Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am daliadau tai dewisol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am daliadau tai dewisol (TTD).

Sawl cais a wnaed i'r cyngor a faint oedd yn aflwyddiannus?

Ceisiadau am TTD
 Cyfanswm nifer y ceisiadau am TTDNifer y ceisiadau aflwyddiannus
2024/252,149789
2023/242,501836
2022/232,336775
2021/222,033591
2020/211,862552

Ar gyfartaledd, pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu cais am TTD, o dderbyn y cais i roi'r penderfyniad terfynol i'r ymgeisydd?

O leiaf 12 wythnos gan ddibynnu ar yr wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'r cais.

Ydych chi'n cynnwys Lwfans Byw i'r Anabl rhywun fel rhan o'i incwm aelwyd? 

Nac ydym

Pa ffigur y mae'r llywodraeth wedi'i roi ar gyfer eich cronfa TTD ym mhob blwyddyn ariannol?

2025/26 - £395,685.00 gan Lywodraeth y DU
2024/25 - £395,685.00 gan Lywodraeth y DU (darparwyd cyllid ychwanegol o £266,693 o rywle arall yn y cyngor)
2023/24 - £395,685.00 gan Lywodraeth y DU (darparwyd £410,062 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)
2022/23 - £395,685.00 gan Lywodraeth y DU (darparwyd £436,128 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)
2021/22 - £558,279.00 gan Lywodraeth y DU (darparwyd £198,518 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)

A wnaethoch chi wario mwy na dyraniad TTD y llywodraeth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? A wnaeth eich cyngor ychwanegu at ddyraniad y llywodraeth?

Do, gwariwyd mwy na'r gronfa. Darparwyd y gwariant ychwanegol o £266,693 gan y cyngor.

Beth yw'r cyfnod byrraf rydych wedi dyrannu TTD ar ei gyfer?

Diwrnod ar gyfer costau symud celfi. Gallai budd-dal ar gyfer 2 gartref cyn preswylio hefyd fod yn ddiwrnod.

Ydych chi'n cyfyngu ar nifer y dyraniadau TTD y gall ymgeisydd eu derbyn?

Ni chaiff unrhyw gyfyngiadau eu gwneud.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mai 2025