Cynnig gofal plant a ariennir gan y llywodraeth - Y Cynnig Gofal Plan i Gymru
Gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd.
Mae'r platfform digidol cenedlaethol newydd ar gael yn ddwyieithog, ac mae modd mynd ato drwy ddyfeisiau symudol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol, a bydd yn sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad, ble bynnag y maen nhw'n byw.
Bydd rhieni sy'n gymwys i ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais o hyn ymlaen drwy'r gwasanaeth newydd: https://www.llyw.cymru/cael-30-awr-o-ofal-plant-ar-gyfer-plant-3-4-oed
Ni fydd angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio'r Cynnig wneud unrhyw beth, ac fe fyddan nhw yn aros o fewn system eu hawdurdod lleol. Ond os ydyn nhw am gael arian drwy'r Cynnig ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol.
Beth fydd y cynnig?
Bydd rhieni sy'n 'gweithio neu sydd mewn' addysg neu hyfforddiant a chanddynt blant 3 a 4 oed ac sy'n byw yn Abertawe'n cael mynediad at ofal plant hyblyg a ariennir a fydd ar gael yn ystod y tymor. Bydd hefyd yn darparu 30 awr o ofal plant ar gyfer 9 wythnos o'r 13 wythnos o wyliau ysgol.
Pryd gallaf wneud cais am y cynnig?
Tymor ysgol Medi 2022 - Awst 2023 | |
---|---|
Tymor y gwanwyn | Tymor yr haf |
Mae pob plentyn y mae ei ben-blwydd yn dair oed cyn 9 Ionawr 2023 yn gymwys nawr. | Mae pob plentyn y mae ei ben-blwydd yn dair oed rhwng 9 Ionawr 2023 a 16 Ebrill 2023 yn gymwys o 17 Ebrill 202. |
Sut bydd derbyn y cynnig yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Ceir rhagor o wybodaeth yn: gov.wales/childcare offer.
Pa feini prawf cymhwysedd fydd angen i mi eu bodloni?
Bydd y cynnig gofal plant ar gael i rieni sy'n gweithio a rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Efallai bydd gennych hawl i dderbyn gofal plant ychwanegol os ydych yn byw yn Abertawe, mae eich plentyn o fewn yr ystod oedran ac rydych yn ennill ar gyfartaledd swm sydd gyfwerth ag o leiaf 16 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu'r cyflog byw cenedlaethol ond sy'n llai na £100,000 y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i glywed gan rieni a darparwyr er mwyn llywio'r cynnig gofal plant, a gallwch rannu'ch profiadau o ofal plant gyda Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddatblygu'r cynnig. Gall rhieni a darparwyr fynd i: gov.wales/childcare parenting.
Fel arall, gallwch e-bostio Llywodraeth Cymru'n uniongyrchol: talkchildcare@gov.wales
Neu ysgrifennwch i'r cyfeiriad canlynol: Tîm Cynnig Gofal Plant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, 2il Lawr y Gogledd, Caerdydd CF10 3NQ.