Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Datblygu cynaliadwy

Dysgwch pam a sut mae ein cyngor yn gweithio i roi ymagwedd datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.

Yn Abertawe, rydym am Abertawe ddiogelach, wyrddach, gallach, decach, iachach a chyfoethocach ( Cynllun gwella corfforaethol ).

Rydym hefyd yn gwybod nad yw 'busnes fel arfer' yn ddigon i gyflwyno'r Abertawe yr hoffem ei gweld yn yr adeg heriol hon. Mae datblygu cynaliadwy'n ffordd o weithio sy'n edrych ar y darlun mwy, gan gydbwyso costau a manteision, nawr ac yn y dyfodol.

Ystyr datblygu cynaliadwy yw manteisio i'r eithaf ar ein holl adnoddau heddiw wrth sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau ar gyfer yfory. Mae'n rhaid i ni edrych eto a gweld potensial llawn ein dinas a'n gwlad. Yna, mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â hen broblemau.

Trwy weithio gyda phobl leol fel y gallant helpu ei gilydd, gallwn helpu i adeiladu cymunedau cryfach.  Trwy ofalu am ein hamgylchoedd, rydym yn tyfu'n iachach a, thrwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud arian a lleihau gwastraff, byddwn yn gyfoethocach. 

Gwneud penderfyniadau am y tymor hir

Mae Cyngor Abertawe'n falch o arwain Cymru wrth ymdrin â heriau trwy gymryd ymagwedd datblygu cynaliadwy. Er mwyn gwella gwneud penderfyniadau trwy ystyried y tymor hir yn benodol, mae Cynllun 2040 wrthi'n cael ei ddatblygu ac mae pwyllgorau craffu'n gweithio i sefydlu datblygu cynaliadwy yn eu prosesau.

Polisi datblygiad cynaliadwy

Mae polisi datblygiad cynaliadwy corfforaethol y cyngor yn pennu canllawiau sy'n helpu gwasanaethau i gyflwyno canlyniadau cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.
Close Dewis iaith