newydd.
10. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer trwydded yrru newydd ddarparu tystiolaeth i'r Cyngor ei fod ef/hi wedi cael archwiliad meddygol Grŵp II o fewn pedair wythnos cyn dyddiad y cais, ynghyd â thystysgrif wedi'i llofnodi gan yr archwiliwr meddygol yn cadarnhau ffitrwydd yr ymgeisydd i yrru cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r dystysgrif feddygol gael ei chwblhau gan feddyg teulu'r ymgeisydd. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda'r meddyg teulu am y 12 mis blaenorol.
11. Wrth wneud cais am drwydded, rhaid i'r gyrrwr ddatgelu'r holl euogfarnau a rhybuddion blaenorol. Mae methiant bwriadol i wneud hynny, neu ffugio'r ffurflen gais yn drosedd a all arwain at erlyniad. Mae angen manylion unrhyw erlyniadau sydd ar y gweill hefyd. Mae'r Gwiriad Biwro Cofnodion Troseddol yn ddilys am 3 blynedd ar yr amod bod y drwydded yn parhau i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bathodyn/trwydded gyrwyr
12. Rhaid gwisgo'r bathodyn cyfredol a roddwyd gan y Cyngor fel ei fod yn amlwg ac yn weledol bob amser tra bod y gyrrwr yn ymgymryd â dyletswyddau trwyddedig. Rhaid arddangos ail fathodyn, fel y'i rhoddwyd gan y Cyngor, ar ffasgia'r car neu mewn safle amlwg fel ei fod yn amlwg i'r holl deithwyr. Rhaid i'r holl fathodynnau sydd wedi dod i ben gael eu tynnu o'r cerbyd ac ni ddylid eu harddangos.
13. Rhaid hysbysu'r Swyddfa Drwyddedu ar unwaith os bydd unrhyw drwydded neu fathodyn yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn.
14. Os bydd trwydded neu fathodyn yn cael ei golli, mae'n rhaid cael un newydd cyn gynted â phosibl. Codir ffi am amnewid trwydded neu fathodyn.
Y Gyrrwr
16. Rhaid i yrwyr ymddwyn mewn modd cwrtais a threfnus tuag at yr holl deithwyr ac aelodau o'r cyhoedd pan fydd ar ddyletswydd.
17. Wrth gyrraedd lleoliad a drefnwyd gyda'r huriwr, bydd y gyrrwr yn nodi ei fod wedi cyrraedd drwy guro ar y drws neu ganu'r gloch drws fel bo'n briodol. Ni ddylid seinio corn y cerbyd heblaw mewn amgylchiadau a nodir yn rheolau'r ffordd fawr, neu mewn argyfwng.
18. Mae'n rhaid i yrwyr gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth traffig ffyrdd bob amser.
19. Rhaid i yrwyr fod wedi'u gwisgo'n briodol ac yn rhesymol mewn dillad glân addas. Nid yw brest noeth, festiau neu ddillad budr yn dderbyniol.
20. Ni chaiff gyrrwr ddefnyddio cerbyd fel cerbyd hurio preifat nad yw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan y Cyngor.
21. Rhaid i yrwyr gynorthwyo teithwyr gyda nifer rhesymol o fagiau a chynnig cymorth rhesymol os oes angen, gan gynnwys cario bagiau i fynedfa unrhyw adeilad, gorsaf neu ardal lle bydd yn codi neu'n gollwng teithwyr o'r fath.
22. Bydd gyrrwr yn cymryd pob rhagofal i sicrhau diogelwch y rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd, neu'n mynd i mewn neu allan ohono.
23. Ni chaiff gyrrwr cerbyd hurio preifat gludo mwy o bobl yn y cerbyd na nifer y bobl y mae'r cerbyd wedi'i drwyddedu i'w cludo.
24. Bydd y gyrrwr yn mynd â'r cerbyd ar yr amser a benodwyd i'r lle a benodwyd, oni bai ei fod yn cael ei oedi'n anorfod neu'n cael ei atal am reswm y gellir ei gyfiawnhau, pan fydd trefniant i hurio wedi cael ei dderbyn.
25. Bydd gyrrwr y cerbyd sydd wedi'i hurio i fynd i gyrchfan benodol yn teithio i'r gyrchfan honno ar y llwybr byrraf sydd ar gael oni bai bod y sawl sy'n hurio yn gofyn iddo wneud fel arall.
26. Ni fydd gyrrwr cerbyd hurio preifat yn cludo nac yn caniatáu cludo unrhyw berson arall heb ganiatâd y sawl sy'n hurio ar y daith honno.
27. Rhaid i yrwyr beidio ag ysmygu ar unrhyw adeg yn y cerbyd. Gwaherddir yfed neu fwyta hefyd wrth gario teithwyr oni bai bod y sawl sy'n hurio yn caniatáu.
28. Rhaid i yrwyr bob amser yrru mewn modd gofalus a phriodol gan ystyried teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.
29. Rhaid i'r gyrrwr gynnal a chadw'r Cerbyd Trwyddedig i sicrhau lefel uchel o lendid.
30. Bydd y gyrrwr yn sicrhau nad yw unrhyw radio sydd wedi'i osod yn y cerbyd nac unrhyw offer arall ar gyfer chwarae cerddoriaeth yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n tarfu ar bobl eraill o ganlyniad i ddefnydd parhaus, swnllyd neu ailadroddus, boed hynny y tu mewn neu du allan i'r cerbyd. Bydd unrhyw offer (ac eithrio ar gyfer derbyn negeseuon) yn cael ei ddiffodd ar gais y sawl sy'n hurio.
31. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat fynd â pherson anabl, yng nghwmni tywysydd, ci clyw neu gi cymorth arall, neu unrhyw berson sy'n ofynnol iddo fynd gydag ef mewn cerbyd hurio preifat heb unrhyw ffi ychwanegol oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn rhoi eithriad ar sail feddygol.
32. Mae'n rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat gydymffurfio gyda'r holl geisiadau rhesymol ynghylch materion trwyddedu tacsi a wneir gan swyddog awdurdodedig neu Swyddog yr Heddlu.
33. Ni fydd gyrrwr yn caniatáu i'r canlynol gael eu cludo ym mlaen cerbyd trwyddedig:
(i) unrhyw blentyn o dan 10 oed;
(ii) Mwy na'r nifer o bobl a ganiateir.
Hysbysiadau
34. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig am unrhyw newid i'w gyfeiriad o fewn 7 diwrnod i'r newid hwnnw.
35. Rhaid i yrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig os bydd yn trosglwyddo i gyflogwr arall o fewn 3 diwrnod i'r newid hwnnw.
36. Rhaid i unrhyw yrrwr a gafwyd yn euog o unrhyw drosedd gan y llysoedd yn ystod cyfnod y drwydded hysbysu'r Swyddog Trwyddedu yn ysgrifenedig, o fewn 3 diwrnod gwaith i'r euogfarn honno, yn enwedig:
(i) unrhyw drosedd o dan y Deddfau Traffig Ffyrdd a'r Rheoliadau a wneir oddi tanynt:
(ii) unrhyw drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd / anweddusrwydd/trais / cyffuriau;
(iii) unrhyw rybuddion.
37. Rhaid i'r gyrrwr hysbysu perchennog y cerbyd ar unwaith os yw'r diffoddydd tân a ddarperir wedi'i ddefnyddio.
Prisiau
38. Os bydd mesurydd tacsi wedi'i osod mewn cerbyd hurio preifat, ni fydd y gyrrwr yn achosi i'r ffi a gofnodwyd ar y mesurydd gael ei ganslo na'i guddio nes bod y sawl sy'n hurio wedi cael cyfle rhesymol i'w weld a thalu'r pris.
39. Ni ddylai gyrrwr cerbyd hurio preifat fynnu gan yr huriwr swm uwch na'r hyn y cytunwyd arno rhwng yr huriwr a'r gweithredwr, neu os oes mesurydd tacsi wedi'i osod yn y cerbyd ac nad oes cytundeb blaenorol ynghylch y pris, bydd y pris yn dangos ar wyneb y mesurydd tacsi.
Gwiriadau cerbydau
40. Bydd gyrrwr cerbyd trwyddedig yn cynnal archwiliad o du mewn a thu allan y car yn ddyddiol i sicrhau bod y gofynion goleuo a'r Rheoliadau Adeiladu a Defnydd yn cael eu dilyn, a bod y cerbyd yn addas ac yn ddiogel (ar y tu mewn a'r tu allan) i gael ei ddefnyddio fel cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r gyrrwr neu'r perchennog unioni unrhyw ddiffygion ar unwaith.
41. Rhaid i yrrwr cerbyd trwyddedig hysbysu'r perchennog yn ysgrifenedig ar unwaith am unrhyw ddiffygion, a allai effeithio ar ddiogelwch y gyrrwr, teithwyr neu bersonau eraill.
42. Cyn dechrau unrhyw shifft, rhaid i'r gyrrwr archwilio'r cerbyd i sicrhau bod yr arwyddion a'r plât wedi'u harddangos ar y cerbyd yn y safleoedd cywir.
Eiddo coll
43. Bydd y gyrrwr, yn syth ar ôl diwedd taith neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny, yn chwilio'r cerbyd yn ofalus am unrhyw eiddo a allai fod wedi cael ei adael ynddo ar ddamwain.
44. Ar ôl dod o hyd i unrhyw eiddo a adawyd mewn cerbyd ar ddamwain, rhaid i'r gyrrwr ei roi i'r swyddog perthnasol mewn prif Orsaf Heddlu o fewn 24 awr oni bai bod y perchennog yn ei hawlio'n gynt. Rhaid gadael yr eiddo yng ngofal y swyddog cyfrifol yng Ngorsaf yr Heddlu a rhaid i'r gyrrwr gael derbynneb amdano.
Gwiriadau Meddygol
45. Bydd tystysgrif feddygol Grŵp ll a gynhyrchir ar gais, ar ôl rhoi'r drwydded, yn parhau i fod yn ddilys am y cyfnod a nodir isod, ar yr amod na fydd y drwydded yn cael ei dirymu, ei hildio neu'n dod i ben yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn amodol ar y Cyngor yn cadw'r hawl i fynnu bod archwiliad meddygol yn cael ei gynnal ar unrhyw adeg gan ei archwilydd meddygol ei hun.
