Toglo gwelededd dewislen symudol

CREST (Cymuned, Adferiad, Addysg, Sgiliau, ag Hyfforddiant)

Canolfan adnoddau iechyd meddwl arbenigol yw CREST, a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe. Mae'n cynnig gwasanaethau adfer i bobl a chanddynt heriau iechyd meddwl.

Mae gan y gwasanaeth dri phrif faes gyda meini prawf cymhwysedd gwahanol: gwasanaeth dydd, coleg adfer a chyflogaeth.

Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar annog pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl i ddatblygu sgiliau a meithrin perthnasoedd sy'n eu galluogi i symud ymlaen, rheoli eu bywydau a byw mewn ffordd fwy ystyrlon ac annibynnol.

Mae gan CREST adnoddau helaeth er mwyn helpu i wneud i hynny ddigwydd.

Maent yn cynnwys ystafell TG, cegin arddangos, ystafell grefftau llawn offer a gerddi deniadol.

Yng nghanol CREST y mae'r Caffi Serenity. Mae ei amgylchedd hamddenol a'i addurniadau gwledig yn ei gwneud hi'n berffaith i fyfyrwyr, defnyddwyr gwasanaeth, staff a gweithwyr proffesiynol ddod at ei gilydd. Mae'n cynnig amrywiaeth eang o brydau â phrisiau realistig.

Gwasanaeth dydd CREST

Mae'r gwasanaeth dydd yn cynnig dewis cynhwysfawr o weithgareddau yn ystod y dydd ar gyfer pobl ag anghenion iechyd mwy cymhleth.

Coleg adfer CREST

Mae'r coleg adfer yn defnyddio ymagwedd addysgol i'ch cefnogi i gael bywyd ystyrlon yn seiliedig ar yr hyn y mae adfer yn ei olygu i chi.

Tîm cyflogaeth Crest

Mae tîm cyflogaeth CREST yn ddarparwr sefydledig o ran sgiliau gwaith, hyfforddiant a chefnogaeth cyflogaeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd PABM.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2025