Cwestiynau cyffredin am dai (Rhyddid Gwybodaeth)
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am dai (Rhyddid Gwybodaeth).
Digartrefedd
Faint o bobl yn yr awdurdod lleol sy'n cael eu hystyried i fod yn ddigartref?
Cyhoeddir y data ar wefan StatsCymru: Digartrefedd (Stats Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Costau llety dros dro
Cost net (gan gynnwys Gwely a Brecwast a phob llety dros dro arall)
2022/23 - £125,026
2021/22 - £591,036
2020/21 - £360,693
2019/20 - £311,365
2018/19 - £128,360
Rhestr aros am dai
Nid ydym fel arfer yn nodi nifer y bobl sy'n aros am dai gan ei fod yn newid yn ddyddiol. Gallwn gynnig ciplun cyfredol o'r rhestrau aros ar un adeg yn unig.
Cyfanswm yn mis Mawrth 2023 - 7,286:
- ymgeiswyr - 5,607
- tenantiaid sy'n aros i gael eu trosglwyddo i dŷ cyngor arall - 1,679
Cyfanswm yn mis Mawrth 2022 - 6,246:
- ymgeiswyr - 4,646
- tenantiaid sy'n aros i gael eu trosglwyddo i dŷ cyngor arall - 1,600
Cyfanswm ym mis Gorffennaf 2021 - 5,491
- ymgeiswyr - 3,970
- tenantiaid sy'n aros i gael eu trosglwyddo i dŷ cyngor arall - 1,521
Stoc tai'r cyngor
13,712 (Mai 2023)
13,637 (Mai 2022)