Nodiadau canllaw ar gyfer caniatáu ceisiadau gyrwyr Cerbydau Hacni, Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Cyfyngedig
Ar y dudalen hon
Person Addas a Phriodol
Cyn y gellir rhoi trwydded, mae'n ofynnol i'r Awdurdod sicrhau bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen ddatganiad yn ogystal â'r ffurflen gais, a chyflwyno tystiolaeth o le a dyddiad geni a'i hawl i weithio yn y DU.
Ar adegau, efallai bydd angen i ymgeisydd gael Tystysgrif Ymddygiad Da a/neu Wiriad Cofnod Troseddol, pan fo'i wlad enedigol neu breswyliad blaenorol y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gellir cynnal gwiriadau gyda'r Swyddfa Gartref hefyd i wirio'r wybodaeth hon a hawl ymgeisydd i weithio yn y DU.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ymgeisydd dylai wneud apwyntiad i weld Swyddog Trwyddedu Tacsi
Nodyn 1 Prawf Llythrennedd Sylfaenol a Phrawf Gwybodaeth
Bydd angen i chi basio Prawf Llythrennedd a Gwybodaeth Sylfaenol cyfunol. Rhaid i chi sefyll y prawf hwn cyn gwneud eich cais.
Mae'n rhaid talu am bob prawf. Rhaid i bob ymgeisydd lwyddo yn y Prawf Llythrennedd Sylfaenol a'r Prawf Gwybodaeth. Os na fyddwch yn llwyddo yn y prawf llythrennedd sylfaenol ar 2 achlysur gwahanol, rhoddir manylion cyswllt er mwyn i chi gofrestru ar Gwrs Saesneg Sylfaenol, ac ni fydd modd i chi aildrefnu eich prawf nes i chi ddarparu dogfennaeth foddhaol yn cadarnhau'r uchod sydd wedi'i hystyried gan yr Adran Drwyddedu.
Pan fyddwch wedi llwyddo yn y prawf llythrennedd sylfaenol a'r prawf gwybodaeth, byddwch yn derbyn tystysgrif a fydd yn ddilys am 12 mis. Os na fyddwch yn gwneud cais am drwydded gyrrwr tacsi yn ystod cyfnod dilysrwydd eich Tystysgrif, bydd angen i chi dalu ac ailsefyll y prawf yn nes ymlaen.
Nodyn 2 lluniau pasbort
- rhaid i'r llun fod o'r ymgeisydd
- yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera yn agos gan ddangos wyneb, pen ac ysgwyddau. Argymhellir fod uchder y pen (y pellter rhwng gwaelod yr ên a choron y pen) rhwng 29 a 34 milimetr
- gyda mynegiant niwtral a'r geg ar gau (dim gwenu, gwgu na chodi aeliau)
- gyda'r llygaid ar agor ac yn weladwy (dim sbectol haul na sbectol arlliw, a dim gwallt ar draws y llygaid)
- heb unrhyw adlewyrchiad golau ar sbectol ac ni ddylai'r fframiau orchuddio'r llygaid. Rydym yn argymell y dylid tynnu sbectol ar gyfer y llun os yn bosibl.
- yn dangos eu pen yn gyfan heb unrhyw orchudd oni bai ei fod yn cael wisgo am resymau crefyddol neu feddygol
- heb unrhyw wrthrychau na phobl eraill yn y llun
- heb gysgodion ar y llun
- heb unrhyw beth yn gorchuddio'r wyneb - ni ddylai unrhyw beth orchuddio amlinelliad y llygaid, y trwyn na'r geg, a dim lygaid coch
Rhaid i'r llun
- fod yr un maint â llun pasbort safonol a dynnwyd mewn bwth neu stiwdio, 45 milimetr o uchder x 35 milimetr o led, nid llun wedi'i dorri i lawr o lun mwy o faint i fod yr un maint â llun pasbort safonol
Ansawdd - rhaid i'r llun
- gael ei dynnu o flaen cefndir lliw hufen neu lwyd golau plaen
- gael ei argraffu i ansawdd uchel, megis lluniau wedi'u hargraffu mewn bwth neu stiwdio (mae'n annhebygol y bydd lluniau sydd wedi'u hargraffu gartref o ansawdd digon uchel)
- fod yn glir ac mewn ffocws plaen
- gael ei dynnu o fewn y mis diwethaf
- fod mewn lliw ar bapur ffotograffig gwyn plaen, heb ei rwygo, ei grychu neu ei farcio, a heb unrhyw ysgrifen ar y blaen neu'r cefn - ac eithrio pan fydd angen ardystio un o'r lluniau.
