Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Llangyfelach

Mae ffyrdd mawr yn torri trwy'r comin ychydig i'r gogledd o Gyffordd 46 yr M4 a gerllaw'r safle Parcio a Theithio.

Mae ganddo hanes o gloddio am lo gyda thomen ysbail fach a thramffordd yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif. Mae ardal y domen yn gysylltiedig â hen waith tunplat Felindre.

Er nad yw'n safle arbennig o hardd, mae'n fuddiol i fywyd gwyllt. Ceir planhigion megis plu'r gweunydd, blodau'r brain, eithin y mynydd, tegeirianau, tresgl y moch a charwas troellog, ynghyd ag ymlusgiaid megis y wiber, y fadfall a'r neidr ddefaid. Cadwch lygad am adar megis y fronfraith, y llinos, y fwyalchen, clochdar y cerrig a'r cudyll coch.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN - Comin Llangyfelach)

Cyfleusterau

  • Mae'r cyfleusterau agosaf yn Llangyfelach

Gwybodaeth am fynediad

Trwy Gyffordd 46 yr M4
Cyfeirnod Grid SS648994
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau

Llwybrau ar draws y safle

Bysus

Mae'r safleoedd bysus agosaf yn Llangyfelach neu'r safle Parcio a Theithio ger pen gogleddol y comin.

Close Dewis iaith