(a) Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd newydd basio archwiliad meddygol Grŵp II fel y nodir gan y Cyngor. Bydd y dystysgrif hon yn ddilys, yn amodol ar yr uchod, nes bod deiliad y drwydded yn cyrraedd 45 oed.
(b) Ar ôl cyrraedd 45 oed, bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif feddygol Grŵp II eto, ac wedi hynny bob pum mlynedd nes y bydd yn cyrraedd 65 mlwydd oed.
(c) Ar ôl cyrraedd 65 oed, bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif feddygol Grŵp II eto, ac yn flynyddol wedi hynny.
46. Rhaid i yrwyr hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid yn eu cyflwr iechyd a allai effeithio ar eu gallu i yrru cerbyd hurio preifat trwyddedig.
Gwiriadau biwro cofnodion troseddol
47. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ar y cais cyntaf a phob 3 blynedd dilynol gwblhau a llofnodi cais am Wiriad Biwro Cofnodion Troseddol.
Derbynebau ysgrifenedig
48. Rhaid i'r gyrrwr ar gais y teithiwr ddarparu derbynneb ysgrifenedig iddo ar gyfer y pris a dalwyd. Bydd y dderbynneb yn dangos enw a chyfeiriad y gweithredwr a/neu ei fusnes.
Atal/ dirymu ac erlyn
49. Mae gan y Cyngor y pŵer i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu trwydded ar sail briodol. Pan fo trwydded wedi'i chael drwy roi gwybodaeth ffug neu anghyflawn, rhoddir ystyriaeth i atal, dirymu neu wrthod drwydded. Gall y gyrrwr hefyd fod yn agored i erlyniad.
50. Gall torri unrhyw un o'r amodau hyn arwain at ddirymu/atal trwydded a/neu erlyniad pe byddai'r tor-rheol yn drosedd o dan gyfraith trwyddedu tacsis.
Nodiadau i berchnogion Cerbydau Hacni
Ar y dudalen hon
Deddfau sy'n berthnasol i berchnogion Cerbydau Hacni
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Is-ddeddfau Dinas a Sir Abertawe sy'n ymwneud â Cherbydau Hacni
Trwyddedu Cerbydau Hacni
Rhaid i gerbydau sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor fod yn fecanyddol addas ac yn addas i'w diben. Bydd angen archwiliad a phrawf cynhwysfawr cyn trwyddedu a bydd ffi yn daladwy mewn perthynas â phob trwydded cerbyd. Rhaid i'r Cyngor ystyried bod Perchennog Cerbyd Hacni yn berson addas a phriodol.
Cerbydau wedi'u haddasu i redeg ar LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig)
Rhaid i bob trawsnewidiad i LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig) gael ei gwblhau gan Osodwr Cymeradwy LPGA (Cymdeithas Nwy Petrolewm Hylifedig) a dylai perchennog dderbyn tystysgrif Trosi i LPG y mae'n rhaid ei dangos wrth ymgeisio ar gyfer Trwydded Cerbyd Hacni.
Yswiriant
Wrth ymgeisio am Drwydded Cerbyd Hacni, mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif yswiriant cyfredol sy'n cwmpasu defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo teithwyr sy'n talu.
Mae trawsnewid cerbyd i redeg ar LPG yn cae ei ystyried yn addasiad a rhaid hysbysu'r cwmni yswiriant.
Dylai telerau'r yswiriant a drefnir hefyd gynnwys y canlynol:
(i) Indemniad diderfyn am anaf a marwolaeth i deithwyr a thrydydd partïon eraill.
(ii) Indemniad o £1,000,000.00 o leiaf am ddifrod i eiddo trydydd parti - ac eithrio'r un sy'n cael ei gludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
(iii) Yswiriant o hyd at £50.00 o leiaf am ddifrod i eiddo sy'n perthyn i'r rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
Trosglwyddo cerbyd i berchennog arall
Gellir trosglwyddo trwyddedau Cerbydau Hacni yn ystod tymor y drwydded. Ym mhob achos, rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o drosglwyddiad, sy'n nodi enw a chyfeiriad llawn y person y trefnir y trosglwyddiad iddo, i'r Swyddfa Drwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod. Bydd perchennog sy'n methu â hysbysu'r Cyngor am drosglwyddiad o'r fath yn cyflawni trosedd a gall wynebu erlyniad. Os yw'r cyngor o'r farn nad yw'r person y trosglwyddwyd y drwydded iddo yn berson addas i ddal y drwydded honno, gall atal y drwydded dros dro, ei dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded ar yr amod bod rheswm rhesymol dros wneud hynny.
Cynnal a chadw cerbyd
Mae'r perchennog yn gyfrifol am:
i. sicrhau bod y cerbyd trwyddedig yn cael ei gadw'n lân ac mewn cyflwr da bob amser;
ii. adrodd am unrhyw ddifrod i'r cerbyd sy'n effeithio ar ei ddiogelwch, perfformiad ac edrychiad, neu gyfleustra neu gysur teithwyr.
Rhaid rhoi gwybod i'r Swyddfa Drwyddedu am faterion o'r fath o fewn 72 awr a gwneud trefniadau i'r cerbyd gael ei archwilio gan Arolygydd Cerbydau'r Cyngor yn yr Uned Drafnidiaeth Ganolog CYN dechrau'r gwaith atgyweirio. Ni ddylid defnyddio cerbydau sydd wedi cael eu difrodi.
Gall Swyddog awdurdodedig o'r Cyngor neu unrhyw Swyddog Heddlu archwilio Cerbyd Hacni trwyddedig ar unrhyw adeg resymol, ac os nad yw'n fodlon o ran addasrwydd y cerbyd, gall, drwy hysbysiad i'r Perchennog, ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd fod ar gael i'w archwilio ymhellach ac atal y drwydded dros dro nes bod y cerbyd wedi'i gadarnhau i fod yn addas.
Gall Perchennog sy'n cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth a restrir yn y nodiadau hyn neu neu sy'n methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, beri i'r Cyngor arfer pwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu ei drwydded(au) fel yr ystyrir ei fod yn briodol.
Trwyddedau gyrru
Rhaid i Berchnogion Cerbydau gadw cofnod o yrwyr eu cerbydau a phryd maent yn eu gyrru. Mae'n rhaid i'r drwydded a roddir i bob gyrrwr unigol a gyflogir gael ei chadw gan y Perchennog a'i dychwelyd i'r Gyrrwr pan fydd y trefniant yn dod i ben.
Rhwystro swyddog awdurdodedig
Mae'n drosedd i fethu â chydymffurfio heb esgus rhesymol ag unrhyw ofyniad rhesymol gan Swyddog Awdurdodedig y Cyngor neu Swyddog yr Heddlu neu fethu â darparu unrhyw gymorth neu wybodaeth sy'n ofynnol ganddo ef/hi mewn cysylltiad â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.
Arwyddion cerbydau, hysbysebion a manylion adnabod
Rhaid i berchnogion beidio â chaniatáu i arwyddion, hysbysiadau na hysbysebion gael eu harddangos o fewn, ar neu allan o Gerbyd Hacni oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan y Cyngor.
Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gyfrifol am osod a chynnal plât adnabod y drwydded (a roddwyd gan y Cyngor gyda'r drwydded) ar gefn y cerbyd yn ôl y cyfarwyddyd. Mae'r plât yn parhau i fod yn eiddo i'r cyngor. Mae perchennog sy'n methu â dychwelyd y plât pan ofynnir iddo wneud hynny heb esgus rhesymol yn cyflawni trosedd.
Pwerau'r Cyngor
Mae gan y Cyngor bwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu o ganlyniad i unrhyw ymddygiad sydd i'w weld yn gwneud Perchnogion yn anaddas i ddal trwyddedau.
Cyfnod y drwydded
Bydd trwydded fel arfer yn cael ei rhoi am gyfnod o ddeuddeg mis. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir rhoi trwydded tymor byr ond dim ond yn ôl disgresiwn y Cyngor.
Nodiadau ar gyfer perchnogion cerbydau Hurio Preifat
Ar y dudalen hon
Deddfau sy'n berthnasol i berchnogion Cerbydau Hurio Preifat
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat
Rhaid i gerbydau sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor fod yn fecanyddol addas ac yn addas i'w diben. Bydd angen archwiliad a phrawf cynhwysfawr cyn trwyddedu a bydd ffi yn daladwy mewn perthynas â phob trwydded cerbyd. Rhaid i'r Cyngor ystyried bod Perchennog cerbyd Hurio Preifat yn berson addas a phriodol.
Cerbydau wedi'u haddasu i redeg ar LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig)
Rhaid i bob trawsnewidiad i LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig) gael ei gwblhau gan Osodwr Cymeradwy LPGA (Cymdeithas Nwy Petrolewm Hylifedig) a dylai perchennog dderbyn tystysgrif Trosi i LPG y mae'n rhaid ei dangos wrth ymgeisio ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat.
Yswiriant
Wrth ymgeisio am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat, mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif yswiriant cyfredol sy'n cwmpasu defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo teithwyr sy'n talu.
Mae trawsnewid cerbyd i redeg ar LPG yn cae ei ystyried yn addasiad a rhaid hysbysu'r cwmni yswiriant.
Dylai telerau'r yswiriant a drefnir hefyd gynnwys y canlynol:
(i) Indemniad diderfyn am anaf a marwolaeth i deithwyr a thrydydd partïon eraill.
(ii) Indemniad o £1,000,000.00 o leiaf am ddifrod i eiddo trydydd parti - ac eithrio'r un sy'n cael ei gludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
(iii) Yswiriant o hyd at £50.00 o leiaf am ddifrod i eiddo sy'n perthyn i'r rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
Trosglwyddo cerbyd i berchennog arall
Gellir trosglwyddo trwyddedau Hurio Preifat yn ystod tymor y drwydded. Ym mhob achos, rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o drosglwyddiad, sy'n nodi enw a chyfeiriad llawn y person y trefnir y trosglwyddiad iddo, i'r Swyddfa Drwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod. Bydd perchennog sy'n methu â hysbysu'r Cyngor am drosglwyddiad o'r fath yn cyflawni trosedd a gall wynebu erlyniad. Os yw'r cyngor o'r farn nad yw'r person y trosglwyddwyd y drwydded iddo yn berson addas i ddal y drwydded honno, gall atal y drwydded dros dro, ei dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded ar yr amod bod rheswm rhesymol dros wneud hynny.
