Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am waith ffordd

Pam mae'n rhaid i ni wneud gwaith ffordd, pwy sy'n rhoi caniatâd ar gyfer gwaith ffordd a lleoedd eraill i ddod o hyd i wybodaeth am deithio a ffyrdd.

Pwy sy'n gyfrifol am waith ffordd?

Beth sy'n digwydd os nad ydych yn hapus am y gwaith ffordd yn eich ardal?

Sut alla i gael gwybod am waith ffordd yn fy ardal?

Pam mae gwaith ffordd yn cymryd mwy o amser na gynlluniwyd o bryd i'w gilydd?

Sut gallaf ddod o hyd i ffyrdd a fydd ar gau yn Abertawe?

Pwy sy'n cynnal a chadw'r ffyrdd yn Abertawe?

Ffordd Fabian

Ble arall gallaf ddod o hyd i wybodaeth am waith ffordd neu broblemau traffig?

 

Pwy sy'n gyfrifol am waith ffordd?

Rydym yn gyfrifol am fonitro a chydlynu gwaith ffordd a wneir yn Abertawe. Gwneir y gwaith ffordd ei hun gan sefydliad statudol. Gallai hyn fod y cyngor, Wales and West Utilities ar gyfer cyflenwadau nwy, Western Power ar gyfer cyflenwadau trydan, Dŵr Cymru ar gyfer cyflenwadau dŵr a chwmnïau telegyfathrebu megis BT a Virgin Media. Mae gan y rhain oll ddyletswydd gyfreithiol i osod, archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio neu osod cyfarpar newydd ar strydoedd neu oddi tanynt, yn ôl yr angen.

Mae gan y cwmnïau cyfleustodau ddyletswydd gyfreithiol i ddweud wrth y cyngor am waith ffordd y maent yn bwriadu ei wneud. Weithiau mae angen gwneud gwaith brys, er enghraifft, os oes nwy neu ddŵr yn gollwng. Yn yr achosion hyn, bydd y rhybudd y mae cwmni cyfleustodau yn gallu ei roi yn fyr iawn.

Beth sy'n digwydd os nad ydych yn hapus am y gwaith ffordd yn eich ardal?

Dylech gysylltu â'r cwmni cyfleustodau neu'r contractwr os oes problem gyda'r gwaith ffordd yn eich ardal. Mae manylion y gwaith ffordd, y contractwyr a sut i gysylltu â nhw ar gael ar dudalen Cynhelir gwaith ffordd. Gallwch adrodd am broblemau sŵn neu niwsans i'n Tîm Llygredd.

Sut alla i gael gwybod am waith ffordd yn fy ardal?

Rydym yn darparu bwletin e-bost am ddim (Yn agor ffenestr newydd) o'r adroddiad gwylio ffyrdd diweddaraf. Bydd angen i chi gofrestru eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn ei dderbyn. Gallwch stopio derbyn yr hysbysiadau e-bost drwy ddewis 'datdanysgrifio' ar unrhyw un o'r e-byst rydych yn eu derbyn.

Pam mae gwaith ffordd yn cymryd mwy o amser na gynlluniwyd o bryd i'w gilydd?

Mae pibellau a cheblau wedi cael eu gosod o dan ein ffyrdd am dros 100 o flynyddoedd. Yn aml, mae cofnodion o leoliadau pibellau a cheblau hŷn yn anghyflawn neu ar goll. Er y cynhyrchwyd technoleg er mwyn helpu i ddod o hyd i leoliadau pibellau a cheblau, weithiau mae ond yn bosib dod o hyd iddynt drwy gloddio twll. Mae'r ansicrwydd hwn yn gallu arwain at oedi o ran yr amser a gymerir i wneud y gwaith ffordd.

Sut gallaf ddod o hyd i ffyrdd a fydd ar gau yn Abertawe?

Gellir cau ffyrdd i gynnal gwaith ffordd a rhestrir y rhain yn Cynhelir gwaith ffordd. Gellir cau ffordd dros dro am resymau diogelwch oherwydd gwaith datblygu, gwaith ffordd, contractwyr preifat neu ddigwyddiadau eraill. Rydym yn darparu gwybodaeth am gau ffyrdd dros dro a chau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau arbennig.

