Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dysgu Gydol Oes - Cyrsiau ar gyfer dysgwyr presennol

Ar gael trwy atgyfeiriad y Tîm Dysgu Gydol Oes yn unig.

Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer cyfranogwyr Dysgu Gydol Oes presennol, ac maent ar gael drwy atgyfeiriad yn unig.

Gellir dod o hyd i'n cyrsiau Dysgu Gydol Oes prif ffrwd gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

Paentio dyfrlliw i ddechreuwyr [Dydd Iau, 4.00pm-6.00pm] - EN012458.AM

Alan Morgans. Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen i greu eich celfweithiau eich hun.

Paentio dyfrlliw ar gyfer gallu cymysg [Dydd Iau, 6.30pm-8.30pm] - EN012459.AM

Alan Morgans. Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen i greu eich celfweithiau eich hun.

Ysgrifennu creadigol [Dydd Gwener, 10.30am-12.30pm] - EN042469.CJ

Gyda Carolyn Jones. Archwilio'ch Llais Unigryw! Dewch i fwynhau ysgrifennu a rhannu'ch ysgrifennu o fewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol.

Cyflwyniad i ffeltio â nodwydd [Dydd Llun, 9.30am-12.00pm] - EN012493.RP

Gyda Rachel Evans. Bydd y rhaglen ddeng wythnos yn rhoi cyfle i ddysgwyr gael blas ar fyd ffeltio â nodwydd wrth ddatblygu sgiliau ar gyfer dyluniadau mwy cymhleth.

Cyflwyniad i Waith Coed [Dydd Mawrth, 1.00pm-4.00pm] - EM012457.RC

Gyda Rhys Clement. Bydd y cwrs yn cyflwyno dysgwyr sy'n ddechreuwyr i sgiliau gwaith coed sylfaenol.

Sbaeneg i ddechreuwyr [Dydd Mercher, 10.00am-12.00pm] - EN042480.CJ

Gyda Carolyn Jones. Dewch i ddechrau ar eich taith i ddysgu'r iaith hyfryd hon mewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o Sbaeneg - byddwn yn dechrau o'r dechrau cyntaf.
Close Dewis iaith