Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Botaneg Singleton

Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.

Gwelyau’r Ardd Fotaneg (gan grŵp Cyfeillion Gardd Fotaneg Abertawe).

Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae'r borderi blodau'n olygfa hyfryd o ddiwedd mis Mawrth tan ganol fis Hydref, a hyd yn oed yn ystod misoedd garw y gaeaf mae gan yr ardd lawer i'w chynnig, gyda hyd at 200 o blanhigion gwahanol yn eu blodau yn ystod tymor y Nadolig.

Am fod yr ardd hon wedi'i lleoli o fewn awyrgylch llonydd prif Parc Singleton, mae'n lle hamddenol i ddod i edrych neu i ennyn ysbrydoliaeth am eich gardd eich hun. Mae digon o lefydd i eistedd ac edmygu'r golygfeydd braf.

Nodweddion diddorol

  • Borderi blodau
  • Gwelyau buddugoliaeth
  • Gardd greigiau
  • Gerddi addurnol
  • Pont Japaneaidd
  • Tai Gwydr
  • Gardd berlysiau
  • Planhigion ar werth
  • Gardd blodau gwyllt/les

  
  

Oriau agor

(gan gynnwys gwyliau banc)

Ionawr - Chwefror: 10.00am - 3.30pm
Mawrth - Ebrill: 10.00am - 4.30pm
Mai - Medi: 10.00am - 6.00pm
Hydref: 10.00am - 4.30pm
Tachwedd - Rhagfyr: 10.00am - 3.30pm

Mae'r mynediad i Erddi Botaneg Singleton am ddim.

Dim cŵn ac eithrio cŵn cymorth.

Mae grŵp Cyfeillion Gerddi Botaneg Abertawe yn cefnogi'r gerddi botaneg ac yn codi arian drwy'r siop blanhigion yn y gerddi (ar agor 10.00am - 2.00pm bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn, o fis Ebrill i fis Medi). Darganfyddwch ragor ar eu gwefan: Cyfeillion Gerddi Botaneg Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Gellir parcio yn Heol Sgeti (A4118) y tu allan i'r parc, neu gall deiliaid y Bathodyn Glas barcio y tu allan i brif fynedfa'r Gerddi Botaneg.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Awst 2024