Castell Abertawe
Yn hollol glwm â dynion a merched mwyaf pwerus ac uchelgeisiol yr Oesoedd Canol, mae hanes y castell fel llyfr 'pwy yw pwy' canoloesol, yn llawn llofruddio, trefnu priodasau cyfleus, twyllo a chreu cysylltiadau cyfrwys.
Mae caer ganoloesol Abertawe wedi goroesi gwarchae, gwrthryfel a'r Blitz - yn oroeswr go iawn yng nghalon y ddinas. Dilynwch ni i ganfod rhagor o straeon cudd y castell.
Oddeutu'r flwyddyn 1106, adeiladodd Henry de Beaumont, Arglwydd Normanaidd cyntaf Gŵyr, y castell cyntaf o bren ar y bryncyn hwn a oedd yn cynnig amddiffynfa naturiol uwchben yr Afon Tawe. Dyma gychwyn brwydr am 200 o flynyddoedd rhwng Arglwyddi'r Mers a Thywysogion Cymru i geisio rheolaeth dros Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.
Castell Abertawe erbyn heddiw
Bywyd ar ôl oes Arglwyddi Gŵyr - yr ugeinfed ganrif
Bywyd ar ôl oes Arglwyddi Gŵyr - y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Bywyd ar ôl oes Arglwyddi Gŵyr
1400 - Rhagor o wrthryfelwyr Cymreig a rhai ysbiwyr y Saeson
1320 - Oes Teulu De Mowbray
1200 - 1320 - Oes Teulu De Breos
