Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyflogi rhywun fel cynorthwy-ydd personol gofal cymdeithasol

Gwybodaeth ac adnoddau i'r rhai sy'n cyflogi cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol.

Mae'r Cyngor Gofal wedi llunio pecyn cymorth ar-lein i gyflogwyr taliadau uniogyrchol a'u cynorthwywyr personol (Yn agor ffenestr newydd). Caiff y pecyn cymorth ei ddatblygu a'i lywio gan grŵp a oedd yn cynnwys sefydliadau sy'n cefnogi cyflogwyr a chynorthwywyr personol, awdurdodau lleol a chyflogwyr taliadau uniongyrchol.

Mae'r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac arweiniad, syniadau ac enghreifftiau o arfer da a fydd yn helpu derbynwyr taliadau uniongyrchol sy'n gyflogwyr i gefnogi eu cynorthwywyr personol i fagu'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i fod yn hyderus ac yn gymwys yn eu rolau. Gall helpu gyda'ch rôl fel cyflogwr, o ystyried y sgiliau, yr wybodaeth a'r agweddau y gallwch chwilio amdanynt pan fyddwch yn cyflogi cynorthwywyr personol, i ffyrdd gwahanol o fynd i'r afael â'u dysgu a'u datblygu.

Tîm Taliadau Uniongyrchol

Gall Tîm Taliadau Uniongyrchol y Cyngor yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ddefnyddwyr Taliadau Uniongyrchol sydd ag angen i recriwtio cynorthwy-ydd personol.

Cysylltwch â'r Tîm Taliadau Uniongyrchol Tîm Taliadau Uniongyrchol

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Mae gan Compass Independent Living ein darparwr cymorth cyflogres gontract, ar eu gwefan.

Hefyd mae gan  Helpwr Arian gwybodaeth am gyflogi rhywun i roi cymorth gyda'ch gofal ar eu wefan.