Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Cwmdoncyn

Parc hardd yng nghanol y ddinas yw Parc Cwmdoncyn. Gwnaed gwaith adnewyddu sylweddol yn y parc yn ddiweddar, drwy raglen a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a Dinas a Sir Abertawe.

Gyda'r cymysgedd perffaith o harddwch naturiol a chyfleusterau ardderchog, mae'n werth ymweld â'r lleoliad hwn. Cynhelir rhaglen ddigwyddiadau boblogaidd yn y parc drwy gydol y flwyddyn hefyd, mewn partneriaeth â Chyfeillion Parc Cwmdoncyn.

Nodweddion nodedig

Parc hardd gyda nodweddion unigryw ac amrywiaeth o gyfeiriadau at Dylan Thomas, gan gynnwys carreg goffa â dyfyniadau o "Fern Hill" arni.

Cyfleusterau

  • Lawnt fowls
  • Ardal chwarae i blant 
  • 4 cwrt tenis 
  • Llwybrau cerdded
  • Coetir
  • Ystafell de
  • Toiledau Cyhoeddus (RADAR)

Hygyrchedd

Gât 1: Heol y Parc, yn hygyrch i bawb.
Gât 2: Y llwybr cregyn cocos â llethr 40 gradd; mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd. 
Gât 3: Pen uchaf Cilgant Pen-lan. Ceir llethr 40 gradd yma ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 4: Pen isaf Cilgant Pen-lan. Ceir llethr 45 gradd yma ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 5: Clevedon Court. Ceir ramp 10 gradd yma ac mae'n hygyrch i bawb.
Gât 6: Y Gelli. Ceir gris yma sy'n arwain at lethr 35 gradd ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau

Wrth adael canol y ddinas ar Heol Walter, trowch i'r dde i Heol Glanmor, Uplands. Cymerwch y troad cyntaf ar y dde i Park Drive.

Côd post - SA2 0RA

Close Dewis iaith