Cynnal a chadw cerbyd
Mae'r perchennog yn gyfrifol am:
i. sicrhau bod y cerbyd trwyddedig yn cael ei gadw'n lân ac mewn cyflwr da bob amser;
ii. adrodd am unrhyw ddifrod i'r cerbyd sy'n effeithio ar ei ddiogelwch, perfformiad ac edrychiad, neu gyfleustra neu gysur teithwyr.
Rhaid rhoi gwybod i'r Swyddfa Drwyddedu am faterion o'r fath o fewn 72 awr a gwneud trefniadau i'r cerbyd gael ei archwilio gan Arolygydd Cerbydau'r Cyngor yn yr Uned Drafnidiaeth Ganolog CYN dechrau'r gwaith atgyweirio. Ni ddylid defnyddio cerbydau sydd wedi cael eu difrodi.
Gall Swyddog awdurdodedig o'r Cyngor neu unrhyw Swyddog Heddlu archwilio cerbyd Hurio Preifat trwyddedig ar unrhyw adeg resymol, ac os nad yw'n fodlon o ran addasrwydd y cerbyd, gall, drwy hysbysiad i'r Perchennog, ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd fod ar gael i'w archwilio ymhellach ac atal y drwydded dros dro nes bod y cerbyd wedi'i gadarnhau i fod yn addas.
Gall Perchennog sy'n cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth a restrir yn y nodiadau hyn neu neu sy'n methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, beri i'r Cyngor arfer pwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu ei drwydded(au) fel yr ystyrir ei fod yn briodol.
Trwydded yrru
Rhaid i Berchnogion Cerbydau gadw cofnod o yrwyr eu cerbydau a phryd maent yn eu gyrru. Mae'n rhaid i'r drwydded a roddir i bob gyrrwr unigol a gyflogir gael ei chadw gan y Perchennog a'i dychwelyd i'r Gyrrwr pan fydd y trefniant yn dod i ben.
Rhwystro swyddog awdurdodedig
Mae'n drosedd i fethu â chydymffurfio heb esgus rhesymol ag unrhyw ofyniad rhesymol gan Swyddog Awdurdodedig y Cyngor neu Swyddog yr Heddlu neu fethu â darparu unrhyw gymorth neu wybodaeth sy'n ofynnol ganddo ef/hi mewn cysylltiad â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.
Arwyddion cerbydau, hysbysebion a manylion adnabod
Rhaid i berchnogion beidio â chaniatáu i arwyddion, hysbysiadau na hysbysebion gael eu harddangos o fewn, ar neu o Gerbyd Hurio Preifat oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan y Cyngor.
Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gyfrifol am osod a chynnal plât adnabod y drwydded (a roddwyd gan y Cyngor gyda'r drwydded) ar gefn y cerbyd yn ôl y cyfarwyddyd. Mae'r plât yn parhau i fod yn eiddo i'r cyngor. Mae perchennog sy'n methu â dychwelyd y plât pan ofynnir iddo wneud hynny heb esgus rhesymol yn cyflawni trosedd.
Pwerau'r Cyngor
Mae gan y Cyngor bwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu o ganlyniad i unrhyw ymddygiad sydd i'w weld yn gwneud Perchnogion yn anaddas i ddal trwyddedau.
Cyfnod y drwydded
Bydd trwydded fel arfer yn cael ei rhoi am gyfnod o ddeuddeg mis. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir rhoi trwydded tymor byr ond dim ond yn ôl disgresiwn y Cyngor
Amodau cerbydau Hacni
1. Gwnaed yr amodau hyn yn unol â'r Adrannau perthnasol o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Gall torri un neu ragor o'r Amodau hyn arwain at atal, dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded yn unol ag Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a/neu erlyniad pe bai trosedd o dan gyfraith Trwyddedu Tacsi.
2. Yn y drwydded hon:
Mae gan"swyddog awdurdodedig"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae "y Cyngor"yn golygu Dinas a Sir Abertawe.
Mae ystyr "Cerbyd Hacni"yr un fath ag yn Neddf Cyfrifoldebau Heddluoedd 1847.
Ystyr "plât adnabod" yw'r plât a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hacni.
Mae gan"y Perchennog"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae gan"mesurydd tacsi"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Cyffredinol
3. Rhaid i bob cerbyd gael ei gyflwyno i'w archwilio pryd bynnag a ble bynnag y bydd swyddog awdurdodedig yn gofyn am hynny, ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio gyda'r holl ofynion statudol cyfredol ar gyfer cerbydau ffyrdd a'r amodau a osodir gan y Cyngor. Os bydd cerbydau'n methu â mynychu ar yr amser penodedig, gall y Cyngor atal eu trwydded nes bod y cerbyd wedi'i brofi a'i ganfod yn addas ar gyfer y ffordd. Ni fydd unrhyw gerbyd sy'n methu'r prawf yn cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr ar sail hurio na thâl nes bod y cerbyd wedi cael ei ail-brofi a'i ganfod yn addas i'r ffordd.
4. Ni fydd cerbydau yn cael eu derbyn ar gyfer trwyddedu ar yr achlysur cyntaf oni bai eu bod yn newydd sbon. Bydd pob cerbyd yn cael ei ail-drwyddedu ar sail teilyngdod.
5. Bydd trwydded pob cerbyd yn weithredol am flwyddyn, a'r dyddiad terfyn fydd diwrnod olaf y mis cyn cyhoeddi'r drwydded.
6. Ni roddir unrhyw drwydded nes bydd y ffi briodol wedi'i thalu. Pan wneir taliad gyda siec nad yw'n cael ei anrhydeddu, bydd y drwydded a roddir yn ddi-rym.
7. a) Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno'r ddogfen gofrestru (V5c) ar adeg rhoi'r drwydded neu mewn achosion lle mae'r cerbyd wedi'i addasu. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif yswiriant ddilys a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 a thystysgrif MOT dilys (sy'n ofynnol bob blwyddyn o pan fydd y cerbyd yn cyrraedd blwydd oed), ar adeg talu'r ffi briodol. Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno'r cerbyd ar gyfer archwiliad swyddogol yn y ganolfan ddynodedig.
b) Pan fo cerbyd yn cael ei addasu mewn rhyw ffordd, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu fod yn fodlon bod safon y gwaith a wneir yn bodloni'r ddeddfwriaeth a'r safonau diogelwch cyfredol. Rhaid i berchnogion gyflwyno un o'r dogfennau gwreiddiol canlynol cyn cyhoeddi trwydded:
i) Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan CE (ECWVTA)
ii) Cymeradwyaeth Math Cyfresi Bach Cenedlaethol (NSSTA)
iii) Tystysgrif Cydymffurfiaeth (CoC)
iv) Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA)
v) Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA).
Noder Os nad yw'r tystysgrifau uchod ar gael oherwydd yr addasiadau sy'n cael eu gwneud ar ôl gwerthu'r cerbyd, bydd yn ofynnol i berchnogion ymgymryd â Chymeradwyaeth Cerbyd Sengl Safonol Gwirfoddol gydag Arolygydd VOSA.
Manyleb cerbydau a chynnal a chadw
8. Rhaid i bob cerbyd fod yn DDU.
9. Rhaid i bob cerbyd fod yn gerbyd gyriant llaw dde gyda dau ddrws bob ochr i'r cerbyd. Rhaid i bob teithiwr gael mynediad at ddrws y gellir ei agor o du mewn i'r cerbyd.
10. Bydd y nifer uchaf a ganiateir o deithwyr yn cael ei benderfynu ar ôl i'r Cyngor archwilio'r cerbyd.
11. Ni chaiff y perchennog ar unrhyw adeg ganiatáu i nifer y teithwyr a gludir fod yn fwy na'r nifer o deithwyr y mae'r cerbyd wedi'i drwyddedu ar eu cyfer.
12. Rhaid i bob cerbyd fod wedi'i adeiladu, ei gynnal a'i gadw fel ei fod yn ddiogel ac yn gyfforddus, ac mae'n rhaid i'r drysau allu agor yn ddigon llydan i sicrhau bod modd i deithwyr fynd i mewn i'r cerbyd ac allan ohono'n rhwydd.
13. i) Pan ddarperir olwyn sbâr mewn cerbyd, gan gynnwys olwyn dros dro i arbed lle, bydd y perchennog yn sicrhau bod yr olwyn sbâr yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol cyfredol (gan dalu sylw penodol i ddyfnder y gwadn) a bod offer newid olwyn gan gynnwys jac a cham troi olwynion yn cael ei gario bob amser.
ii)
a) Mae olwynion sbâr 'Run Flat' a/neu olwynion arbed lle yn dderbyniol ar gerbydau trwyddedig os ydynt yn cydymffurfio â Manyleb y Gwneuthurwyr Gwreiddiol. Os bydd pynctiar yn digwydd, bydd perchnogion a gyrwyr yn ceisio gwneud trefniadau amgen ar gyfer parhau â thaith y teithiwr
b) Os defnyddir teiar sbâr 'Run Flat' a/neu deiar arbed lle ar gerbyd er mwyn cwblhau'r daith bresennol, dim ond wrth gwblhau'r daith bresennol ac er mwyn dychwelyd i fodurdy addas i gael olwyn newydd addas y dylid ei ddefnyddio, a hynny'n unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Ni ellir cwblhau teithiau pellach tra bod olwyn 'Run Flat' neu olwyn arbed lle yn cael ei ddefnyddio ar y cerbyd.
iii) Pecynnau Atgyweirio Dros Dro::
a) bydd cerbydau a gymeradwywyd i'w trwyddedu sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro yn hytrach nag olwyn sbâr yn cadw pecyn atgyweirio bob amser i'w ddefnyddio'n unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Pan fydd y pecyn atgyweirio dros dro yn cael ei ddefnyddio, bydd yn cael ei ddisodli ar unwaith gan becyn atgyweirio dros dro newydd.
b) os bydd pynctiar yn digwydd, bydd perchnogion a gyrwyr yn ceisio gwneud trefniadau amgen ar gyfer parhau â thaith y teithiwr cyn defnyddio'r pecyn atgyweirio dros dro;
c) bydd cerbydau sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro er mwyn cwblhau taith a huriwyd yn defnyddio'r pecyn yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr, ac ni fydd yn defnyddio'r cerbyd ar gyfer taith arall wedi'i hurio nes bod yr olwyn neu'r teiar wedi cael ei newid;
d) bydd perchnogion cerbydau sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro yn cadw cofnod o'r dyddiad a'r amser y defnyddiwyd y pecyn atgyweirio ddiwethaf yn y cerbyd bob amser, ac yn derbyn a chadw tystiolaeth fod yr olwyn neu'r teiar wedi cael ei newid. Bydd gwybodaeth o'r fath ar gael yn rhwydd i Swyddogion ar gais.
