Casglu asbestos o'ch cartref
Rydym yn darparu gwasanaeth casglu haenau asbestos bondiog ar gyfer preswylwyr Abertawe os nad oes mwy na 3 dalen (3' x 8').
Y gost yw £30.00 y ddalen.
Rhaid talu ymlaen llaw drwy gerdyn debyd neu gredyd neu drwy siec neu arian parod yn y dderbynfa neu drwy'r post. Ni ddylid talu'r criwiau casglu.
Cais am gasgliad
I drefnu casgliad, ffoniwch 01792 635600. Dylech roi disgrifiad llawn o'r gwastraff i'w gasglu pan fyddwch yn trefnu'r casgliad.
Symiau mwy o asbestos
Os oes gennych nifer mawr o ddalennau asbestos bondiog, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff masnachol. Rhaid iddynt gael trwydded i drin a thrafod asbestos.
Bydd gan Gontractwyr Symud Asbestos Cymeradwy (ARCA) restr o gontractwyr yn ardal Abertawe a gymeradwywyd i symud asbestos. Ffoniwch nhw ar 01283 531126 neu e-bostiwch info@arca.org.uk.