Tacsis
Mae angen trwydded ar bob gyrrwr a cherbyd hacni a hurio preifat sy'n gweithredu yn Abertawe.
Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat
Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat
Mae angen trwydded ar unrhyw gerbyd i'w hurio â gyrrwr ac sy'n cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr am ffi neu wobrau.
Os hoffech drwydded am gerbyd ar gyfer cludiant ysgol, teithio i'r maes awyr neu hurio'n unig, bydd angen i chi gysylltu â ni. Gallwch ffonio (01792) 635600 neu fynd i'r Neuadd y Ddinas. Argymhellwn eich bod yn gwneud apwyntiad cyn ymweld.
I gael mwy o wybodaeth am drwyddedu tacsis, ffoniwch yr Adran Drwyddedu ar (01792) 635600 neu e-bostiwch trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk.
Mae cerbydau hacni'n ddu gyda phlât trwydded gwyn ar y cefn. Hefyd ceir cylchigau (sticeri) melyn ar ddau ddrws blaen y cerbyd.
Mae cerbydau hurio preifat yn wyn gyda phlât trwydded melyn ar y cefn. Hefyd ceir trionglau gwyrdd (sticeri) ar ddau ddrws blaen y cerbyd.
Rhestrir dyddiadau profion ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yma.
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn Abertawe'n defnyddio cerbydau hurio preifat er bod rhai'n defnyddio cerbydau hacni.
Rhaid i bob gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gael ei drwyddedu gennym ni. Rhaid iddynt wisgo bathodyn adnabod ffotograffig bob amser wrth iddynt weithio.
Os ydych am ddod yn yrrwr tacsi yn Abertawe, edrychwch ar ein canllaw i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.
Fel gyrrwr tacsi dylech ddarparu gwasanaeth i bob cwsmer, gan gynnwys y rheini â chadair olwyn, problemau symudedd neu'r rheini y gall fod angen help arnynt. Dylech helpu unrhyw deithwyr y mae angen help arnynt ac ni allwch wrthod eu gyrru na chodi ffi uwch arnynt.
O 4 Ebrill 2022 mae'r rheolau'n newid os ydych chi'n gwneud cais am drwydded ar gyfer y canlynol gyrrwr tacsi, gyrrwr hurio preifat, gweithredwr cerbyd hurio preifat.
Gwybodaeth am y ffïoedd trwyddedu gwahanol, gan ddibynnu ar y math o dacsi/weithrediad.
Yn gyffredinol, mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ffordd ddiogel o deithio. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis cerbyd trwyddedig a chymryd rhagofalon synhwyrol.
Lleolir safleoedd tacsi yng Nghanol y Ddinas, Treforys a'r Mwmbwls, gyda nifer yn gweithredu am 24 awr.
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedu tacsis.
Gallwch wneud cais i sefyll prawf gwybodaeth neu brawf Saesneg a safonau sylfaenol drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Addaswyd diwethaf ar 19 Awst 2025