Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Claddedigaethau ar dir preifat

Fel arfer cleddir pobl mewn mynwentydd neu fynwentydd eglwysi, fodd bynnag, mae rhai unigolion yn dewis cael eu claddu ar dir preifat, megis tir ffermio neu erddi preifat.

Tir Ffermio

Mae'r ardaloedd hyn yn tueddu i fod i ffwrdd o dai preswyl ac felly ni ddylent fod yn fygythiad i gymdogion na'r cyhoedd cyffredinol.Byddai angen caniatâd cynllunio fel arfer ar gyfer nifer cyfyngedig o gladdedigaethau (yn enwedig pan fydd yr ymadawedig yn perthyn i berchnogion yr eiddo).Os bwriedir claddu pobl nad ydynt yn berthnasau neu os bwriedir i nifer y claddedigaethau fod yn ddiderfyn, gallai'r sefyllfa o bosib gael ei hystyried yn newid defnydd. Yn yr achos hwn, dylech gysylltu â'r adran gynllunio am gyngor.

Gerddi Preifat

Mae gardd eiddo a berchnogir yn breifat hefyd yn ddewis posib ar gyfer claddedigaeth. Mae sawl ffactor i'w ystyried:

Os bwriedid cynnal nifer o gladdedigaethau, byddai angen ymgynghori â'r awdurdod cynllunio lleol, oherwydd byddai prif ddefnydd yr ardd wedi newid.
Byddai cymdogion yn bendant yn pryderu am unrhyw gladdedigaethau'n agos at eu cartrefi. Er na fyddai ganddynt hawl gyfreithiol i wrthwynebu, dylid ystyried y goblygiadau cymdeithasol.

Byddai claddu ar dir eiddo yn effeithio ar ei werth.

Dylid ystyried hefyd effeithiau tymor hir claddedigaeth o'r fath: os ydych am symud yn y dyfodol, a fyddech am ddatgladdu'r corff a mynd ag ef gyda chi? Byddai angen trwydded arnoch a dylech ystyried barn y berthynas agosaf a pherchennog yr eiddo. Efallai bydd helynt os ystyrir y fath weithred.

Arweiniad

Nid oes dim deddfau'n gwahardd claddedigaeth ar dir preifat neu anghysegredig, na'n gofyn am arch neu wasanaeth. Nid yw man claddu heb ffensys neu gerrig beddau'n fynwent o dan gyfraith cynllunio ac "yn amodol ar gyfamodau cyfyngu, gall unrhyw berson ei sefydlu heb awdurdod statudol, ar yr amod nad achosir unrhyw niwsans" (Siarter ar gyfer Pobl mewn Profedigaeth).

Mae'n rhaid claddu corff yr ymadawedig yn y fath fodd bod unrhyw ran o'r arch dair troedfedd o dan y ddaear. Fe'ch cynghorir i gysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ddweud wrthynt am y gladdedigaeth.

Dylid cysylltu â chwmnïau cyfleustodau lleol ynghylch unrhyw bibau neu geblau a allai fod yn gorwedd yn yr ardal lle bwriedir claddu'r corff.Yn gyffredinol, y cyngor yw osgoi bod o fewn 250 metr i unrhyw ffynnon neu dwll turio neu 10 metr o unrhyw ferddwr neu ddŵr rhedegog. Sylwer bod angen claddu sgerbydau anifeiliaid mewn cae 250 metr i fwrdd o gyflenwad dŵr i'w ddefnyddio gan bobl, 30 metr o unrhyw darddell a 10 metr o unrhyw ddraen cae.

Bydd safle'n addas os na fydd unrhyw ddŵr ar waelod y bedd pan gaiff ei gloddio gyntaf.

Byddai angen i chi greu cofrestr gladdu i gydymffurfio â Chyfraith Statud. Gallai hyn fod yn llyfr nodiadau sy'n cynnwys manylion yr ymadawedig ac o ddewis, fap syml sy'n dangos lleoliad y gladdedigaeth.

Byddech hefyd yn derbyn tystysgrif claddu  (a roddir gan y crwner neu Gofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau).Byddai angen cwblhau'r rhan y gellir ei datgysylltu, a'i dychwelyd at y cofrestrydd

Os ydych yn ystyried claddedigaeth ar dir  preifat, efallai y byddech am ystyried trefnu'r angladd heb ddefnyddio Trefnwr Angladdau. Am gymorth wrth wneud trefniadau o'r fath, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith