Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Costau Byw - teithio a chludiant

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer teithio ar fysus a threnau. Rydym hefyd yn cynnig teithiau am ddim ar fysus i bawb yn ystod gwyliau'r ysgol.

Cardiau bws consesiynol

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer y canlynol:

  • pobl dros 60 oed
  • pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed
  • pobl anabl
  • pobl anabl y mae angen cydymaith arnynt er mwyn teithio
  • ffoaduriaid

Rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch sut i wneud cais: Cardiau bws consesiynol

Teithio ar fysus am ddim i bawb

Gall pawb deithio ar fysus am ddim ar amserau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol: Gwasanaeth bysus am ddim

Bysus First Cymru

Mae'n werth edrych ar ap bws First Cymru i gael tocynnau rhatach. Er enghraifft, yn lle talu £6 am docyn bws diwrnod, gallwch brynu 5 am £21, sef £4.20 y dydd, ni fyddant yn dod i ben am flwyddyn ac maent yn caniatáu i chi deithio ar draws ardal gyfan Bae Abertawe: https://www.firstbus.co.uk/south-west-wales/tickets/ticket-prices

Cardiau rheilffordd cenedlaethol

Os oes angen i chi deithio ar y trên mae'n werth gwirio a fydd unrhyw un o'r cardiau rheilffordd cenedlaethol yn addas ar eich cyfer ac os bydd y gostyngiad ar gost eich tocyn yn arbed mwy na'r £30 y flwyddyn i chi (neu £70 am dair blynedd), sef pris y cerdyn. Mae'r cardiau hyn ar gael i bobl 16-30 oed, pobl dros 60 oed, pobl anabl neu gyn-filwyr neu ar gyfer adegau pan fydd teuluoedd neu ddau deithiwr yn teithio gyda'i gilydd. Fel arfer gallwch arbed traean oddi ar bris eich tocyn: www.nationalrail.co.uk/times_fares/National-Railcards.aspx

Cerdyn Gostyngiadau Teithio - Canolfan Byd Gwaith

Os ydych chi'n ddi-waith neu'n ymwneud yn weithredol â'ch hyfforddwr gwaith ac yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, o leiaf 3 mis ar ôl i chi ddechrau hawlio gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am Gerdyn Gostyngiad Teithio'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n arbed 50% oddi ar bris tocynnau trên dethol: www.nationalrail.co.uk/times_fares/jobcentre-plus-card.aspx

Os oes angen help arnoch i fforddio'r gost o deithio i gyfweliad, hyfforddiant neu wrth ddechrau swydd, gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am gymorth disgresiynol gyda'r costau hyn o'r gronfa cymorth hyblyg.

Teithio i'r ysbyty

Teithio i'r ysbyty a chymorth arall gyda chostau iechyd: Cymorth gyda chostau iechyd (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Gwasanaeth bysus am ddim

Mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am wyliau'r haf. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.

Cardiau bws consesiynol

Cludiant am ddim ar wasanaethau bysus lleol yng Nghymru ar gyfer y rheini sy'n 60 oed neu'n hŷn a phobl ag anabledd cymwys.

Ffïoedd a chynigion parcio

Manylion ffïoedd a gostyngiadau yn ein meysydd parcio.

Beicio

Ewch ar eich beic gyda llwybrau beicio gwych yn Abertawe ar gyfer teithio a hamdden, rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybrau 4 a 43) a Lôn Geltaidd y Gorllewin.

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024