14. Rhaid cael gwregys diogelwch ar y seddi blaen a chefn sy'n cydymffurfio ac wedi'u gosod yn unol â Safonau Prydeinig a gofynion cyfreithiol cyfredol. Bydd clustog hybu neu sedd plentyn yn cael ei ddarparu i blant ar gais.
15. Rhaid i du mewn pob cerbyd fodloni'r mesuriadau canlynol o leiaf:
Uchder
Rhaid i'r mesuriad rhwng brig clustogau'r sedd (heb eu gwasgu) hyd at ran isaf y to fod o leiaf 810mm.
Gofod pen-glin
Rhaid i'r mesuriad rhwng cefn y seddi blaen a chlustogau'r sedd gefn fod o leiaf 700mm. Lle bo modd addasu'r seddi blaen, mae'n rhaid gwneud y mesuriad yn y safle canolig
Seddi (lled)
Rhaid i led y sedd gefn o'r glustog i'r ymyl flaen fod o leiaf 407mm.
Sedd gefn (hyd)
Rhaid i hyd y sedd gefn a fesurir mewn llinell syth ar ei hyd ar flaen y sedd fod o leiaf 1220mm.
16. Bydd trwyddedau cerbydau newydd yn cael eu dyrannu i dacsis sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol yn unig e.e. tacsis math Llundain neu gerbydau eraill sydd wedi'u haddasu'n briodol pan fyddant yn newydd gan ddeliwr cymeradwy cyn eu derbyn. Rhaid addasu'r cerbydau hyn ar gyfer cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn.
Rhaid i bob trawsnewidiad gynnwys:
a. Matiau cryf o dan draed.
b. Blychau lludw wedi'u gosod yn y rhan gefn.
c. Goleuadau mewnol sydd naill ai'n gweithredu'n awtomatig pan fo'r drysau cefn yn agor neu gyda swits ar wahân wedi'i leoli ger y gyrrwr.
d. Golau y tu mewn i gist y cerbyd.
e. Darpariaeth ar gyfer gosod mesurydd tacsi heb effeithio ar gysur teithwyr.
f. Gwifrau cudd estynedig ar gyfer gosod arwydd ar y to a gyriant mesurydd tacsi.
17. Rhaid i gerbydau newydd ar gyfer y fflyd bresennol fod yn dacsis math Llundain neu gerbydau wedi'u haddasu ar gyfer cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn, neu gerbydau salŵn. Pan fo cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn cael eu hadnewyddu, dim ond cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn sy'n bodloni gofynion yr awdurdod sy'n gallu cymryd eu lle.
18. Mae'n rhaid i bob cerbyd gario diffoddydd tân 1kg addas, wedi'i farcio'n barhaol gyda rhif plât y cerbyd, yn hawdd ei weld ar gyfer defnydd brys ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n flynyddol yn unol â Safonau Prydeinig. Bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o waith cynnal a chadw.
19. Rhaid tynnu unrhyw garpedi, gosodiadau neu ffitiadau yn ystod yr archwiliad ar gais unrhyw swyddog awdurdodedig neu archwilydd cerbydau. Bydd gwrthod cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan swyddog o'r fath yn arwain at y cerbyd yn methu'r archwiliad.
20. Rhaid cadw tu mewn a thu allan i'r cerbyd yn lân ac yn daclus a rhaid i'r cerbyd gynnwys lle i ddal nifer rhesymol o fagiau bob amser.
21. Rhaid i bob cerbyd fod â System Cloi Drws Canolog wedi'i weithredu gan yrrwr cymeradwy.
22. Rhaid i bob cerbyd gael mesurydd tacsi wedi'i osod o ddyluniad cymeradwy, wedi'i selio a'i brofi'n briodol a rhaid cadw pob mesurydd o'r fath mewn cyflwr da a chyflwr gweithio priodol.
23. Rhaid i bob cerbyd fod ag arwydd to sy'n nodi mai tacsi yw'r cerbyd.
24. Rhaid i'r perchennog gadw unrhyw offer radio a osodir yn y cerbyd mewn cyflwr da, ond ni fydd yn gosod y canlynol yn y cerbyd - a) offer radio dwy ffordd (gan gynnwys radio CB) heb hysbysu'r cwmni yswiriant ymlaen llaw a derbyn cadarnhad o'u cymeradwyaeth ar y dystysgrif yswiriant. b) unrhyw offer radio sy'n gallu sganio mwy nag un amledd.
25. Rhaid cadw offer i hwyluso defnydd gan deithwyr anabl mewn cyflwr da ac ar gael yn rhwydd i'w ddefnyddio.
26. Bydd y Perchennog yn sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n gyrru eu cerbydau yn gwbl gyfarwydd â defnyddio'r offer i hwyluso defnydd gan deithwyr anabl.
27. Bydd ffenestri wedi'u tywyllu'n cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol y Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnydd) cyfredol.
Hysbysiadau
28. Ni chaiff unrhyw addasiadau neu newidiadau eu gwneud i fanyleb, dyluniad, cyflwr nac ymddangosiad y cerbyd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Cyngor tra bod y drwydded yn weithredol.
29. Dylid hysbysu'r swyddfa Drwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 72 awr am unrhyw ddifrod i gerbyd yn dilyn damwain, a sicrhau bod y cerbyd ar gael i'w archwilio.
Plât trwydded a sticeri trwydded
30. Rhaid i blatiau a sticeri cerbydau gael eu gosod yn ddiogel ar y cerbyd. Mae'n rhaid gosod plât y cerbyd ar far taro neu gaead cist/drws cefn rhwng y llinell ganol ac ochr allanol y cerbyd, a'i ddychwelyd i'r Cyngor pan ddaw trwydded i ben. Rhaid gosod sticeri ar ddrysau blaen y cerbyd ar y ddwy ochr. Rhaid sicrhau bod y plât a'r sticeri yn weladwy bob amser. Rhaid dychwelyd plât y cerbyd i'r Cyngor ar ôl i'r drwydded ddod i ben.
Trosglwyddo trwydded cerbyd
31. Ni chaniateir trosglwyddo neu ddisodli unrhyw gerbyd ac eithrio yn unol â'r weithdrefn gymeradwy.
32. Pan fo perchennog yn trosglwyddo ei fuddiant yn y cerbyd trwyddedig i berson heblaw'r perchennog a enwir ar y drwydded, rhaid iddo hysbysu'r Cyngor o fewn 14 diwrnod ar ôl y trosglwyddiad gan nodi'r enw a'r cyfeiriad y trosglwyddwyd y cerbyd iddo.
33. Caniateir gosod camera o fath teledu cylch cyfyng yn y cerbyd er mwyn diogelu'r gyrrwr a'r teithwyr. Rhaid i'r perchennog sicrhau bod defnydd o offer o'r fath yn cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth gyfredol.
Os oes camera wedi'i osod, rhaid arddangos Hysbysiadau sy'n hysbysu teithwyr o'i ddefnydd y tu mewn i'r cerbyd.
Yswiriant
34. Bydd Perchennog y Cerbyd Hacni yn sicrhau bod Polisi Yswiriant yn cael ei gadw'n weithredol sy'n cydymffurfio ym mhob ffordd gyda deddfwriaeth Traffig Ffordd gyfredol, ac sy'n cwmpasu defnydd o'r cerbyd hwnnw i gludo teithwyr ar sail hurio a derbyn tâl.
35. Ar gais Swyddog awdurdodedig, bydd y Perchennog yn cyflwyno Tystysgrif Yswiriant mewn perthynas â'r cerbyd i'w archwilio gan y Swyddog. Os nad yw'r Perchennog yn cyflwyno tystysgrif o'r fath i'r Swyddog ar gais, rhaid i'r Perchennog ei chyflwyno i'r Swyddog neu i unrhyw Swyddog awdurdodedig yn Swyddfa Drwyddedu'r Cyngor o fewn saith diwrnod o gais o'r fath.
Hysbysebu
36. Ni chaiff unrhyw ffitiadau neu arwyddion, ac eithrio'r rhai a gymeradwywyd gan y Cyngor neu ei swyddogion awdurdodedig, eu hatodi tu mewn neu tu allan i'r cerbyd.
Canllawiau ar gyfer hysbysebu neu arddangos logo cwmni ar Gerbydau Hacni
a. Rhaid i bob cais am hysbysebu neu i arddangos logo cwmni ar gerbyd hacni neu du mewn iddo gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig at sylw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, ynghyd â sampl o'r deunydd hysbysebu arfaethedig.
b. Rhaid i ansawdd y ceisiadau fod o safon dderbyniol. Ni dderbynnir unrhyw ffacs. Rhaid darparu gwaith celf lliw ym mhob achos ac mae'n rhaid darparu manylion llawn y cynigion hysbysebu. (Noder - mae'n hanfodol bod holl fanylion yr hysbyseb arfaethedig yn cael eu dangos yn y cyflwyniad gwreiddiol. Os na wneir hynny, gallai'r hysbyseb gael ei wrthod).
c. Bydd y cais, os ystyrir yn dderbyniol, yn cael ei gymeradwyo dros dro.
d. Rhoddir Cymeradwyaeth Derfynol unwaith y bydd yr hysbyseb neu logo'r cwmni wedi'i osod ar y cerbyd. Rhaid gwneud apwyntiad gyda Swyddog Trwyddedu Tacsi ar gyfer arolygiad terfynol lle bydd y Swyddog yn cadarnhau bod y gwaith wedi'i gwblhau yn unol â'r gymeradwyaeth dros dro a roddwyd.
e. Bydd yn ofynnol i berchennog unrhyw gerbyd sy'n arddangos hysbyseb neu logo cwmni nad yw wedi derbyn ei archwiliad terfynol ei dynnu ar unwaith.
f. Bydd cerbydau sy'n arddangos hysbysebu neu logo cwmni heb gymeradwyaeth y Cyngor yn groes i'r amodau sydd ynghlwm wrth drwydded y cerbyd, a gallant gael eu hatal hyd nes y bydd y deunydd wedi'i dynnu o'r cerbyd.
g. Rhaid i bob hysbyseb gydymffurfio â Chodau Hysbysebu a Hyrwyddo Gwerthiant Prydain ac mae'n gyfrifoldeb i'r asiantaeth neu'r unigolyn sy'n ceisio cymeradwyaeth yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau eu bod yn gwneud hynny.
h. Bydd unrhyw hysbyseb a gymeradwywyd yn cael ei osod ar y drysau cefn yn unig, o dan y ffenestri.
