Toglo gwelededd dewislen symudol

Colli dau synnwyr (byddar-ddall)

Mae pobl sy'n fyddarddall wedi colli eu golwg a'u clyw, cyfeirir at hyn weithiau fel 'nam ar ddau synnwyr'.

Ystyrir bod rhywun yn fyddar-ddall os yw'r cyfuniad o golli clyw a cholli golwg yn achosi problemau cyfathrebu, mynediad i wybodaeth a symudedd. Gall byddarddallineb ddatblygu dros amser neu gall fod yn amlwg o'ch geni (cynhenid).

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol arbenigol a rheolwyr gofal sy'n cefnogi pobl â chyfuniad o golli golwg a cholli clyw. Gallant gynnig amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol.

Efallai y bydd offthalmolegydd neu glywedegwr yn eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, neu gallwch gyfeirio'ch hunan neu rywun rydych chi'n pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaetau Synhwyraidd.

 

Gall y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch:

Mae gennym ganolfan adnoddau sy'n cynnwys cyfarpar i bobl â nam synhwyraidd gan roi cyfle i dreialu cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.

Gall fod nifer o wasanaethau eraill ar gael i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd i gael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithaso. Er mwyn i hyn ddigwydd, byddai'n rhaid i chi gael asesiad.

Contact the Sensory Services Team Sensory Services Team

 

Gall y mathau canlynol o wasanaethau gael eu cynnig i bobl sy'n bodloni'r meini prawf:

  • Asesu perfformiad a dyrannu cyfarpar er mwyn gwella annibyniaeth, hyfforddiant symudedd a sgiliau byw bob dydd.
  • Hyfforddiant ac arddangos cyfarpar TG a ddyluniwyd yn arbennig gyda syntheseisyddion lleferydd, sgrîn gyffwrdd a thestun print bras, etc.
  • Cyfleoedd dysgu gan gynnwys celf a chrefft a all helpu i wella medrusrwydd corfforol a darparu diddordeb newydd.
  • Taliadau uniongyrchol, a all eich galluogi i drefnu eich cefnogaeth eich hun, efallai drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol.
  • Gofal seibiant.
  • Gofal preswyl gwasanaethau cartref.
  • Cefnogaeth yn y cartref.
  • Gwasanaethau therapi galwedigaethol.
  • Cyflwyno cyfarpar a fyddai'n gwella annibyniaeth. Byddai hwn yn cael ei osod gan ein Swyddog Technego.
  • Cyfleoedd dydd.

 

Mwy am fod yn fyddarddall

Gall colli golwg a chlyw ymddangos mewn sawl ffurf gydag effeithiau gwahanol iawn.

Colli golwg

Mae rhai o'r ffurfiau mwyaf cyffredin o golli golwg yn cynnwys cataractau, glaucoma a Dirywiad Macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran. Er mwyn darganfod unrhyw broblemau posib yn gynnar iawn mae'n bwysig ymweld ag optegydd yn rheolaidd.

Colli clyw

Mae gwahanol bethau'n achosi byddardod. Er enghraifft, genir rhai pobl yn fyddar ac mae'n bosib eu bod yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf. Bydd rhai'n colli eu clyw o ganlyniad i, er enghraifft, salwch, cyflwr a etifeddwyd neu heneiddio ac yn yr achosion hyn, erys lleferydd fel arfer yn iaith gyntaf i chi.

 

Cofrestru eich anabledd

Os ydych eisoes wedi ymweld ag optegydd ymgynghorol mewn ysbyty lleol, mae'n bosib y byddant yn awgrymu i chi gofrestru'n nam ar eich golwg neu nam difrifol ar eich golwg yn unol â'r diffiniadau a roddir yn Adran 29, Deddf Cymorth Cenedlaethol 1948.

Os ydych yn gymwys i gofrestru, bydd yr Opthalmolegydd yn cwblhau tystysgrif CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg) i ardystio bod nam ar eich golwg neu nam difrifol ar eich golwg Caiff copi ei anfon atoch ac at eich meddyg teulu ac y Tîm Gwasanaethau Synhwyrol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd yn cysylltu â chi os dymunwch gael eich cynnwys ar Gofrestr Pobl Anabl yr awdurdod lleol.

Os ydych eisoes wedi ymweld â chlywedegwr, mae'n bosib y byddant yn gofyn a hoffech gael eich cyfeirio at y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd. Nid yw eich clywedegwr yn medru cofrestru unrhyw unigolyn yn drwm eu clyw neu'n fyddar. Dyna yw rôl gweithiwr cymdeithasol arbenigol y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd a fydd yn eich asesu ynghylch hyn. Os teimlwch eich bod yn gymwys ac yr hoffech gofrestru, bydd cais am gofrestru yn cael ei gyflwyno a bydd y manylion cofrestru yn cael eu hanfon atoch.

Oes rhaid cofrestru?

Nac oes. Mae gwneud cais i gael eich cofrestru'n ddall, â golwg rhannol neu'n fyddar yn gwbl wirfoddol. Os yw'n well gennych beidio â chofrestru, ni fyddwch yn cael eich rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaethau.

Pam cofrestru?

Mae'n gwneud pethau'n symlach er mwyn i chi gael defnyddio rhai gwasanaethau a derbyn budd-daliadau.

Mae hefyd yn caniatáu i'ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr sy'n cynorthwyo eich awdurdod lleol wrth gynllunio gwasanaethau'r dyfodol ar eich cyfer chi a phobl fyddarddall eraill.

 

Cofrestru'n anabl

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.