Nodyn 3 Trwydded Yrru DVLA
Er mwyn ymgeisio ar gyfer trwydded i yrru cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat/cerbydau hurio preifat cyfyngedig, mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn yn y DU am o leiaf blwyddyn. Bydd unrhyw euogfarnau moduro a nodir ar eich trwydded yn cael eu hystyried ac efallai y bydd angen cyfeirio eich cais at y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad.
Os oes gennych drwydded cerdyn llun, bydd angen i chi ei chyflwyno er mwyn i'ch cais gael ei derbyn. Os ydych yn dal i feddu ar drwydded bapur gan y DVLA, h.y. trwydded heb gerdyn llun, bydd y drwydded hon hefyd yn cael ei derbyn.
Bydd angen i chi hefyd gwblhau'r wybodaeth 'Gweld neu rannu gwybodaeth am eich trwydded yrru' ar wefan Gov.uk. Dylech ddarparu'r Cod Gwirio Trwydded Yrru ar ffurflen gais y gyrrwr.
Nodyn 4 Tystysgrif Feddygol
Mae angen Safon Feddygol GRŴP 2
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi mabwysiadu safonau meddygol Grŵp II fel y nodir gan y DVLA yn 'Asesu addasrwydd i yrru: canllaw i weithwyr meddygol proffesiynol'. Mae'r safonau hyn yn berthnasol i yrwyr cerbydau sy'n cludo teithwyr ac maent yn sylweddol uwch na gyrwyr ceir preifat. Gweler y nodiadau a ddarperir ar flaen eich ffurflen feddygol.
Rhaid i'r dystysgrif feddygol gael ei chwblhau gan eich meddyg teulu eich hun. Rhaid i'r dystysgrif beidio â bod yn fwy na 28 diwrnod oed pan gaiff ei chyflwyno gyda'ch cais a rhaid iddi fod ar ffurflen ragnodedig y Cyngor.
Nodyn 5 Gwirio Cofnodion Troseddol (DBS)
Mae datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael drwy Ddinas a Sir Abertawe. Ffoniwch y llinell Apwyntiadau ar 01792 637366 i ofyn am apwyntiad i wneud eich cais ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd y llinell Apwyntiadau'n eich trosglwyddo i'r uned Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a fydd yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn i chi allu cwblhau eich cais Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur, gellir cwblhau'r broses yn llyfrgell y Ganolfan Ddinesig neu'r Ganolfan Gyswllt.
Gallwch gwblhau'r cais hwn cyn cyflwyno eich cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat, neu ar yr un pryd.
Pan fyddwch wedi cwblhau eich cais Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein, bydd angen i chi ddarllen Canllaw ymgeisydd gyrrwr tacsi i gwblhau'r ffurflen DBS i sicrhau bod gennych y ddogfennaeth gywir i gwblhau'r datgeliad. Noder nad yw'r ffi ar gyfer datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ad-daladwy ac mae'n daladwy wrth wneud cais.
Os ydych eisoes wedi derbyn eich Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, bydd y Cyngor ond yn derbyn y tystysgrifau hynny gyda dyddiad cyhoeddi o fewn 28 diwrnod o wneud eich cais.
Nodyn 6 Euogfarnau
O dan y Canllawiau ar euogfarnau ar gyfer ymgeiswyr gyrwyr tacsi a Gweithredwyr Hurio Preifat, rhaid datgelu unrhyw euogfarnau, rhybuddiadau, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddion a/neu hysbysiadau cosb eraill nad ydynt wedi'u cwmpasu, waeth beth fo'u hoedran a byddant yn cael eu hystyried wrth ystyried eich cais.
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu canllawiau ar berthnasedd euogfarnau. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ymgeisydd mewn perthynas â'r adran hon, gwnewch apwyntiad i weld Swyddog Trwyddedu Tacsi.
Nodyn 7 Ffurflen Gais wedi'i chwblhau
Rhaid cwblhau pob rhan o'r ffurflen gais. Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau hyd yn oed os mai NA yw'r ateb.
Rhaid datgelu pob euogfarn, rhybuddiad, hysbysiad cosb benodedig, rhybudd a/neu hysbysiad cosb arall nad ydynt wedi'u crybwyll waeth beth fo oedran neu ddyddiad yr euogfarn. Rhaid iddo hefyd gael ei lofnodi a'i ddyddio gan yr ymgeisydd.