Rhaid i'r holl "arwyddion adnabod" sy'n dangos manylion y cwmni (gweler pwynt l isod), gael eu harddangos ar ddrws blaen y cerbyd yn unig, islaw'r ffenestr ac ni ddylai guddio'r arwydd sy'n dangos rhif trwydded y cerbyd.
Gellir arddangos unrhyw logo cwmni, sy'n hysbysebu tacsi neu fusnes hurio preifat y Gweithredwr neu'r Perchennog ei hun, sydd wedi'i gymeradwyo yn unol ag amod 36 (d) uchod, ar y boned flaen, ar gefn y cerbyd a/neu ar ddrysau cefn y teithwyr yn unig.
i. Rhaid i ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer hysbysebion neu logos cwmnïau fod o ansawdd nad yw'n hawdd eu difrodi neu eu datgysylltu. Ni ddylid defnyddio unrhyw ddeunyddiau papur na phast gludiog sy'n hydoddi mewn dŵr. Rhaid gosod hysbysebion yn uniongyrchol ar baneli drws cefn allanol y cerbyd neu eu hatodi i ddechrau i banel magnetig cymeradwy sydd wedyn ynghlwm wrth y cerbyd.
j. Ni ddylid defnyddio deunydd sy'n adlewyrchu at ddibenion hysbysebu neu ddangos logos cwmni.
k. Bydd pob cynnig yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ond ni fydd yr hysbysebion na'r logos cwmnïau canlynol yn cael eu cymeradwyo:
- rhai sydd â thestunau gwleidyddol, hiliol, crefyddol, rhywiol neu ddadleuol;
- y rhai ar gyfer asiantaethau hebrwng, sefydliadau gamblo neu barlyrau tylino:
- rhai sy'n dangos ffigurau noethlymun neu led-noeth;
- y rhai sy'n debygol o droseddu'r cyhoedd (yn darlunio trais, iaith anweddus neu anweddus)
- rhai sy'n cyfeirio at alcohol, tybaco/sigaréts a chyffuriau;
- rhai sy'n hyrwyddo prisiau gostyngol;
- rhai sy'n hysbysebu swyddi;
- rhai sy'n tynnu sylw oddi wrth uniondeb a/neu hunaniaeth y cerbyd;
- rhai sy'n ceisio hysbysebu mwy nag un cwmni/gwasanaeth neu gynnyrch.
l. Arwyddion adnabod - rhaid i arwyddion sy'n nodi enw a rhif ffôn y cwmni gael eu gosod yn ddiogel wrth ymyl sticeri'r drws sy'n dangos rhif trwydded y cerbyd a rhaid iddynt gael cymeradwyaeth dros dro a therfynol.
m. Caniateir hysbysebu neu arddangos logo cwmnïau o dan seddi sy'n plygu am i lawr ar yr amod bod unrhyw gais a dderbynnir yn cydymffurfio gyda'r canllawiau uchod.
n. Caniateir hysbysebu neu arddangos logo cwmnïau ar gefn clustogau'r pen ar yr amod bod unrhyw gais a dderbynnir yn cydymffurfio gyda'r canllawiau uchod.
Amodau cerbydau hurio preifat
1. Gwnaed yr amodau hyn yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Gall torri un neu ragor o'r Amodau hyn arwain at atal, dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded yn unol ag Adran 60 o'r Ddeddf honno a/neu erlyniad pe bai trosedd o dan gyfraith Trwyddedu Tacsi.
2. Yn y drwydded hon:
Mae gan"swyddog awdurdodedig"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae "y Cyngor"yn golygu Dinas a Sir Abertawe.
Ystyr"Cerbyd Hurio Preifat"yw cerbyd sydd wedi'i drwyddedu gan y Cyngor ar hyn o bryd o dan Adran 48 o'r Ddeddf
Ystyr "plât adnabod" yw'r plât a roddir gan y Cyngor at ddibenion adnabod y cerbyd fel Cerbyd Hurio Preifat.
Mae gan"y Perchennog"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae gan"mesurydd tacsi"yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Cyffredinol
3. Dim ond ar gyfer Teithiau Hurio Preifat cyfreithlon wedi'u trefnu ymlaen llaw gyda gweithredwr trwyddedig y gellir defnyddio'r cerbyd.
4. Rhaid i bob cerbyd gael ei gyflwyno i'w archwilio pryd bynnag a ble bynnag y bydd swyddog awdurdodedig yn gofyn am hynny, ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio gyda'r holl ofynion statudol cyfredol ar gyfer cerbydau ffyrdd a'r amodau a osodir gan y Cyngor. Os bydd cerbydau'n methu â mynychu ar yr amser penodedig, gall y Cyngor atal eu trwydded nes bod y cerbyd wedi'i brofi a'i ganfod yn addas ar gyfer y ffordd. Ni fydd unrhyw gerbyd sy'n methu'r prawf yn cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr ar sail hurio na thâl nes bod y cerbyd wedi cael ei ail-brofi a'i ganfod yn addas i'r ffordd.
5. Ni dderbynnir cerbydau i'w trwyddedu ar yr achlysur cyntaf ar ôl 5 mlynedd o ddyddiad y cofrestriad cyntaf. Bydd cerbydau'n cael eu hail-drwyddedu ar sail teilyngdod.
6. Bydd trwydded pob cerbyd yn weithredol am flwyddyn, a'r dyddiad terfyn fydd diwrnod olaf y mis cyn cyhoeddi'r drwydded.
7. Ni roddir unrhyw drwydded nes bydd y ffi briodol wedi'i thalu. Pan wneir taliad gyda siec nad yw'n cael ei anrhydeddu, bydd y drwydded a roddir yn ddi-rym.
8. a) Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno'r ddogfen gofrestru (V5c) ar adeg rhoi'r drwydded neu mewn achosion lle mae'r cerbyd wedi'i addasu. Mae'n rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno tystysgrif yswiriant ddilys a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 a thystysgrif M.O.T ddilys ar adeg talu'r ffi briodol. Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflwyno'r cerbyd ar gyfer archwiliad swyddogol yn y ganolfan ddynodedig.
b) Pan fo cerbyd yn cael ei addasu mewn rhyw ffordd, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu fod yn fodlon bod safon y gwaith a wneir yn bodloni'r ddeddfwriaeth a'r safonau diogelwch cyfredol. Rhaid i berchnogion gyflwyno un o'r dogfennau gwreiddiol canlynol cyn cyhoeddi trwydded:
i) Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan AC (NEWTON)
ii) Cymeradwyaeth Math Cyfresi Bach Cenedlaethol (NYSSA)
iii) Tystysgrif Cydymffurfiaeth (CIC)
iv) Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (I VA)
v) Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (S VA).
Noder Os nad yw'r tystysgrifau uchod ar gael oherwydd yr addasiadau sy'n cael eu gwneud ar ôl gwerthu'r cerbyd, bydd yn ofynnol i berchnogion ymgymryd â Chymeradwyaeth Cerbyd Sengl Safonol Gwirfoddol gydag Arolygydd VOA
Manyleb cerbydau a chynnal a chadw
9. Rhaid i bob cerbyd fod yn WYN.
10. Rhaid i bob cerbyd fod yn gerbyd gyriant llaw dde gyda dau ddrws bob ochr i'r cerbyd. Rhaid i bob teithiwr gael mynediad at ddrws y gellir ei agor o du mewn i'r cerbyd.
11. Bydd y nifer uchaf a ganiateir o deithwyr yn cael ei benderfynu ar ôl i'r Cyngor archwilio'r cerbyd.
12. Ni chaiff y perchennog ar unrhyw adeg ganiatáu i nifer y teithwyr a gludir fod yn fwy na'r nifer o deithwyr y mae'r cerbyd wedi'i drwyddedu ar eu cyfer.
13. Rhaid i bob cerbyd fod wedi'i adeiladu, ei gynnal a'i gadw fel ei fod yn ddiogel ac yn gyfforddus, ac mae'n rhaid i'r drysau allu agor yn ddigon llydan i sicrhau bod modd i deithwyr fynd i mewn i'r cerbyd ac allan ohono'n rhwydd.
14. i) Pan ddarperir olwyn sbâr mewn cerbyd, gan gynnwys olwyn dros dro i arbed lle, bydd y perchennog yn sicrhau bod yr olwyn sbâr yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol cyfredol (gan dalu sylw penodol i ddyfnder y gwadn) a bod offer newid olwyn gan gynnwys jac a cham troi olwynion yn cael ei gario bob amser.
ii)
a) Mae olwynion sbâr 'Run Flat' a/neu olwynion arbed lle yn dderbyniol ar gerbydau trwyddedig os ydynt yn cydymffurfio â Manyleb y Gwneuthurwyr Gwreiddiol. Os bydd pynctiar yn digwydd, bydd perchnogion a gyrwyr yn ceisio gwneud trefniadau amgen ar gyfer parhau â thaith y teithiwr
b) Os defnyddir olwyn sbâr 'Run Flat' a neu olwyn sbâr sy'n arbed lle ar gerbyd er mwyn cwblhau taith, dylid ei ddefnyddio wrth gwblhau'r daith bresennol yn unig ac i
ddychwelyd i fodurdy i gael olwyn newydd addas a'i ddefnyddio'n unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Ni ellir cwblhau teithiau pellach tra bod olwyn 'Run Flat' neu olwyn arbed lle yn cael ei ddefnyddio ar y cerbyd
iii) Pecynnau Atgyweirio Dros Dro:
a) bydd cerbydau a gymeradwywyd i'w trwyddedu sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro yn hytrach nag olwyn sbâr yn cadw pecyn atgyweirio bob amser i'w ddefnyddio'n unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. Pan fydd y pecyn atgyweirio dros dro yn cael ei ddefnyddio, bydd yn cael ei ddisodli ar unwaith gan becyn atgyweirio dros dro newydd.
b) os bydd pynctiar yn digwydd, bydd perchnogion a gyrwyr yn ceisio gwneud trefniadau amgen ar gyfer parhau â thaith y teithiwr cyn defnyddio'r pecyn atgyweirio dros dro;
c) bydd cerbydau sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro er mwyn cwblhau taith a huriwyd yn defnyddio'r pecyn yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr, ac ni fydd yn defnyddio'r cerbyd ar gyfer taith arall wedi'i hurio nes bod yr olwyn neu'r teiar wedi cael ei newid;
d) bydd perchnogion cerbydau sy'n defnyddio pecyn atgyweirio dros dro yn cadw cofnod o'r dyddiad a'r amser y defnyddiwyd y pecyn atgyweirio ddiwethaf yn y cerbyd bob amser, ac yn derbyn a chadw tystiolaeth fod yr olwyn neu'r teiar wedi cael ei newid. Bydd gwybodaeth o'r fath ar gael yn rhwydd i Swyddogion ar gais.
