Gofal Plant Dechrau'n Deg - Gwnewch gais
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg ledled Cymru. O ddydd Llun 24 Tachwedd 2025, bydd pob cyfeiriad yn Abertawe bellach yn gymwys i gofrestru ar gyfer cyllid Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg.
Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:
- Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
- Gofal plant am 2.4 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymor yr ysgol.
- Gallwch gyflwyno cais am ofal plant a ariennir hyd at 90 niwrnod cyn i'ch plentyn droi'n ddwy oed.
I gofrestru ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg bydd angen cyfrif Abertawe arnoch. I greu neu gael mynediad i'ch cyfrif Abertawe, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Cofrestru / ymgeisio ar-lein
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2025
