Datblygiadau tai cyngor newydd
I gynyddu'r stoc tai a helpu i ateb y galw rydym yn adeiladu tai cyngor newydd, yn ogystal ag addasu rhai presennol, ac yn prynu eiddo a werthwyd yn flaenorol yn ôl.
Datblygiadau cyfredol a pharhaus
Creswell Road a hen Swyddfa Dai Ranbarthol y Clâs
Mae'r swyddfeydd bellach wedi'u dymchwel. Mae arolygon tir wedi'u cwblhau ac mae opsiynau dylunio, sy'n cynnwys nifer o syniadau, yn cael eu datblygu.
Heol Dynys, Ravenhill
Nodwyd y safle hwn ar gyfer datblygiad posib o oddeutu 22 eiddo, sy'n cynnwys tai a byngalos 1-, 2- a 3- ystafell wely. Gwnaed gwaith ar y tir i'w baratoi, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyn cynllunio cyn i'r cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno.
(cliciwch ar y lluniau i weld fersiynau mwy)
Tŷ Brondeg, Trefansel
Mae hen adeilad addysg wedi cael ei ddymchwel er mwyn paratoi ar gyfer creu datblygiad newydd o ddeutu 14 eiddo. Mae arolygon yn mynd rhagddynt er mwyn llywio'r cynllun cyn cyflwyno cais cynllunio.
Brokesby Road, Bôn-y-maen
Rydym yn gweithio gydag ymgynghorwyr dylunio pensaernïol (BDP) i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ein pedwar safle yn Brokesby Road, Bôn-y-maen. Bydd hyn yn darparu oddeutu 160 o eiddo newydd. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori cyhoeddus ym mis Ionawr 2023, a roddodd gyfle i breswylwyr gyflwyno sylwadau am y cynlluniau drafft. Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno.
Prosiectau ôl-osod
Yn ddiweddar, cwblhaom ein cynllun ôl-osod cyntaf yng Nghraig-cefn-parc, mewn partneriaeth ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae'r cynllun ôl-osod - sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru - yn cynnwys 6 byngalo sydd wedi derbyn gwaith i inswleiddio'r waliau allanol, gwaith rendro newydd a gwaith i osod ffenestri a drysau ynni effeithlon newydd. Rhoddwyd technolegau adnewyddadwy ar waith ym mhob eiddo, gan gynnwys pympiau gwres o'r ddaear, toeon integredig â phaneli solar, storfeydd batri Tesla ac unedau adfer gwres drwy awyru mecanyddol (MVHR.
Mae hyn wedi trawsnewid y byngalos yn rhai o'r cartrefi mwyaf ynni effeithlon yng Nghymru, gan wella gwres a chysur y byngalos yn sylweddol. Caiff y galw am ynni ei leihau'n sylweddol gan felly leihau biliau ynni'r preswylwyr.
Ym mis Awst 2020 aeth Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i ymweld â Chraig-cefn-parc i lansio cynllun gwerth £9.5 miliwn i wella tai ar draws Cymru yn ffurfiol, sef y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) sy'n ffurfio rhan o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Datblygiadau wedi'u cwblhau
Swyddfeydd tai Pen-lan ac Eastside
Cwblhawyd gwaith i newid dwy swyddfa dai flaenorol yn gartrefi newydd ym mis Tachwedd 2023.
Mae cynllun Pen-lan wedi darparu pump fflat â dwy ystafell wely ac un fflat ag un ystafell wely a fydd yn cael eu defnyddio fel llety dros dro.
Mae cynllun Eastside wedi darparu pedair fflat ag un ystafell wely dros ddau lawr.
Mae'r holl fflatiau'n cynnwys nodweddion modern gyda cheginau, ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd byw eang.
Alexandra Road, Gorseinon
Ym mis Mai 2023 cwblhawyd y gwaith o addasu hen ganolfan seibiant yn ddau gartref pâr â 3 ystafell wely.
Mae'r ddau gartref newydd wedi elwa o geginau newydd, ystafelloedd ymolchi newydd, ffenestri uPVC ynni effeithlon, offer gwresogi a gerddi wedi'u tirlunio'n hyfryd, yn ogystal â sied yn yr ardd.
Cherry Blossom Close, West Cross
Cwblhawyd datblygiad Y Cylch yn West Cross ym mis Mawrth 2023.
Mae'r cartrefi newydd yn cynnwys 6 byngalo pâr. Mae'r cartrefi newydd yn elwa o dechnoleg arbed ynni gan gynnwys storfeydd batris, gwres o'r ddaear, ceudodau mwy mewn waliau a thoeon â phaneli solar. Adeiladwyd y cartrefi gan dîm Gwasanaethau Adeiladau'r cyngor, gyda help gan dîm o brentisiaid, a ddatblygodd sgiliau newydd wrth weithio gyda dulliau adeiladu sy'n ymwneud ag ynni modern.
Mae rhan o'r datblygiad yn West Cross hefyd yn cynnwys creu wal derfyn fawr sy'n amgylchynu'r chwe eiddo. Crëwyd y wal drwy ddefnyddio cerrig a gloddiwyd o gynllun adeiladu tai cynharach yn y Clâs.
Hillview, y Clâs
Cwblhawyd y gwaith o adeiladu 25 cartref ynni effeithlon â thair ystafell wely ym mis Mawrth 2022.
Mae'r tai yn cynnwys technoleg adnewyddadwy felly mae gan bob un ohonynt do solar, storfa batri Tesla, pympiau gwres o'r ddaear a systemau adfer gwres drwy awyru mecanyddol.