15. Rhaid cael gwregys diogelwch ar y seddi blaen a chefn sy'n cydymffurfio ac wedi'u gosod yn unol â Safonau Prydeinig a gofynion cyfreithiol cyfredol. Bydd clustog hybu neu sedd plentyn yn cael ei ddarparu i blant ar gais.
16. Rhaid i du mewn pob cerbyd fodloni'r mesuriadau canlynol o leiaf:
Uchder
Rhaid i'r mesuriad rhwng brig clustogau'r sedd (heb eu gwasgu) hyd at ran isaf y to fod o leiaf 810mm.
Gofod pen-glin
Rhaid i'r mesuriad rhwng cefn y seddi blaen a chlustogau'r sedd gefn fod o leiaf 700mm. Lle bo modd addasu'r seddi blaen, mae'n rhaid gwneud y mesuriad yn y safle canolig
Seddi (lled)
Rhaid i led y sedd gefn o'r glustog i'r ymyl flaen fod o leiaf 407mm.
Sedd gefn (hyd)
Rhaid i hyd y sedd gefn a fesurir mewn llinell syth ar ei hyd ar flaen y sedd fod o leiaf 1220mm.
17. Mae'n rhaid i bob cerbyd gario diffoddydd tân 1kg addas, wedi'i farcio'n barhaol gyda rhif plât y cerbyd, yn hawdd ei weld ar gyfer defnydd brys ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n flynyddol yn unol â Safonau Prydeinig. Bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o waith cynnal a chadw.
18. Rhaid tynnu unrhyw garpedi, gosodiadau neu ffitiadau yn ystod yr archwiliad ar gais unrhyw swyddog awdurdodedig neu archwilydd cerbydau. Bydd gwrthod cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan swyddog o'r fath yn arwain at y cerbyd yn methu'r archwiliad.
19. Rhaid cadw tu mewn a thu allan i'r cerbyd yn lân ac yn daclus a rhaid i'r cerbyd gynnwys lle i ddal nifer rhesymol o fagiau bob amser.
20. Os bydd mesurydd tacsi wedi'i osod ar gerbyd, rhaid iddo fod o ddyluniad cymeradwy, wedi'i selio a'i brofi'n briodol gan swyddog awdurdodedig a rhaid cadw pob mesurydd o'r fath mewn cyflwr da a chyflwr gweithio priodol.
21. Rhaid i'r perchennog gadw unrhyw offer radio a osodir yn y cerbyd mewn cyflwr da, ond ni fydd yn gosod y canlynol yn y cerbyd - a) offer radio dwy ffordd (gan gynnwys radio CB) heb hysbysu'r cwmni yswiriant ymlaen llaw a derbyn cadarnhad o'u cymeradwyaeth ar y dystysgrif yswiriant. b) unrhyw offer radio sy'n gallu sganio mwy nag un amledd.
22. Bydd ffenestri wedi'u tywyllu'n cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol y Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnydd) cyfredol.
Hysbysiadau
23. Ni chaiff unrhyw addasiadau neu newidiadau eu gwneud i fanyleb, dyluniad, cyflwr nac ymddangosiad y cerbyd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Cyngor tra bod y drwydded yn weithredol.
24. Dylid hysbysu'r swyddfa Drwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 72 awr am unrhyw ddifrod i gerbyd yn dilyn damwain, a sicrhau bod y cerbyd ar gael i'w archwilio.
Plât trwydded, sticeri trwydded ac arwyddion cymeradwy
25. Rhaid i blatiau a sticeri cerbydau gael eu gosod yn ddiogel ar y cerbyd. Mae'n rhaid gosod plât y cerbyd ar far taro neu gaead cist/drws cefn rhwng y llinell ganol ac ochr allanol y cerbyd. Rhaid gosod sticeri ar ddrysau blaen y cerbyd ar y ddwy ochr. Rhaid sicrhau bod y plât a'r sticeri yn weladwy bob amser. Rhaid dychwelyd plât y cerbyd i'r Cyngor ar ôl i'r drwydded ddod i ben.
26. Rhaid i bob cerbyd Hurio Preifat arddangos y canlynol:
Blaen y Cerbyd - Arwydd wedi'i oleuo yn mesur 37cm x 10cm i'w arddangos yng nghornel chwith uchaf y ffenestr flaen ac yn cynnwys y manylion canlynol: "Enw'r cwmni Rhif Ffôn Teithiau wedi'u harchebu ymlaen llaw yn unig"
Cefn y Cerbyd - Arwydd heb ei oleuo yn mesur 37cm x 10cm i'w arddangos yng nghornel chwith uchaf y ffenestr ôl ac yn cynnwys y manylion canlynol: "Enw'r cwmni Rhif Ffôn Teithiau wedi'u harchebu ymlaen llaw yn unig"
27. Rhaid i bob cerbyd hurio preifat ddangos arwyddion yn nodi enw a rhif ffôn y cwmni, ac mae'n rhaid i'r rhain gael eu gosod yn ddiogel ar y cerbyd wrth ymyl sticeri drws yn dangos rhif trwydded y cerbyd.
Trosglwyddo trwydded cerbyd
28. Ni chaniateir trosglwyddo na disodli unrhyw gerbyd ar gyfer y drwydded honno ac eithrio yn unol â'r weithdrefn gymeradwy.
29. Pan fo perchennog yn trosglwyddo ei fuddiant yn y cerbyd trwyddedig i berson heblaw'r perchennog a enwir ar y drwydded, bydd yn hysbysu'r Cyngor o fewn 14 diwrnod ar ôl y trosglwyddiad gan nodi'r enw a'r cyfeiriad y trosglwyddwyd y cerbyd iddo.
30. Caniateir gosod camera o fath teledu cylch cyfyng yn y cerbyd er mwyn diogelu'r gyrrwr a'r teithwyr. Rhaid i'r perchennog sicrhau bod defnydd o offer o'r fath yn cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth gyfredol. Os oes camera wedi'i osod, rhaid arddangos Hysbysiadau sy'n hysbysu teithwyr o'i ddefnydd y tu mewn i'r cerbyd.
Yswiriant
31. Bydd Perchennog y Cerbyd Hurio Preifat yn sicrhau bod Polisi Yswiriant yn cael ei gadw'n weithredol sy'n cydymffurfio ym mhob ffordd gyda deddfwriaeth Traffig Ffordd gyfredol, ac sy'n cwmpasu defnydd o'r cerbyd hwnnw i gludo teithwyr ar sail hurio a derbyn tâl.
32. Ar gais Swyddog awdurdodedig, bydd y Perchennog yn cyflwyno Tystysgrif Yswiriant mewn perthynas â'r cerbyd i'w archwilio gan y Swyddog. Os nad yw'r Perchennog yn cyflwyno tystysgrif o'r fath i'r Swyddog ar gais, rhaid i'r Perchennog ei chyflwyno i'r Swyddog neu i unrhyw Swyddog awdurdodedig yn y swyddfa drwyddedu o fewn pum niwrnod o gais o'r fath.
Hysbysebu
33. Ni chaiff unrhyw ffitiadau neu arwyddion, ac eithrio'r rhai a gymeradwywyd gan y Cyngor neu ei swyddogion awdurdodedig, eu hatodi tu mewn neu tu allan i'r cerbyd.
Canllawiau ar gyfer hysbysebu neu arddangos logo cwmni ar gerbydau Hurio Preifat
a. Rhaid i bob cais am hysbysebu neu i arddangos logo cwmni ar Gerbyd Hurio Preifat neu du mewn iddo gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig at sylw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, ynghyd â sampl o'r deunydd hysbysebu arfaethedig.
b. Rhaid i ansawdd y ceisiadau fod o safon dderbyniol. Ni dderbynnir unrhyw ffacs. Rhaid darparu gwaith celf lliw ym mhob achos ac mae'n rhaid darparu manylion llawn y cynigion hysbysebu. (Noder - mae'n hanfodol bod holl fanylion yr hysbyseb arfaethedig yn cael eu dangos yn y cyflwyniad gwreiddiol. Os na wneir hynny, gallai'r hysbyseb gael ei wrthod).
c. Bydd y cais, os ystyrir yn dderbyniol, yn cael ei gymeradwyo dros dro.
d. Rhoddir Cymeradwyaeth Derfynol unwaith y bydd yr hysbyseb neu logo'r cwmni wedi'i osod ar y cerbyd. Rhaid gwneud apwyntiad gyda Swyddog Trwyddedu Tacsi ar gyfer arolygiad terfynol lle bydd y Swyddog yn cadarnhau bod y gwaith wedi'i gwblhau yn unol â'r gymeradwyaeth dros dro a roddwyd.
e. Bydd yn ofynnol i berchennog unrhyw gerbyd sy'n arddangos hysbyseb neu logo cwmni nad yw wedi derbyn ei archwiliad terfynol ei dynnu ar unwaith.
f. Bydd cerbydau sy'n arddangos hysbysebu neu logo cwmni heb gymeradwyaeth y Cyngor yn groes i'r amodau sydd ynghlwm wrth drwydded y cerbyd, a gallant gael eu hatal hyd nes y bydd y deunydd wedi'i dynnu o'r cerbyd.
g. Rhaid i bob hysbyseb gydymffurfio â Chodau Hysbysebu a Hyrwyddo Gwerthiant Prydain ac mae'n gyfrifoldeb i'r asiantaeth neu'r unigolyn sy'n ceisio cymeradwyaeth yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau eu bod yn gwneud hynny.
h. Bydd unrhyw hysbyseb a gymeradwywyd yn cael ei osod ar y drysau cefn yn unig, o dan y ffenestri.
