Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am drin canclwm Japan

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein gwasanaeth i drin canclwm Japan.

Beth os yw fy nhŷ/busnes yn brydlesol?
Nid oes gwahaniaeth os yw eich tŷ/busnes yn rhydd-ddaliadol neu'n brydlesol.

Beth os rwyf yn denant?
Dylech wirio'ch cytundeb tenantiaeth i weld pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r tir/gerddi a phwy fydd yn gorfod talu am gostau'r gwaith. Os mai chi sy'n gyfrifol am hyn, rydym yn eich cynghori i roi gwybod i'ch landlord am y gwaith.

Beth os ydw i'n byw mewn tŷ cyngor ac mae canclwm yn yr ardd?
Mae angen i chi adrodd am y canclwm i'ch swyddog tai.

Beth os yw'r canclwm yn tyfu y tu allan i'm tir i ond nid wyf am iddo ledaenu i'm tir i?
Os yw'r canclwm ar dir preifat yna mae'n fater preifat. Os yw'r canclwm yn tyfu ar dir y cyngor yna dylech roi gwybod amdano i'r tîm natur.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r canclwm gael ei chwistrellu?
Dylai'r canclwm ddechrau gwywo 14 o ddyddiau ar ôl ei drin. Mae arwyddion yn cynnwys dail brown a llipa.

A fydd fy mhlant/anifeiliaid anwes yn gallu chwarae yn yr ardd o hyd?
Byddem yn argymell cadw anifeiliaid a phlant oddi wrth yr ardal a driniwyd am 24 awr. Fodd bynnag, ar ôl i'r cemegyn sychu ar y planhigyn pennir ei fod yn ddiogel (fel arfer ni ellir ei olchi gan law ar ôl 1 awr, yn ôl argymhellion y gwneuthurwr).

A oes unrhyw beryglon iechyd gyda'r driniaeth?
Ni chaiff y cynnyrch rydym yn ei ddefnyddio ei ystyried yn beryglus.

Beth os yw'r ardal y mae angen triniaeth arni ger fy mhwll? 
Mae'r cynnyrch rydym yn ei ddefnyddio'n ddiogel i'w ddefnyddio ger dyfrffyrdd. Byddwn hefyd yn eich cynghori ar y safle pe bai angen.

Beth sy'n digwydd os na fydd unrhyw beth yn digwydd i'r canclwm ar ôl ei chwistrellu?
Byddwn yn ymchwilio, yn gwirio ac yn ei drin eto os bydd angen.

Pa mor aml y bydd yn rhaid ei chwistrellu er mwyn i'r driniaeth fod yn effeithiol? 
Mae hyn yn dibynnu ar bob safle unigol. Darperir o leiaf un driniaeth a hyd at raglen driniaeth 5 mlynedd. Ni fydd chwistrellu'r canclwm unwaith yn cael gwared arno, ond dyma'r cam cyntaf i'w reoli. Bydd ei drin yn flynyddol am sawl blwyddyn yn helpu i'w reoli yn y tymor hir a/neu'n cyrraedd cam lle gallwch barhau â'r driniaeth eich hun.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi cael eu hateb eto, cysylltwch â'r tîm parciau.

Close Dewis iaith