CDLl2 Cynllun cyn adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
Mae'r strategaeth a ffefrir yn nodi gweledigaeth, amcanion a pholisïau strategol y cynllun. Mae'n cadarnhau maint y twf a'r strategaeth ofodol eang a gynigir i gyflawni'r twf hwnnw, gan gynnwys cyfleoedd posibl ar raddfa fawr ar gyfer creu lleoedd a datblygu.
Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad 8 wythnos ar y Strategaeth a Ffefrir (PDF, 11 MB) rhwng 24 Chwefror ac 18 Ebrill 2025. Roedd dogfennau ategol allweddol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig, Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Cam 1) a'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisio ar gael hefyd i wneud sylwadau arnynt.
Fe wnaethom ni greu ystafell ymgynghori rithwir gyffrous i gefnogi'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir. Cynhyrchwyd fideo byr hefyd am CDLl2 a'r hyn y mae'n ei olygo i Abertawe.
Bydd y sylwadau sy'n cael eu derbyn yn cael eu hystyried gennym ni a bydd y sylwadau hyn yn llywio cam nesaf proses CDLl2, y cynllun adnau (Cam 4).