Rhaid arddangos pob "arwydd adnabod" sy'n dangos manylion y cwmni (gweler y pwynt isod), ar ddrws blaen y cerbyd yn unig, o dan y ffenestr ac ni ddylai guddio'r arwydd sy'n dangos rhif trwydded y cerbyd. Gellir arddangos unrhyw logo cwmni, sy'n hysbysebu tacsi neu fusnes hurio preifat y Gweithredwr neu'r Perchennog ei hun, sydd wedi'i gymeradwyo yn unol ag amod 33 (d) uchod, ar y boned, ar gefn y cerbyd a/neu ar y drysau cefn yn unig.
i. Rhaid i ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer hysbysebion neu logos cwmnïau fod o ansawdd nad yw'n hawdd eu difrodi neu eu datgysylltu. Ni ddylid defnyddio unrhyw ddeunyddiau papur na phast gludiog sy'n hydoddi mewn dŵr. Rhaid gosod hysbysebion yn uniongyrchol ar baneli drws cefn allanol y cerbyd neu eu hatodi i ddechrau i banel magnetig cymeradwy sydd wedyn ynghlwm wrth y cerbyd.
- Ni ddylid defnyddio deunydd sy'n adlewyrchu at ddibenion hysbysebu neu ddangos logos cwmni.
- Bydd pob cynnig yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ond ni fydd yr hysbysebion na'r logos cwmnïau canlynol yn cael eu cymeradwyo
- rhai sydd â thestunau gwleidyddol, hiliol, crefyddol, rhywiol neu ddadleuol;
- y rhai ar gyfer asiantaethau hebrwng, sefydliadau hapchwarae neu barlyrau tylino:
- rhai sy'n dangos ffigurau noethlymun neu led-noeth;
- y rhai sy'n debygol o droseddu'r cyhoedd (yn darlunio trais, iaith anweddus neu anweddus)
- rhai sy'n cyfeirio at alcohol, tybaco/sigaréts a chyffuriau;
- rhai sy'n hyrwyddo prisiau gostyngol;
- rhai sy'n hysbysebu swyddi;
- rhai sy'n tynnu sylw oddi wrth uniondeb a/neu hunaniaeth y cerbyd;
- rhai sy'n ceisio hysbysebu mwy nag un cwmni/gwasanaeth neu gynnyrch.
- Arwyddion adnabod - rhaid i arwyddion sy'n nodi enw a rhif ffôn y cwmni gael eu gosod yn ddiogel wrth ymyl sticeri'r drws sy'n dangos rhif trwydded y cerbyd a rhaid iddynt gael cymeradwyaeth dros dro a therfynol.
m. Caniateir hysbysebu neu arddangos logo cwmnïau o dan seddi sy'n plygu am i lawr ar yr amod bod unrhyw gais a dderbynnir yn cydymffurfio gyda'r canllawiau uchod.
n. Caniateir hysbysebu neu arddangos logo cwmnïau ar gefn clustogau'r pen ar yr amod bod unrhyw gais a dderbynnir yn cydymffurfio gyda'r canllawiau uchod.
Nodiadau canllaw ar gyfer caniatáu ceisiadau gyrwyr Cerbydau Hacni, Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Cyfyngedig
Ar y dudalen hon
Person Addas a Phriodol
Cyn y gellir rhoi trwydded, mae'n ofynnol i'r Awdurdod sicrhau bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen ddatganiad yn ogystal â'r ffurflen gais, a chyflwyno tystiolaeth o le a dyddiad geni a'i hawl i weithio yn y DU.
Ar adegau, efallai bydd angen i ymgeisydd gael Tystysgrif Ymddygiad Da a/neu Wiriad Cofnod Troseddol, pan fo'i wlad enedigol neu breswyliad blaenorol y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gellir cynnal gwiriadau gyda'r Swyddfa Gartref hefyd i wirio'r wybodaeth hon a hawl ymgeisydd i weithio yn y DU.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ymgeisydd dylai wneud apwyntiad i weld Swyddog Trwyddedu Tacsi
Nodyn 1 Prawf Llythrennedd Sylfaenol a Phrawf Gwybodaeth
Bydd angen i chi basio Prawf Llythrennedd a Gwybodaeth Sylfaenol cyfunol. Rhaid i chi sefyll y prawf hwn cyn gwneud eich cais.
Mae'n rhaid talu am bob prawf. Rhaid i bob ymgeisydd lwyddo yn y Prawf Llythrennedd Sylfaenol a'r Prawf Gwybodaeth. Os na fyddwch yn llwyddo yn y prawf llythrennedd sylfaenol ar 2 achlysur gwahanol, rhoddir manylion cyswllt er mwyn i chi gofrestru ar Gwrs Saesneg Sylfaenol, ac ni fydd modd i chi aildrefnu eich prawf nes i chi ddarparu dogfennaeth foddhaol yn cadarnhau'r uchod sydd wedi'i hystyried gan yr Adran Drwyddedu.
Pan fyddwch wedi llwyddo yn y prawf llythrennedd sylfaenol a'r prawf gwybodaeth, byddwch yn derbyn tystysgrif a fydd yn ddilys am 12 mis. Os na fyddwch yn gwneud cais am drwydded gyrrwr tacsi yn ystod cyfnod dilysrwydd eich Tystysgrif, bydd angen i chi dalu ac ailsefyll y prawf yn nes ymlaen.
Nodyn 2 lluniau pasbort
- rhaid i'r llun fod o'r ymgeisydd
- yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera yn agos gan ddangos wyneb, pen ac ysgwyddau. Argymhellir fod uchder y pen (y pellter rhwng gwaelod yr ên a choron y pen) rhwng 29 a 34 milimetr
- gyda mynegiant niwtral a'r geg ar gau (dim gwenu, gwgu na chodi aeliau)
- gyda'r llygaid ar agor ac yn weladwy (dim sbectol haul na sbectol arlliw, a dim gwallt ar draws y llygaid)
- heb unrhyw adlewyrchiad golau ar sbectol ac ni ddylai'r fframiau orchuddio'r llygaid. Rydym yn argymell y dylid tynnu sbectol ar gyfer y llun os yn bosibl.
- yn dangos eu pen yn gyfan heb unrhyw orchudd oni bai ei fod yn cael wisgo am resymau crefyddol neu feddygol
- heb unrhyw wrthrychau na phobl eraill yn y llun
- heb gysgodion ar y llun
- heb unrhyw beth yn gorchuddio'r wyneb - ni ddylai unrhyw beth orchuddio amlinelliad y llygaid, y trwyn na'r geg, a dim lygaid coch
Rhaid i'r llun
- fod yr un maint â llun pasbort safonol a dynnwyd mewn bwth neu stiwdio, 45 milimetr o uchder x 35 milimetr o led, nid llun wedi'i dorri i lawr o lun mwy o faint i fod yr un maint â llun pasbort safonol
Ansawdd - rhaid i'r llun
- gael ei dynnu o flaen cefndir lliw hufen neu lwyd golau plaen
- gael ei argraffu i ansawdd uchel, megis lluniau wedi'u hargraffu mewn bwth neu stiwdio (mae'n annhebygol y bydd lluniau sydd wedi'u hargraffu gartref o ansawdd digon uchel)
- fod yn glir ac mewn ffocws plaen
- gael ei dynnu o fewn y mis diwethaf
- fod mewn lliw ar bapur ffotograffig gwyn plaen, heb ei rwygo, ei grychu neu ei farcio, a heb unrhyw ysgrifen ar y blaen neu'r cefn - ac eithrio pan fydd angen ardystio un o'r lluniau.
Nodyn 3 Trwydded Yrru DVLA
Er mwyn ymgeisio ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat/cerbydau hurio preifat cyfyngedig, mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn yn y DU am o leiaf blwyddyn. Bydd unrhyw euogfarnau moduro a nodir ar eich trwydded yn cael eu hystyried ac efallai y bydd angen cyfeirio eich cais at y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad.
Os oes gennych drwydded cerdyn llun, bydd angen i chi ei chyflwyno er mwyn i'ch cais gael ei derbyn. Os ydych yn dal i feddu ar drwydded bapur gan y DVLA, h.y. trwydded heb gerdyn llun, bydd y drwydded hon hefyd yn cael ei derbyn.
Bydd angen i chi hefyd gwblhau'r wybodaeth 'Gweld neu rannu gwybodaeth am eich trwydded yrru' ar wefan Gov.uk. Dylech ddarparu'r Cod Gwirio Trwydded Yrru ar ffurflen gais y gyrrwr.
Nodyn 4 Tystysgrif Feddygol
Mae angen Safon Feddygol GRŴP 2
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi mabwysiadu safonau meddygol Grŵp II fel y nodir gan y DVLA yn 'Asesu addasrwydd i yrru: canllaw i weithwyr meddygol proffesiynol'. Mae'r safonau hyn yn berthnasol i yrwyr cerbydau sy'n cludo teithwyr ac maent yn sylweddol uwch na gyrwyr ceir preifat. Gweler y nodiadau a ddarperir ar flaen eich ffurflen feddygol.
Rhaid i'r dystysgrif feddygol gael ei chwblhau gan eich meddyg teulu eich hun. Rhaid i'r dystysgrif beidio â bod yn fwy na 28 diwrnod oed pan gaiff ei chyflwyno gyda'ch cais a rhaid iddi fod ar ffurflen ragnodedig y Cyngor.
Nodyn 5 Gwirio Cofnodion Troseddol (DBS)
Mae datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael drwy Ddinas a Sir Abertawe. Ffoniwch y llinell Apwyntiadau ar 01792 637366 i ofyn am apwyntiad i wneud eich cais ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd y llinell Apwyntiadau'n eich trosglwyddo i'r uned Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a fydd yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn i chi allu cwblhau eich cais Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur, gellir cwblhau'r broses yn llyfrgell y Ganolfan Ddinesig neu'r Ganolfan Gyswllt.
Gallwch gwblhau'r cais hwn cyn cyflwyno eich cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat, neu ar yr un pryd.
