Toglo gwelededd dewislen symudol

Oedolion â nam synhwyrol

Gwybodaeth ac arweiniad i bobl â nam synhwyraidd, gan gynnwys y rheini sy'n colli eu golwg neu glyw a'r rheini sy'n fyddarddall (nam ar ddau synnwyr).

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal sy'n cefnogi pobl sydd â nam synhwyrol. Gall ddarparu amrywiaeth o wybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth ymarferol

Gall gwasanaethau cefnogi gynnwys:

  • cyfarpar ac addasiadau i helpu rhywun i ymdopi gartref
  • hyfforddiant a sgiliau i fwyafu annibyniaeth
  • cymorth gyda gofal personol.

Cyn i chi allu cael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn, byddai'n rhaid i ni gynnal asesiad o'ch anghenion.

Nam ar y golwg

Gwybodaeth i bobl sy'n ddall, rhannol ddall neu'n colli eu golwg.

Colli clyw

Gwybodaeth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw.

Colli dau synnwyr (byddar-ddall)

Mae pobl sy'n fyddarddall wedi colli eu golwg a'u clyw, cyfeirir at hyn weithiau fel 'nam ar ddau synnwyr'.

RNIB

Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), un o brif elusennau colli golwg y DU a'r gymuned fwyaf o bobl ddall a rhannol ddall.