Nodyn 8 Ffi Ymgeisio
Bydd y ffi gywir yn daladwy ar ddiwedd y broses, os cymeradwyir eich trwyddedau. Ar yr adeg hon, byddwch yn derbyn trwydded a bathodynnau, a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn para 3 blynedd.
Nodyn 9 Caniatâd i breswylio a gweithio'n gyfreithlon yn y DU
O 1 Rhagfyr 2016 ymlaen, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth bod ganddo'r hawl i breswylio a gweithio'n gyfreithlon yn y DU, waeth beth fo'i genedligrwydd. Bydd angen i chi ddarparu eich pasbort neu dystysgrif geni lawn yn y DU ynghyd â dogfen CThEF yn nodi eich rhif yswiriant gwladol neu drwydded breswylio biometrig. Os nad oes gennych unrhyw un o'r dogfennau a nodwyd, bydd angen i chi gysylltu â Swyddog Trwyddedu i drafod eich cais.
Nodyn 10 Cofrestr Genedlaethol o Wrthod a Dirymu Trwyddedau Tacsis
Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn darparu gwybodaeth ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol o Drwyddedau Tacsis a Wrthodwyd ac a Ddirymwyd (NR3), sef system i awdurdodau trwyddedu rannu manylion unigolion y mae eu trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat wedi'i dirymu neu unigolion y mae eu cais am drwydded o'r fath wedi'i wrthod. Mae angen gwneud hyn er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn yr Awdurdod Trwyddedu - sef, asesu a yw unigolyn yn berson cymwys a phriodol i ddal trwydded gyrwyr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat.
Felly:
- Os caiff trwydded gyrwyr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat ei dirymu neu os caiff cais am drwydded wrthod, bydd yr awdurdod yn cofnodi'r penderfyniad hwn yn awtomatig ar NR3.
- Bydd pob cais am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded yn cael ei wirio'n awtomatig ar NR3. Os bydd chwiliad o NR3 yn dangos bod ymgeisydd eisoes wedi'i gofnodi arni, bydd yr awdurdod yn ceisio rhagor o wybodaeth am y cofnod ar y gofrestr gan yr awdurdod dan sylw. Bydd unrhyw wybodaeth a dderbynnir o ganlyniad i chwiliad NR3 yn cael ei defnyddio mewn perthynas â'r cais am drwydded benodol yn unig ac ni chaiff ei chadw y tu hwnt i benderfyniad y cais hwnnw.
Bydd y wybodaeth a gofnodir ar NR3 ei hun yn cael ei chyfyngu i'r canlynol
- enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad a manylion cyswllt
- rhif yswiriant gwladol
- rhif trwydded yrru
- penderfyniad a wnaed
- dyddiad y penderfyniad
- dyddiad y daw'r penderfyniad i rym
Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am NR3 am gyfnod o 25 mlynedd.
Mae hyn yn rhan orfodol o wneud cais neu dderbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat.
Caiff gwybodaeth ei phrosesu yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae unrhyw chwiliadau neu unrhyw achos o ddarparu neu dderbyn gwybodaeth sydd ynghlwm wrth NR3 yn angenrheidiol er mwyn cyflawni swyddogaethau trwyddedu statudol yr
awdurdod i sicrhau bod pob gyrrwr yn gymwys ac yn briodol i ddal y drwydded berthnasol. Ni fwriedir i unrhyw ddata NR3 gael ei drosglwyddo allan o'r Deyrnas Unedig.
Os hoffech godi unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys trwy ddibynnu ar unrhyw un o'r hawliau a roddir i destunau data o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r awdurdod yn data.protection@swansea.gov.uk. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun.
Mae gennych yr hawl hefyd i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gellir dod o hyd i gyngor ar sut i godi pryder ynghylch trin data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Yn agor ffenestr newydd).
