Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu
Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu.
Os ydych am wneud hyn, arhoswch tan ar ôl 1.00pm ar eich diwrnod casglu er mwyn rhoi digon o amser i'r criwiau gwblhau casgliadau yn eich ardal.
Byddwn yn trefnu casgliad arall ar gyfer gwastraff na chafodd ei gasglu os bodlonir yr amodau isod:
- nid yw'ch bagiau wedi'u sticio na'u tagio.
- roedd eich biniau neu eich sachau'n cynnwys y deunyddiau cywir.
- roedd eich biniau a'ch sachau wedi'u gosod ar ymyl y ffordd ac ar y dydd a'r wythnos gywir.
- nid yw eich biniau a'ch sachau yn rhy drwm.
- roedd eich biniau a'ch sachau wedi'u gosod ar y palmant cyn 6.00am ar eich dyddiad casglu biniau.
- nid oes pethau annisgwyl wedi tarfu ar y gwasanaeth, e.e. tywydd gwael - os digwydd hyn, byddwn yn gosod gwybodaeth ar ein gwefan ac ar ein cyfrif Twitter (Yn agor ffenestr newydd) a Facebook (Yn agor ffenestr newydd).
Petai'ch biniau a'ch sachau yn barod i'w casglu, gallwch roi gwybod am gasgliad a gollwyd i ni. Os nad oedd eich biniau neu eich sachau yn barod i'w casglu, yna byddwn yn eu casglu ar eich dydd casglu priodol nesaf neu gallwch fynd ag ef i ganolfan ailgylchu.