Dewis ysgol ar gyfer eich plentyn
Gall penderfynu pa ysgol fydd yn iawn i'ch plentyn fod yn anodd iawn. Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae nifer o bethau i'w hystyried.
Weithiau gall dewis lleoliad ar gyfer eich plentyn neu'ch person ifanc fod yn un o'r pethau anoddaf y bydd angen i chi ei wneud. Yn ol y gyfraith mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg briodol y tymor wedi iddo droi'n bum mlwydd oed.
Bydd y rhan fwyaf o blant yn cael eu haddysg mewn lleoliad yn eu dalgylch lleol. Rhaid i bob lleoliad wneud addasiadau i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm.
Weithiau, efallai bydd angen i blant fynd i leoliad arbenigol. Penderfynir ar hyn mewn Panel Lleoliad a hysbysir gan bobl sy'n gweithio gyda'r plentyn. Bydd eich dymuniadau a'ch teimladau'n bwysig iawn fel rhan o sicrhau mai'r lleoliad yw'r un mwyaf addas ar gyfer eich plentyn.
Un o'r cwestiynau a ofynnir amlaf yw: 'Sut rwyf yn gwybod fy mod yn dewis y lleoliad iawn ar gyfer fy mhlentyn?'
Yr ateb yw na fyddwch yn ol pob tebyg yn gwybod nes i chi ddarganfod mwy a chael cip ar y lleoliad. Isod ceir nifer o bethau efallai yr hoffech feddwl amdanynt (neu ofyn amdanynt) pan fyddwch yn chwilio am ysgolion, i'ch helpu i benderfynu.
Fel arfer caiff y cwestiwn hwn ei ddilyn yn agos gan: 'Allwch chi argymell lleoliad?'
Rhaid i rieni wneud eu penderfyniadau eu hunain wrth ddewis ysgol er bod llawer o wybodaeth a chyngor y gall gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau partneriaeth rhieni eu cynnig.
Sut rwyf yn dewis lleoliad?
Additional Learning Needs and Inclusion Team
- Enw
- Additional Learning Needs and Inclusion Team
- E-bost
- ALNU@swansea.gov.uk