Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am Dreth y Cyngor

Cwestiynau cyffredin am Dreth y Cyngor.

Nid wyf yn gwybod fy rhif Treth y Cyngor/nid wyf yn gallu dod o hyd i fy rhif Treth y Cyngor

Llenwch y ffurflen gais am gopi o'ch bil Treth y Cyngor ac anfonwn gopi atoch yn eich cyfeiriad. Bydd eich rhif Treth y Cyngor ar eich bil.

Rwyf newydd ddod i Abertawe. Sut gallaf gofrestru i dalu Treth y Cyngor?

Llenwch y ffurflen cofrestru newid cyfeiriad/adrodd am newid cyfeiriad gyda'ch manylion a byddwn yn anfon bil atoch.

Rwy'n symud i ffwrdd o Abertawe. Sut gallaf roi gwybod i chi? 

Llenwch y ffurflen adrodd am newidiadau eraill i'ch amgylchiadau.

Mae fy eiddo yn wag ar hyn o bryd oherwydd gwaith adnewyddu mawr. 

Os yw'ch eiddo ar ein rhestr o eithriadau eiddo, cysylltwch i roi gwybod i ni. Fel arfer cyfyngir yr eithriadau hyn i 6 mis.

Mae fy nhŷ ar y farchnad ac yn wag wrth i mi aros i'w werthu. A oes rhaid i mi barhau i dalu Treth y Cyngor? 

Os yw'r eiddo heb ddodrefn, yna fe'i heithrir rhag treth y cyngor. Cysylltwch i roi gwybod i ni. Fel arfer cyfyngir yr eithriadau hyn i 6 mis.

Ar hyn o bryd rwy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ond rwyf am newid fy manylion.

Dilynwch y cyfarwyddiadau i greu Debyd Uniongyrchol a byddwn yn diweddaru'ch manylion.

Rhyddfreinwyr ar y Tir (neu hawliau tebyg)

Gwybodaeth am pam nad yw hawliau 'Rhyddfreinwyr ar y Tir' yn cael unrhyw effaith ar atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor.
Close Dewis iaith