Ffïoedd cyrsiau a chofrestru Dysgu Gydol Oes
Cofrestriadau Tymor yr Haf nawr ar agor. Mae ffioedd y cyrsiau'n parhau i fod yn isel, £10 am dymor o 10 wythnos, sy'n gywerth â £1 yr wythnos.
Bydd lawer o'n cyrsiau'n dychwelyd i'r ystafell ddosbarth a dysgu wyneb-i-wyneb. Bydd rhai yn parhau i fod yn ddysgu ar-lein yn unig tra bydd nifer o'n cyrsiau'n cymysgu wyneb-i-wyneb â dysgu ar-lein. Wrth edrych ar eich opsiynau cwrs, bydd y fformat yn nodi pa fath o ddosbarth sy'n cael ei gynnig.
Arôl cofrestru ar-lein, byddwn yn cysylltu dysgwyr drwy e-bost i gadarnhau eu le.
Os byddwch yn llwyddo i ennill lle ar ein cwrs, byddwn yn darparu cod cwrs i chi, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â'ch dosbarth. Sylwch fod yn rhaid i chi ymuno â'r dosbarth cyn pen 48 awr ar ôl derbyn eich côd dosbarth, hyd yn oed os nad yw'r cwrs i fod i gychwyn yn fuan. Bydd dysgwyr nad ydynt yn ymuno â'u hystafelloedd dosbarth o fewn 48 awr ar ôl derbyn eu côd dosbarth, yn colli eu lle a fydd wedyn yn cael ei gynnig i'r person nesaf ar y rhestr aros.
Gellir tynnu neu derfynu dosbarthiadau nad ydynt yn hyfyw.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu eu deunyddiau, cynhwysion, gwerslyfrau a deunydd ysgrifennu eu hunain.
Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu mynediad i ddosbarthiadau sydd â galw mawr.