Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerbydau - cerbyd hacni

Mae cerbydau hacni'n ddu gyda phlât trwydded gwyn ar y cefn. Hefyd ceir cylchigau (sticeri) melyn ar ddau ddrws blaen y cerbyd.

Dengys y plât a'r cylchigau ar y drysau rif trwydded y cerbyd.  Mae'r plât ar y cefn hefyd yn arddangos uchafswm nifer y teithwyr y caniateir i'r cerbyd eu cario. Mae'n rhaid i gerbydau hacni hefyd arddangos arwydd ar y to sy'n nodi mai tacsi ydyw.

Gall cerbydau hacni gasglu teithwyr o safle tacsis dynodedig. Hefyd gellir galw tacsi ar y stryd neu archebu un ymlaen llaw trwy swyddfa'r cwmni.

Mae mesurydd ym mhob cerbyd hacni sy'n arddangos y tâl sy'n cael ei godi.  Mae'n rhaid i'r tâl hwn gydymffurfio â'r strwythur taliadau a gytunwyd gan y cyngor.

Prisiau cerbydau hacni

Rydym yn gosod y prisiau a godir gan berchnogion cerbydau hacni yn Ninas a Sir Abertawe.