Nodyn 11 Nodwch Amodoldeb Treth
Mae'n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth i adnewyddu trwydded tacsi neu hurio preifat, neu i ymgeisio am yr un math o drwydded gydag awdurdod trwyddedu gwahanol. Mae'r cais hwn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
O 4 Ebrill 2022 ymlaen, mae'r rheolau'n newid os ydych chi'n gwneud cais am drwydded ar gyfer:
- Gyrrwr tacsi
- Gyrrwr hurio preifat
- Gweithredwr cerbydau hurio preifat
Os ydych chi'n unigolyn, cwmni neu unrhyw fath o bartneriaeth, rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych chi'n:
- adnewyddu trwydded
- gwneud cais am yr un math o drwydded yr oeddech chi'n ei dal o'r blaen, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl
- gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes gydag awdurdod trwyddedu arall
Ni fydd angen i chi gwblhau gwiriad treth a dylech gysylltu â CThEF i gael cyngor ac arweiniad ar eich cyfrifoldebau treth:
- os nad ydych erioed wedi dal trwydded o'r un math o'r blaen.
- os oedd gennych drwydded o'r un math a ddaeth i ben i fod yn ddilys flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais hwn.
Beth yw gwiriad treth?
Mae gwiriad treth yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, os oes angen.
Ar ôl i chi gwblhau'r gwiriad treth, rhoddir cod i chi. Rhaid i chi roi'r cod i'r awdurdod trwyddedu gyda'ch cais am drwydded - ni fyddant yn gallu prosesu eich cais hebddo.
Mae codau gwirio treth yn dod i ben ar ôl 120 diwrnod, felly os ydych chi'n gwneud cais am drwydded arall ar ôl yr amser hwnnw, bydd angen i chi gynnal gwiriad treth newydd ar gyfer y cais hwnnw.
Os ydych chi'n bartner sy'n gwneud cais am drwydded ar ran partneriaeth, rhaid i chi gwblhau gwiriad treth drosoch eich hun.
Gallwch gysylltu â CThEF os byddwch yn sylwi bod angen diweddaru eich cofnodion yn ystod y gwiriad.
Gwneud cais am fwy nag un drwydded
Gallwch ddefnyddio un cod gwirio treth ar gyfer mwy nag un cais am drwydded, cyn belled â bod yr holl geisiadau ar gyfer yr un math o drwydded (er enghraifft, mae pob cais ar gyfer trwyddedau gyrrwr tacsi ond gyda gwahanol awdurdodau trwyddedu).
Os ydych chi'n gwneud cais am wahanol fathau o drwydded (er enghraifft, trwydded gyrrwr hurio preifat a thrwydded gweithredwr cerbydau hurio preifat), rhaid i chi gwblhau gwiriad treth ar gyfer pob un.
Beth fydd ei angen arnoch
I gynnal gwiriad treth, mae angen rhif adnabod defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych rif adnabod defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn dechrau'r gwiriad.
Bydd angen i chi hefyd wybod y canlynol
- pryd y cawsoch eich trwydded am y tro cyntaf
- hyd eich trwydded ddiweddaraf
- sut rydych chi'n talu treth ar yr incwm rydych chi'n ei ennill o'ch gwaith trwyddedig
- ni fyddwch yn gallu cwblhau'r gwiriad treth os nad yw'r wybodaeth a roddwch am eich materion treth yn cyd-fynd â chofnodion CThEF.
Cwblhau gwiriad trethu ar gyfer trwydded tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap - GOV.UK (www.gov.uk)
Os nad yw ymgeiswyr yn gallu gwneud eu gwiriad treth ar-lein, dylent gysylltu â CThEF - llinellau cymorth ymholiadau cyffredinol:
- Treth Incwm: ymholiadau cyffredinol ar gyfer unigolyn FFONIWCH 0300 200 3300, neu
- Treth Gorfforaeth: ymholiadau cyffredinol ar gyfer cwmni FFONIWCH 0300 200 3410
Nodyn 12 Nodwch os gwelwch yn dda
Efallai y bydd eich cais yn cael ei adrodd i Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol y Cyngor i'w ystyried. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn cael eich hysbysu o hynny ynghyd â dyddiad ac amser y Pwyllgor. Byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu a byddwch hefyd yn derbyn copi o'r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y pwyllgor.
Ni fydd unrhyw drwyddedau na bathodynnau yn cael eu rhoi heb dalu'r ffi briodol yn llawn.
Rhybudd pwysig
Er mwyn gyrru cerbydau hurio preifat / hurio preifat cyfyngedig neu gerbydau hacni a drwyddedir gan Ddinas a Sir Abertawe, mae'n rhaid i chi gael y drwydded a'r bathodynnau gofynnol cyn gyrru. Os cewch eich canfod yn gyrru cerbyd trwyddedig at unrhyw ddiben heb y drwydded yrru briodol a nodwyd, gallech wynebu erlyniad.