Pan fyddwch wedi cwblhau eich cais Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein, bydd angen i chi ddarllen Canllaw ymgeisydd gyrrwr tacsi i gwblhau'r ffurflen DBS i sicrhau bod gennych y ddogfennaeth gywir i gwblhau'r datgeliad. Noder nad yw'r ffi ar gyfer datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ad-daladwy ac mae'n daladwy wrth wneud cais.
Os ydych eisoes wedi derbyn eich Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, bydd y Cyngor ond yn derbyn y tystysgrifau hynny gyda dyddiad cyhoeddi o fewn 28 diwrnod o wneud eich cais.
Nodyn 6 Euogfarnau
O dan y Canllawiau ar euogfarnau ar gyfer ymgeiswyr gyrwyr tacsi a Gweithredwyr Hurio Preifat, rhaid datgelu unrhyw euogfarnau, rhybuddiadau, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddion a/neu hysbysiadau cosb eraill nad ydynt wedi'u cwmpasu, waeth beth fo'u hoedran a byddant yn cael eu hystyried wrth ystyried eich cais.
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu canllawiau ar berthnasedd euogfarnau. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ymgeisydd mewn perthynas â'r adran hon, gwnewch apwyntiad i weld Swyddog Trwyddedu Tacsi.
Nodyn 7 Ffurflen Gais wedi'i chwblhau
Rhaid cwblhau pob rhan o'r ffurflen gais. Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau hyd yn oed os mai NA yw'r ateb.
Rhaid datgelu pob euogfarn, rhybuddiad, hysbysiad cosb benodedig, rhybudd a/neu hysbysiad cosb arall nad ydynt wedi'u crybwyll waeth beth fo oedran neu ddyddiad yr euogfarn. Rhaid iddo hefyd gael ei lofnodi a'i ddyddio gan yr ymgeisydd.
Nodyn 8 Ffi Ymgeisio
Bydd y ffi gywir yn daladwy ar ddiwedd y broses, os cymeradwyir eich trwyddedau. Ar yr adeg hon, byddwch yn derbyn trwydded a bathodynnau, a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn para 3 blynedd.
Nodyn 9 Caniatâd i breswylio a gweithio'n gyfreithlon yn y DU
O 1 Rhagfyr 2016 ymlaen, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth bod ganddo'r hawl i breswylio a gweithio'n gyfreithlon yn y DU, waeth beth fo'i genedligrwydd. Bydd angen i chi ddarparu eich pasbort neu dystysgrif geni lawn yn y DU ynghyd â dogfen CThEF yn nodi eich rhif yswiriant gwladol neu drwydded breswylio biometrig. Os nad oes gennych unrhyw un o'r dogfennau a nodwyd, bydd angen i chi gysylltu â Swyddog Trwyddedu i drafod eich cais.
Nodyn 10 Cofrestr Genedlaethol o Wrthod a Dirymu Trwyddedau Tacsis
Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn darparu gwybodaeth ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol o Drwyddedau Tacsis a Wrthodwyd ac a Ddirymwyd (NR3), sef system i awdurdodau trwyddedu rannu manylion unigolion y mae eu trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat wedi'i dirymu neu unigolion y mae eu cais am drwydded o'r fath wedi'i wrthod. Mae angen gwneud hyn er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn yr Awdurdod Trwyddedu - sef, asesu a yw unigolyn yn berson cymwys a phriodol i ddal trwydded gyrwyr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat.
Felly:
- Os caiff trwydded gyrwyr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat ei dirymu neu os caiff cais am drwydded wrthod, bydd yr awdurdod yn cofnodi'r penderfyniad hwn yn awtomatig ar NR3.
- Bydd pob cais am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded yn cael ei wirio'n awtomatig ar NR3. Os bydd chwiliad o NR3 yn dangos bod ymgeisydd eisoes wedi'i gofnodi arni, bydd yr awdurdod yn ceisio rhagor o wybodaeth am y cofnod ar y gofrestr gan yr awdurdod dan sylw. Bydd unrhyw wybodaeth a dderbynnir o ganlyniad i chwiliad NR3 yn cael ei defnyddio mewn perthynas â'r cais am drwydded benodol yn unig ac ni chaiff ei chadw y tu hwnt i benderfyniad y cais hwnnw.
Bydd y wybodaeth a gofnodir ar NR3 ei hun yn cael ei chyfyngu i'r canlynol
- enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad a manylion cyswllt
- rhif yswiriant gwladol
- rhif trwydded yrru
- penderfyniad a wnaed
- dyddiad y penderfyniad
- dyddiad y daw'r penderfyniad i rym
Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am NR3 am gyfnod o 25 mlynedd.
Mae hyn yn rhan orfodol o wneud cais neu dderbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat.
Caiff gwybodaeth ei phrosesu yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae unrhyw chwiliadau neu unrhyw achos o ddarparu neu dderbyn gwybodaeth sydd ynghlwm wrth NR3 yn angenrheidiol er mwyn cyflawni swyddogaethau trwyddedu statudol yr
awdurdod i sicrhau bod pob gyrrwr yn gymwys ac yn briodol i ddal y drwydded berthnasol. Ni fwriedir i unrhyw ddata NR3 gael ei drosglwyddo allan o'r Deyrnas Unedig.
Os hoffech godi unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys trwy ddibynnu ar unrhyw un o'r hawliau a roddir i destunau data o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r awdurdod yn data.protection@swansea.gov.uk. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun.
Mae gennych yr hawl hefyd i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gellir dod o hyd i gyngor ar sut i godi pryder ynghylch trin data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Yn agor ffenestr newydd).
Nodyn 11 Nodwch Amodoldeb Treth
Mae'n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth i adnewyddu trwydded tacsi neu hurio preifat, neu i ymgeisio am yr un math o drwydded gydag awdurdod trwyddedu gwahanol. Mae'r cais hwn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
O 4 Ebrill 2022 ymlaen, mae'r rheolau'n newid os ydych chi'n gwneud cais am drwydded ar gyfer:
- Gyrrwr tacsi
- Gyrrwr hurio preifat
- Gweithredwr cerbydau hurio preifat
Os ydych chi'n unigolyn, cwmni neu unrhyw fath o bartneriaeth, rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych chi'n:
- adnewyddu trwydded
- gwneud cais am yr un math o drwydded yr oeddech chi'n ei dal o'r blaen, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl
- gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes gydag awdurdod trwyddedu arall
Ni fydd angen i chi gwblhau gwiriad treth a dylech gysylltu â CThEF i gael cyngor ac arweiniad ar eich cyfrifoldebau treth:
- os nad ydych erioed wedi dal trwydded o'r un math o'r blaen.
- os oedd gennych drwydded o'r un math a ddaeth i ben i fod yn ddilys flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais hwn.
Beth yw gwiriad treth?
Mae gwiriad treth yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, os oes angen.
Ar ôl i chi gwblhau'r gwiriad treth, rhoddir cod i chi. Rhaid i chi roi'r cod i'r awdurdod trwyddedu gyda'ch cais am drwydded - ni fyddant yn gallu prosesu eich cais hebddo.
Mae codau gwirio treth yn dod i ben ar ôl 120 diwrnod, felly os ydych chi'n gwneud cais am drwydded arall ar ôl yr amser hwnnw, bydd angen i chi gynnal gwiriad treth newydd ar gyfer y cais hwnnw.
Os ydych chi'n bartner sy'n gwneud cais am drwydded ar ran partneriaeth, rhaid i chi gwblhau gwiriad treth drosoch eich hun.
Gallwch gysylltu â CThEF os byddwch yn sylwi bod angen diweddaru eich cofnodion yn ystod y gwiriad.
Gwneud cais am fwy nag un drwydded
Gallwch ddefnyddio un cod gwirio treth ar gyfer mwy nag un cais am drwydded, cyn belled â bod yr holl geisiadau ar gyfer yr un math o drwydded (er enghraifft, mae pob cais ar gyfer trwyddedau gyrrwr tacsi ond gyda gwahanol awdurdodau trwyddedu).
Os ydych chi'n gwneud cais am wahanol fathau o drwydded (er enghraifft, trwydded gyrrwr hurio preifat a thrwydded gweithredwr cerbydau hurio preifat), rhaid i chi gwblhau gwiriad treth ar gyfer pob un.
Beth fydd ei angen arnoch
I gynnal gwiriad treth, mae angen rhif adnabod defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych rif adnabod defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn dechrau'r gwiriad.
Bydd angen i chi hefyd wybod y canlynol
- pryd y cawsoch eich trwydded am y tro cyntaf
- hyd eich trwydded ddiweddaraf
- sut rydych chi'n talu treth ar yr incwm rydych chi'n ei ennill o'ch gwaith trwyddedig
- ni fyddwch yn gallu cwblhau'r gwiriad treth os nad yw'r wybodaeth a roddwch am eich materion treth yn cyd-fynd â chofnodion CThEF.
Cwblhau gwiriad trethu ar gyfer trwydded tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap - GOV.UK (www.gov.uk)
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu gwneud eu gwiriad treth ar-lein, dylent gysylltu â CThEF - llinellau cymorth ymholiadau cyffredinol:
- Treth Incwm: ymholiadau cyffredinol ar gyfer unigolyn FFONIWCH 0300 200 3300, neu
- Treth Gorfforaeth: ymholiadau cyffredinol ar gyfer cwmni FFONIWCH 0300 200 3410
Nodyn 12 Nodwch os gwelwch yn dda
Efallai y bydd eich cais yn cael ei adrodd i Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol y Cyngor i'w ystyried. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn cael eich hysbysu o hynny ynghyd â dyddiad ac amser y Pwyllgor. Byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu a byddwch hefyd yn derbyn copi o'r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y pwyllgor.
Ni fydd unrhyw drwyddedau na bathodynnau yn cael eu rhoi heb dalu'r ffi briodol yn llawn.
Rhybudd pwysig
Er mwyn gyrru cerbydau hurio preifat / hurio preifat cyfyngedig neu gerbydau hacni a drwyddedir gan Ddinas a Sir Abertawe, mae'n rhaid i chi gael y drwydded a'r bathodynnau gofynnol cyn gyrru. Os cewch eich canfod yn gyrru cerbyd trwyddedig at unrhyw ddiben heb y drwydded yrru briodol a nodwyd, gallech wynebu erlyniad.
