Arweiniad i fod yn yrrwr tacsi
Os ydych am ddod yn yrrwr tacsi yn Abertawe, edrychwch ar ein canllaw i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.
I ddod yn yrrwr tacsi bydd angen i chi:
- basio prawf llythrennedd a rhifedd Saesneg sylfaenol (bydd y rhain yn cael eu cwblhau ar yr un pryd â'ch prawf gwybodaeth)
- pasio prawf gwybodaeth (bydd pob ymgais yn costio £29)
- meddu ar yr hawl i weithio yn y DU. Gellir cynnal gwiriadau gyda'r Swyddfa Gartref
- llenwi ffurflen gais. Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho ar ein tudalen Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat. Mae'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y profion a gwybodaeth ychwanegol y bydd angen i chi ei rhoi i ni. Os yw'n well gennych, gallwch godi pecyn o'r Ganolfan Ddinesig
Beth sydd angen i mi ei wneud yn gyntaf?
- lawrlwythwch a darllenwch y pecyn cais (PDF, 8 MB) i gael gwybodaeth am y broses a'r manylion i'w hastudio ar gyfer y prawf gwybodaeth
- gofyn am apwyntiad i sefyll Prawf Gwybodaeth ar-lein
- pan fyddwch wedi llwyddo yn y prawf gwybodaeth, anfonir cadarnhad o'ch tocyn atoch drwy e-bost a fydd yn ddilys am 12 mis
- trefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i gynnal prawf meddygol i safonau meddygol Grŵp 2. Cofiwch y bydd y dystysgrif gan eich meddyg teulu yn ddilys am 28 niwrnod yn unig
- os oes angen tystysgrif ymddygiad da arnoch, dylech hefyd gyflwyno cais am hon nawr (cyfeiriwch at y Canllawiau Addasrwydd IOL neu gwiriwch gyda Swyddog Trwyddedu)
- gwnewch gais am eich ceisiadau DBS drwy ffonio'r llinell apwyntiadau ar 01792 636098.
Fel rhan o'r cais bydd hefyd angen i chi gyflwyno:
1. Trwydded yrru DVLA
- rhaid eich bod wedi meddu ar drwydded yrru lawn am o leiaf 12 mis.
- rhaid iddi ddangos eich cyfeiriad preswylio cyfredol
- rhaid bod y drwydded cerdyn llun o fewn ei dyddiad
- côd "rhannu fy nhrwydded yrru" (y gellir ei wneud pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais)
2. Ffurflen feddygol Grŵp 2
Mae'r ffurflen hon ar gael ar y dudalen Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat. Rhaid i'ch meddyg teulu gwblhau'r ffurflen hon. Codir tâl am gwblhau'r ffurflen a chi sy'n gyfrifol am dalu'r gost. Mae'r gost yn amrywio yn dibynnu ar y feddygfa.
3. Datgeliad GDG manwl
Fel rhan o'r cais, bydd hefyd angen dau wiriad GDG manwl.
Cysylltwch â'n hadran GDG ar 01792 636098.
Mae desg gymorth y Gwasanaeth GDG ar agor ar gyfer ceisiadau GDG rhwng ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae angen i chi wneud cais am 2 dystysgrif GDG fanwl yn benodol ar gyfer (1) Gweithlu Arall - gyrrwr tacsis - trwydded a (2) GWEITHLU PLANT AC OEDOLION - gyrrwr tacsis - 'Gwaith contract'.
Bydd yr uned GDG yn gofyn am ffi ar gyfer y ddau DBS sy'n daladwy gyda cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn. Gellir dod o hyd i'r ffioedd cyfredol sy'n berthnasol yma Ffioedd ar gyfer trwyddedu tacsis - Abertawe.
Ar ôl i chi dderbyn eich tystysgrifau GDG, gallwch anfon lluniau clir ohonynt wedi'u sganio drwy e-bost i TrwyddeduTacsis@abertawe.gov.uk
4. Prawf bod gennych ganiatâd i fyw a gweithio'n gyfreithlon yn y DU.
Bydd angen i bob ymgeisydd darparu prawf bod ganddo ganiatâd i fyw a gweithio'n gyfreithlon yn y DU, waeth beth fo'i genedligrwydd. Bydd angen i chi ddarparu eich pasbort; neu dystysgrif geni lawn y DU ynghyd â dogfen CThEM sy'n nodi eich rhif Yswiriant Gwladol neu hawlen breswylio fiometrig. Os nad oes gennych unrhyw un o'r dogfennau a grybwyllir, bydd angen i chi gysylltu â Swyddog Trwyddedu i siarad am eich cais ar 01792 635600.
5. Lluniau pasbort
- rhaid i'r llun fod o'r ymgeisydd
- rhaid i'r ymgeisydd wynebu ymlaen ac edrych yn syth ar y camera yn agos at ei wyneb, ei ben a'i ysgwyddau, gydag uchder pen argymelledig (y pellter rhwng gwaelod yr ên a thop y pen) rhwng 29 a 34 milimetr
- gyda mynegiant niwtral a'r geg ar gau (dim gwenu, gwgu na chodi aeliau
- gyda'i lygaid yn agored ac yn weladwy, dim sbectol haul na sbectol wedi'i thywyllu a dim gwallt ar draws y llygaid)
- dim adlewyrchiadau neu lacharedd ar y sbectol a ni ddylai'r fframiau orchuddio'r llygaid. Os yw'n bosib, rydym yn argymell bod sbectol yn cael eu tynnu ar gyfer y llun
- dangos ei ben llawn, heb unrhyw orchudd pen oni bai ei fod yn gwisgo un oherwydd gredoau crefyddol neu resymau meddygol
- heb unrhyw wrthrychau na phobl eraill yn y llun
- heb gysgodion ar y llun
- heb unrhyw beth yn gorchuddio'r wyneb. Ni ddylai unrhyw beth orchuddio amlinelliad y llygaid, y trwyn na'r geg, na dangos unrhyw lygad coch
Mae angen i'r llun:
- fod yn faint llun pasbort safonol y DU a dynnwyd mewn bwth neu stiwdio, 45 milimetr o uchder x 35 milimetr o led, a heb ei dorri o ffotograff mwy i faint llun pasbort safonol
Rhaid i ansawdd y llun:
- fod wedi'i dynnu yn erbyn cefndir hufen plaen neu gefndir llwyd golau plaen
- cael ei argraffu i ansawdd uchel, fel lluniau wedi'u hargraffu gan fwth neu stiwdio (mae ffotograffau a argraffwyd gartref yn annhebygol o fod o ansawdd digon uchel)
- bod yn glir ac mewn ffocws
- bod wedi'i dynnu o fewn y mis diwethaf
- bod mewn lliw, ar bapur ffotograffig gwyn plaen, heb ei rwygo, ei grychu na'i farcio a heb unrhyw ysgrifen ar y tu blaen neu'r cefn - ac eithrio pan fydd angen ardystio un o'r lluniau
6. Cyflwyno cais
Anfonwch y cais wedi'i gwblhau gyda'r holl ddogfennau ategol drwy e-bost i TrwyddeduTacsis@abertawe.gov.uk.
7. Trwydded a bathodyn
Bydd cost trwydded a bathodyn (heb gynnwys y prawf gwybodaeth a ffi ymgeisio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) yn ddilys am 3 blynedd. (Mewn rhai achosion, rhoddir trwyddedau am gyfnod byrrach a bydd ffi is yn berthnasol.)
