
Gwerthu i'r cyngor: canllaw i gyflenwyr
Prif ddiben y ddogfen hon yw darparu cyngor a gwybodaeth am brosesau caffael y cyngor i gyflenwyr presennol a phosib, a helpu cyflenwyr i gynyddu eu cyfleoedd o gyflwyno cais am gyfleoedd tendro'r cyngor ac i ddod i wybod amdanynt.
Lluniwyd y canllaw hwn i helpu cyflenwyr a chontractwyr sy'n dymuno cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i Gyngor Abertawe, a bydd yn gwneud y canlynol:
- helpu cyflenwyr i ddeall sut mae'r cyngor yn caffael nwyddau a gwasanaethau.
- nodi'r mathau o nwyddau a gwasanaethau i'w caffael.
- nodi lle rydym yn hysbysebu ac yn gosod hysbysiadau.
- amlinellu'r prosesau y mae'n rhaid i'r cyngor eu dilyn wrth brynu nwyddau a gwasanaethau h.y. dyfynbrisiau, gweithdrefnau tendro a dyfarnu contractau.
Gan fod y cyngor yn prynu nwyddau a gwasanaethau ag arian cyhoeddus, mae gofyniad llym i sicrhau'r gwerth gorau, ar yr un pryd â sicrhau didwylledd a thegwch ymhlith cyflenwyr sy'n dymuno gwerthu i ni.
I gyflawni'r gofynion hyn, rhaid i bob contract a ddyfernir gydymffurfio â'r rheolau a nodir yng nghyfansoddiad y cyngor (a elwir yn ffurfiol yn Rheolau Gweithdrefnau'r Contract) yn ogystal â chyfarwyddebau caffael cyhoeddus yr UE (e.e. Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015).
Mae'r cyngor yn gwario dros £250 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar ystod amrywiol o nwyddau, gwaith a gwasanaethau gan sefydliadau allanol. Mae'r Cyngor wedi dilyn ymagwedd Rheoli Categori wrth drefnu ei wariant, sef dull caffael strategol drwy grwpio cynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig gyda'i gilydd a threfnu adnoddau'r tîm caffael i ganolbwyntio ar wariant sefydliadau mewn categorïau penodol.
Bydd angen i gontract sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru gydymffurfio â thelerau Cynllun Iaith Gymraeg y cyngor. Os bydd angen, caiff y gofynion o ran y Gymraeg eu nodi'n glir mewn hysbysiadau contract a dogfennau'r tendr neu'r dyfynbris.
Pam gwneud busnes gyda Chyngor Abertawe?
Mae'r cyngor yn gwario dros £250 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar ystod amrywiol o nwyddau, gwaith a gwasanaethau gan sefydliadau allanol.
Dod i wybod am gyfleoedd contract
Er mwyn gweld cyfleoedd contract cyfredol ac ymateb i gyfleoedd tendro a gyhoeddir gan y cyngor bydd angen i chi gofrestru eich sefydliad ar GwerthwchiGymru ac eDendroCymru
Ydy'r Cyngor yn defnyddio Cytundebau Fframwaith?
Pan fo'n briodol, ar gyfer nwyddau a gwasanaethau penodol gall y cyngor weithredu cytundebau fframwaith gyda nifer o gyflenwyr lle gall y cyngor 'ddiddymu' y nwyddau a'r gwasanaethau hynny ar gostau y cytunwyd arnynt, ar yr adeg briodol.
Tendro ar gyfer contract
Y camau canlynol yw'r rhai cyffredinol a ddilynir gan y Cyngor i ddethol a phenodi cyflenwr.
Rheoli contractau
Caiff cyflenwyr eu monitro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â meini prawf perfformiad y contract.
Cyngor ar dendro
Awgrymiadau i'ch helpu os ydych yn tendro am gontract gyda Chyngor Abertawe.