Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod i wybod am gyfleoedd contract

Er mwyn gweld cyfleoedd contract cyfredol ac ymateb i gyfleoedd tendro a gyhoeddir gan y cyngor bydd angen i chi gofrestru eich sefydliad ar GwerthwchiGymru ac eDendroCymru.

Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim i'ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth am gontractau a chyfleoedd gyda'r cyngor a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio GwerthwchiGymru i:

  • chwilio am gyfleoedd contract cyfredol.
  • derbyn rhybuddion am gyfleoedd newydd a cheisiadau am ddyfynbrisiau (RFQ).
  • cysylltu â phyrth caffael eraill i gynnal eich tendrau (gweler eDendroCymru isod).
  • gweld hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) a chyfleoedd yn y dyfodol. 
  • dod o hyd i wybodaeth gyswllt a phroffiliau cyrff cyhoeddus eraill.

Yn ystod y cofrestriad bydd gofyn i chi ddewis categorïau. Mae'n hanfodol eich bod yn dewis y categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu er mwyn derbyn rhybuddion perthnasol.

Defnyddir eDendroCymru gan y cyngor ar gyfer cyflwyno pob tendr electronig. System dendro electronig yw hon sy'n galluogi cyflenwyr sydd wedi'u cofrestru ar y safle i lawrlwytho dogfennaeth dendro a chyflwyno ymatebion tendro. Bydd angen eich bod wedi'ch cofrestru os ydych yn dymuno cael a lawrlwytho tendr sydd wedi'i hysbysebu.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gofrestru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y safle, cysylltwch â desg gymorth Bravo Solutions: 0800 368 4850 neu anfonwch e-bost i help@bravosolution.co.uk. Fel arall, cysylltwch â Busnes Cymru (Yn agor ffenestr newydd) i gael cymorth a chefnogaeth rhad ac am ddim (a ariennir gan Lywodraeth Cymru). 

Sylwer na chodir tâl am gofrestru ar y naill wefan na'r llall.

Cyfleoedd tendro presennol

Cyfleoedd tendro ar gyfer busnesau Abertawe.
Close Dewis iaith