Gwneud cais am brawf gwybodaeth neu brawf Saesneg a safonau sylfaenol
Gallwch wneud cais i sefyll prawf gwybodaeth neu brawf Saesneg a safonau sylfaenol drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Cynhelir profion gwybodaeth ar ddydd Mercher a'r pris am brawf yw £29.00. Gallwch dalu ar-lein pan fyddwch yn cyflwyno'r ffurflen gais. Nid oes unrhyw gost am y prawf Saesneg a safonau sylfaenol.
Fel rhan o'ch cais bydd angen i chi ddarparu dull adnabod â llun. Gallwch lanlwytho'r dull adnabod i'r ffurflen. Dylai'r copïau fod yn glir fel y gallwn weld eich llun a'ch holl fanylion yn glir. Dylai eich dogfennau adnabod fod yn ddilys gan nad ydym yn derbyn rhai sydd wedi dod i ben.
Cyn llenwi'r ffurflen hon, darllenwch y ddogfen Arweiniad i fod yn yrrwr tacsi a Guidance notes for the grant of Hackney Carriage, Private Hire and Restricted driver applications.