Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwnsela i blant a phobl ifanc yn Abertawe

Mae plant a phobl ifanc rhwng 5 a 25 oed sy'n byw yn Abertawe'n cael eu cefnogi'n dda a gwasanaethau cwnsela a therapi.

Darperir y gwasanaethau hyn gan Y Gyfnewidfa (Yn agor ffenestr newydd) ac maent ar gael i ysgolion ledled y sir ac yng nghanol dinas Abertawe. Y prif ddiben yw datblygu gwydnwch seicolegol ac emosiynol yn y cleientiaid ifanc.

Mae gan bob ysgol uwchradd wasanaeth sefydlog yn yr ysgol y gall unrhyw berson ifanc ei ddefnyddio'n uniongyrchol, a gall staff ysgol a rhieni wneud atgyfeiriadau i'r gwasanaeth hefyd. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio'r ffurflen atgyfeirio neu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'galw heibio' ar gyfer yr ysgol honno. Mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol ond hefyd yn sicrhau bod y person ifanc yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda'r ysgol i gyflawni'r ddau ganlyniad.

Cyflwynir y gwasnaeth Ysgolion Cynradd mewn parteriaeth a Theuluoedd yn Gyntaf a daw atgyfeiriadau drwy'r pennaeth a chant eu gwneud ar-lein hefyd. Mae'r gwasanaeth ar gyfer plant oed cynradd yn ymgynghori a'r teulu fel rhan o'r ymyriad ac yn ei gynnwys. Mae teuluoedd yn darparu caniatad ysgrifenedig ar gyfer y gefnogaeth i'w plentyn ac rydym yn awyddus iddynt fod yn rhan o'r genogaeth barhaus y mae ei hangen ar eu plentyn.

Gall unrhyw berson ifanc ddewis cael cwnsela yn ein swyddfa yn Abertawe a dyma lle gwelir y grwp 18 i 25 oed, yn ogystal a'r rheiny sy'n 16+ oed sydd wedi gadael yr ysgol. I gysylltu a'r gwasanaeth, gall pobl ffonio 01792 346323 neu fynd i'n gwefan yn: Y Gyfnewidfa (Yn agor ffenestr newydd) lle cewch gyfleuster sgwrsio byw i ateb cwestiynau am y gwasanaeth.

Close Dewis iaith