Mae'r datblygiad newydd gyferbyn ag ysgol Gymraeg newydd ac mae hefyd ardal chwarae wedi'i hailwampio gerllaw.
Tŷ Bryn a'r Podiau PassivHaus Preswyl, Uplands
Yn ogystal â phrosiectau i godi tai newydd, cwblhawyd gwaith ym mis Mawrth 2022 i ddatblygu hen Ganolfan Addysg Gymunedol Tŷ Bryn yn Uplands i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd.
Mae'r adeilad bellach yn darparu pedair fflat ag un ystafell wely. Hefyd, rydym wedi prynu podiau PassivHaus, y cyntaf o'u math yn Abertawe. Mae'r podiau'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol ag un ystafell wely. Daethpwyd â nhw i'r safle ar graen a'u gosod yn eu lle yn barod i bobl fyw ynddynt. Mae'r podiau wedi'u hadeiladu i safon Passivhaus gyda'r galw lleiaf posib ar ynni er mwyn helpu i gadw costau ynni'n isel. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y cynllun fel rhan o'i gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai a digartrefedd.
Acacia Road, West Cross
Cwblhawyd y gwaith o adnewyddu hen adeilad Gwasanaethau Cymdeithasol ar Acacia Road, West Cross ym mis Rhagfyr 2022. Crëwyd dau gartref mawr newydd i deuluoedd; y mae un ohonynt yn eiddo sydd wedi'i addasu'n llwyr.
Tŷ Forest
Roedd Tŷ Forest yn rhan o deras o eiddo cyngor yn Rhodfa'r Brain yn Ravenhill, ac fe'i newidiwyd yn 3 thŷ sy'n addas i deuluoedd ym mis Awst 2022.
Colliers Way 1, Pen-lan
Adeiladwyd cynllun adeiladu newydd Colliers Way, sy'n cynnwys 18 o gartrefi, gan ein contractwr mewnol mewn ardal o angen tai uchel, gan hyrwyddo dysgu a gwella sgiliau'r gweithlu. Llwyddodd y prosiect i dderbyn cyfraniad grant gan Gam 1 Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017.
Gweithiodd dros 38 o weithwyr y cyngor ar y prosiect, gan gynnwys 14 prentis, yn ogystal ag 20 o is-gontractwyr yn gweithio ar rai o elfennau arbenigol yr adeilad.
Roedd adeiladu cartrefi cyntaf y cyngor yn fewnol i safon Passivhaus yn gromlin ddysgu serth iawn i ni.Bu'n rhaid defnyddio adnoddau'n gyflym i gyflawni'r cynllun a oedd â'r nod o sicrhau effeithlonrwydd cost i denantiaid gyda gostyngiadau rhagamcanol yn y defnydd o ynni blynyddol.Agorodd y Prif Weinidog y safle yn 2018 a daeth i gwrdd â'r tenantiaid sydd wedi symud i mewn i'r cartrefi newydd.
Parc yr Helyg, Gellifedw
Cwblhawyd datblygiad Parc yr Helyg yng Ngellifedw ym mis Medi 2020.
Mae'r 16 o gartrefi newydd, sy'n cynnwys 12 fflat ag 1 ystafell wely a 4 tŷ â dwy ystafell wely wedi'u dylunio fel gorsafoedd pŵer bach, a chânt eu galw'n gartrefi fel gorsafoedd pŵer (HAPS). Maent yn cynnwys technolegau adnewyddadwy blaengar i helpu i ddefnyddio cyn lleied o ynni â phosib; gan sicrhau bod biliau ynni mor isel â phosib.
Bydd y technolegau adnewyddadwy'n gallu creu a storio ynni trwy ddefnyddio toeon solar a batris storio Tesla. Bydd y cartrefi HAPS hefyd yn defnyddio pympiau gwres o'r ddaear i helpu i leihau'r ynni sydd ei angen i wresogi dŵr, yn ogystal â systemau adfer gwres drwy awyru mecanyddol (MVHR) i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei awyru'n dda drwy ddarparu aer ffres o safon, gan helpu i leihau anwedd ac arogleuon amhleserus.
Colliers Way 2, Pen-lan
Cwblhawyd cam 2 datblygiad Colliers Way ym mis Ebrill 2021.
Mae'r safle'n cynnwys: 8 fflat un ystafell wely, 4 tŷ â dwy ystafell wely, 4 tŷ â thair ystafell wely a 2 dŷ â phedair ystafell wely. Fe'u datblygwyd fel rhan o'r Rhaglen Tai Arloesol a'u dylunio fel gorsafoedd pŵer bach ac fe'u gelwir yn Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS).
Cynllun prynu yn ôl
Fel rhan o'r ymdrech i gynyddu nifer y tai cymdeithasol yn Abertawe, mae gennym raglen gaffael i brynu hen dai cyngor, a chafodd eu gwerthu yn flaenorol dan y cynllun 'hawl i brynu', yn ôl. Dychwelwyd 125 o eiddo i'n stoc tai hyd yn hyn.
Mae'r cynllun prynu yn ôl yn parhau felly os ydych yn berchen ar hen dŷ cyngor ac mae gennych ddiddordeb yn ei werthu yn ôl i'r cyngor, cysylltwch â ni i gael trafodaeth ynghylch a fyddai eich eiddo'n addas ar gyfer y cynllun:
Y Tîm Rhagor o Gartrefi
- tai@abertawe.gov.uk
- 01792 635047