Canllawiau gyrwyr a cherbydau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
Nodiadau i berchnogion Cerbydau Hacni
Ar y dudalen hon
Deddfau sy'n berthnasol i berchnogion Cerbydau Hacni
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Is-ddeddfau Dinas a Sir Abertawe sy'n ymwneud â Cherbydau Hacni
Trwyddedu Cerbydau Hacni
Rhaid i gerbydau sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor fod yn fecanyddol addas ac yn addas i'w diben. Bydd angen archwiliad a phrawf cynhwysfawr cyn trwyddedu a bydd ffi yn daladwy mewn perthynas â phob trwydded cerbyd. Rhaid i'r Cyngor ystyried bod Perchennog Cerbyd Hacni yn berson addas a phriodol.
Cerbydau wedi'u haddasu i redeg ar LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig)
Rhaid i bob trawsnewidiad i LPG (Nwy Petrolewm Hylifedig) gael ei gwblhau gan Osodwr Cymeradwy LPGA (Cymdeithas Nwy Petrolewm Hylifedig) a dylai perchennog dderbyn tystysgrif Trosi i LPG y mae'n rhaid ei dangos wrth ymgeisio ar gyfer Trwydded Cerbyd Hacni.
Yswiriant
Wrth ymgeisio am Drwydded Cerbyd Hacni, mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif yswiriant cyfredol sy'n cwmpasu defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo teithwyr sy'n talu.
Mae trawsnewid cerbyd i redeg ar LPG yn cae ei ystyried yn addasiad a rhaid hysbysu'r cwmni yswiriant.
Dylai telerau'r yswiriant a drefnir hefyd gynnwys y canlynol:
(i) Indemniad diderfyn am anaf a marwolaeth i deithwyr a thrydydd partïon eraill.
(ii) Indemniad o £1,000,000.00 o leiaf am ddifrod i eiddo trydydd parti - ac eithrio'r un sy'n cael ei gludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
(iii) Yswiriant o hyd at £50.00 o leiaf am ddifrod i eiddo sy'n perthyn i'r rhai sy'n cael eu cludo yn y cerbyd sydd wedi'i yswirio.
Trosglwyddo cerbyd i berchennog arall
Gellir trosglwyddo trwyddedau Cerbydau Hacni yn ystod tymor y drwydded. Ym mhob achos, rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o drosglwyddiad, sy'n nodi enw a chyfeiriad llawn y person y trefnir y trosglwyddiad iddo, i'r Swyddfa Drwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod. Bydd perchennog sy'n methu â hysbysu'r Cyngor am drosglwyddiad o'r fath yn cyflawni trosedd a gall wynebu erlyniad. Os yw'r cyngor o'r farn nad yw'r person y trosglwyddwyd y drwydded iddo yn berson addas i ddal y drwydded honno, gall atal y drwydded dros dro, ei dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded ar yr amod bod rheswm rhesymol dros wneud hynny.
Cynnal a chadw cerbyd
Mae'r perchennog yn gyfrifol am:
i. sicrhau bod y cerbyd trwyddedig yn cael ei gadw'n lân ac mewn cyflwr da bob amser;
ii. adrodd am unrhyw ddifrod i'r cerbyd sy'n effeithio ar ei ddiogelwch, perfformiad ac edrychiad, neu gyfleustra neu gysur teithwyr.
Rhaid rhoi gwybod i'r Swyddfa Drwyddedu am faterion o'r fath o fewn 72 awr a gwneud trefniadau i'r cerbyd gael ei archwilio gan Arolygydd Cerbydau'r Cyngor yn yr Uned Drafnidiaeth Ganolog CYN dechrau'r gwaith atgyweirio. Ni ddylid defnyddio cerbydau sydd wedi cael eu difrodi.
Gall Swyddog awdurdodedig o'r Cyngor neu unrhyw Swyddog Heddlu archwilio Cerbyd Hacni trwyddedig ar unrhyw adeg resymol, ac os nad yw'n fodlon o ran addasrwydd y cerbyd, gall, drwy hysbysiad i'r Perchennog, ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd fod ar gael i'w archwilio ymhellach ac atal y drwydded dros dro nes bod y cerbyd wedi'i gadarnhau i fod yn addas.
Gall Perchennog sy'n cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth a restrir yn y nodiadau hyn neu neu sy'n methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, beri i'r Cyngor arfer pwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu ei drwydded(au) fel yr ystyrir ei fod yn briodol.
Trwyddedau gyrru
Rhaid i Berchnogion Cerbydau gadw cofnod o yrwyr eu cerbydau a phryd maent yn eu gyrru. Mae'n rhaid i'r drwydded a roddir i bob gyrrwr unigol a gyflogir gael ei chadw gan y Perchennog a'i dychwelyd i'r Gyrrwr pan fydd y trefniant yn dod i ben.
Rhwystro swyddog awdurdodedig
Mae'n drosedd i fethu â chydymffurfio heb esgus rhesymol ag unrhyw ofyniad rhesymol gan Swyddog Awdurdodedig y Cyngor neu Swyddog yr Heddlu neu fethu â darparu unrhyw gymorth neu wybodaeth sy'n ofynnol ganddo ef/hi mewn cysylltiad â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.
Arwyddion cerbydau, hysbysebion a manylion adnabod
Rhaid i berchnogion beidio â chaniatáu i arwyddion, hysbysiadau na hysbysebion gael eu harddangos o fewn, ar neu allan o Gerbyd Hacni oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan y Cyngor.
Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gyfrifol am osod a chynnal plât adnabod y drwydded (a roddwyd gan y Cyngor gyda'r drwydded) ar gefn y cerbyd yn ôl y cyfarwyddyd. Mae'r plât yn parhau i fod yn eiddo i'r cyngor. Mae perchennog sy'n methu â dychwelyd y plât pan ofynnir iddo wneud hynny heb esgus rhesymol yn cyflawni trosedd.
Pwerau'r Cyngor
Mae gan y Cyngor bwerau i atal, dirymu neu wrthod adnewyddu o ganlyniad i unrhyw ymddygiad sydd i'w weld yn gwneud Perchnogion yn anaddas i ddal trwyddedau.
Cyfnod y drwydded
Bydd trwydded fel arfer yn cael ei rhoi am gyfnod o ddeuddeg mis. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir rhoi trwydded tymor byr ond dim ond yn ôl disgresiwn y Cyngor.