Pwy sy'n cynnal a chadw'r ffyrdd yn Abertawe?

Rydym yn gyfrifol am yr holl briffyrdd sydd wedi'u mabwysiadu yn y sir.

Cynhelir strydoedd preifat (priffyrdd heb eu mabwysiadu) ar draul y perchennog. Efallai mai'r perchennog yw'r preswylwyr sy'n berchen ar y rhan o flaen eu tŷ, neu drydydd parti (datblygwr fel arfer). Nid ydym dan unrhyw rwymedigaeth i wneud atgyweiriadau na chynnal a chadw'r stryd, er y gallai fod â hawl tramwy cyhoeddus ac felly'n destun deddfau priffyrdd a thraffig. Gallwch ganfod a yw ffordd wedi'i mabwysiadu drwy gyflwyno cais i chwilio am ffyrdd wedi'u mabwysiadu ar-lein.

Yr unig ffordd arall nad ydym yn ei chynnal a'i chadw yn ardal Abertawe yw traffordd yr M4. Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru sy'n cynnal a chadw'r draffordd. Os hoffech adrodd am broblem neu ddiffyg ar y draffordd, gallwch gysylltu â'r asiantaeth drwy ffonio 0300 1231213 neu adrodd amdano ar-lein drwy ddefnyddio eu map rhwydwaith (Yn agor ffenestr newydd).

Ffordd Fabian

Weithiau, bydd pobl yn rhoi gwybod i ni am broblemau ar Ffordd Fabian sydd y tu allan i'n sir ni. Rydym yn gallu mynd i'r afael â phroblemau os ydynt yn Abertawe yn unig. Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n gyfrifol am Ffordd Fabian o gyffordd 43 yr M4 i bwynt ychydig heibio Campws y Bae Prifysgol Abertawe. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ben dwyreiniol Ffordd Fabian ar wefan Castellnedd Port Talbot (Yn agor ffenestr newydd).

Gwaith ffordd a ffyrdd sydd ar gau yng Nghastell-nedd Port Talbot (Yn agor ffenestr newydd)

Adrodd am dwll yn y ffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

Ble arall gallaf ddod o hyd i wybodaeth am waith ffordd neu broblemau traffig?

Siroedd cyfagos

Mae Abertawe yn ffinio â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Gâr.

Gwaith ffordd a ffyrdd sydd ar gau yng Nghastell-nedd Port Talbot (Yn agor ffenestr newydd)

Gwaith ffordd a ffyrdd sydd ar gau yn Sir Gâr (Yn agor ffenestr newydd)

Gwaith ffordd a phroblemau traffig ledled y DU

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am ffyrdd ar draws y wlad, mae nifer o wefannau a allai helpu.

Mae Live roadworks (Yn agor ffenestr newydd) yn dangos gwaith ffordd gan lawer o awdurdodau lleol a chwmnïau cyfleustodau.

Mae Traffig Cymru (Yn agor ffenestr newydd) yn darparu gwybodaeth am draffig a gwaith ffordd ar draffyrdd a chefnffyrdd eraill. Maent hefyd yn dangos camerâu traffig ar lawer o'r ffyrdd hyn.

Ceir gwybodaeth am draffig ar gyfer gweddill y DU gan:

Mae nifer o wefannau sy'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am draffig a chynllunio llwybrau. Mae'r rhain yn cynnwys the AA (Yn agor ffenestr newydd) a RAC (Yn agor ffenestr newydd).

Gorsafoedd radio lleol

Mae nifer o orsafoedd radio sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am draffig yn ardal Abertawe.

Gorsafoedd radio lleol
Goraf radioAmledd
The Wave 96.496.4 FM and DAB
Swansea Bay Radio102.1 FM and DAB
Swansea Sound1170 MW and DAB
BBC Radio Wales93.9 FM and DAB
BBC Radio Cymru104.2 FM and DAB
Heart Wales106 FM and DAB
Nation Radio107.3 FM and DAB
Dragon RadioDAB

 

 

Close Dewis iaith