Plant a phobl ifanc - gwybodaeth am ofal plant i rieni / ofalwyr
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr.
Ehangu'r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o fis Medi 2022 ymlaen ei bod yn bwriadu ehangu'r rhaglen ar gyfer pob plentyn 2 oed yng Nghymru ar y cyd ag awdurdodau lleol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://llyw.cymru/ehangur-rhaglen-dechraun-deg-yng-nghymru
O ddydd Llun 24 Tachwedd 2025 bydd pob cyfeiriad yn Abertawe'n gymwys am 12.5 awr o ofal plant Dechrau'n Deg a ariennir am 39 wythnos yn ystod y tymor ysgol ar gyfer plant 2 i 3 oed. Gallwch wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg drwy'r ddolen ganlynol: Gofal Plant Dechrau'n Deg - Gwnewch gais
Rydym am i'r holl blant a phobl ifanc yn Abertawe gael dechrau teg mewn bywyd, bod yn iach, bod yn ddiogel yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach, cael eu haddygu, mwynhau bywyd, bod a llais a gwneud cyfraniad cadarnhaol at helpu i wella Abertawe.
