Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 27 Mawrth 2024

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

Gwasanaeth bysus am ddim - 23 Mawrth

Mae'r cynnig bysus am ddim poblogaidd iawn yn y ddinas yn dychwelyd am 9 niwrnod dros wyliau'r Pasg ac mae'n cynnwys y tri phenwythnos. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.

Mae ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Mae cynnig bws am ddim yn berthnasol:

  • Dydd Sadwrn 23 Mawrth
  • Dydd Sul 24 Mawrth
  • Dydd Llun 25 Mawrth
  • Dydd Gwener 29 Mawrth (Dydd Gwener y Groglith)
  • Dydd Sadwrn 30 Mawrth
  • Dydd Sul 31 Mawrth (Dydd Sul y Pasg)
  • Dydd Llun 1 Ebrill (Dydd Llun y Pasg) 
  • Dydd Sadwrn 6 Ebrill
  • Dydd Sul 7 Ebrill

Gallwn ni i gyd ei ddefnyddio. Os ydych yn teithio i weithio yn Abertawe neu i fwynhau diwrnod mas yng nghanol y ddinas ar un o'n traethau bendigedig, mae'r gwasanaeth am ddim. Does dim angen i chi ddangos prawf eich bod yn byw yn Abertawe i deithio am ddim.

Mae gwasanaethau bysus sy'n cael eu gweithredu gan First Cymru, Adventure Travel, South Wales Transport a DANSA wedi'u cynnwys.

Gwasanaeth bysus am ddim

Cyhoeddiad First Cymru:gwelliannau i'r rhwydwaith bysus yng Nghymru - 31 Mawrth

O ddydd Sul, 31 Mawrth 2024, bydd First Cymru yn cyflwyno technoleg tapio i mewn ac allan (TOTO) ar eu holl wasanaethau. Mae hyn yn caniatáu i gwsmeriaid dapio eu cerdyn banc neu ddyfais er mwyn talu ar ddarllenydd cardiau a thalu'r pris rhataf yn dibynnu ar nifer y teithiau y maent yn eu gwneud neu'r pellteroedd y maent yn eu teithio.
 
Hyd yn oed os yw cwsmeriaid yn gwneud teithiau lluosog dros sawl diwrnod, bydd y system yn cyfrifo'r ffordd rataf o deithio yn awtomatig ar yr amod bod yr un dull talu yn cael ei ddefnyddio.
 
Ar gyfer oedolion sy'n defnyddio TOTO, bydd cwsmeriaid yn talu yn dibynnu ar nifer y milltiroedd a deithir, gyda'r pris rhataf yn costio £1.60 i oedolyn a'r uchafswm yn costio dim mwy na thocyn unffordd safonol (£3) a thocyn dwyffordd (£5.40). Bydd teithiau lluosog mewn un diwrnod gan ddefnyddio TOTO yn cael eu capio ar y pris tocyn diwrnod newydd i oedolion, sef £6.
 
Bydd ailwampio prisiau tocynnau yn ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid wybod faint maen nhw'n ei dalu, waeth ble maen nhw'n teithio, a'r gobaith yw y bydd yn annog mwy o bobl i deithio ar fws yn ne a gorllewin Cymru.
 
Mae First Cymru yn gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn Abertawe yn yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, mae amserlenni newydd ar gael ar wefan First Cymru.

Eich gwaith cyfathrebu a Chod Cefn Gwlad Cymru: Gwahoddiad i weithdy, 17 Ebrill (14.00-15.30) - Microsoft Teams

Mae Cod Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn ganllaw i hamddena cyfrifol i bobl sy'n mwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a chefn gwlad ers cenedlaethau.

Gyda mwy ohonom nag erioed o'r blaen yn mwynhau'r awyr agored, mae pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar ein hamgylchedd.

O'r herwydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r Cod Cefn Gwlad gyda phawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden awyr agored yng Nghymru.

Mae Strategaeth y Cod Cefn Gwlad (2023) yn argymell dull mwy cydgysylltiedig o ddatblygu rhwydwaith o randdeiliaid â diddordeb yn yr awyr agored sy'n cynrychioli cymdeithas heddiw.

Hoffem eich gwahodd i weithdy sy'n canolbwyntio ar gyfathrebu a hyrwyddo i:

  • Ddysgu am ddatblygiadau diweddar wrth ddatblygu a hyrwyddo'r Cod
  • Archwilio sut y gellid cynnwys y Cod yn eich gwaith cyfathrebu
  • Cwrdd â rhanddeiliaid eraill yn y sector

Os oes rhywun arall yn eich sefydliad yn arbenigo mewn cyfathrebu, mae croeso i chi anfon y gwahoddiad hwn atynt. 

Cadarnhewch eich presenoldeb yn y gweithdy drwy e-bostio: Sophie.Leyshon@workingword.co.uk              

Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Lleoedd Cyngor Abertawe - gwella'ch eiddo busnes

Mae hyd at £30,000 o gymorth grant ar gael ar gyfer gwelliannau allanol i'ch eiddo busnes. Mae grantiau hefyd ar gael ar gyfer gwelliannau mewnol os yw'ch eiddo busnes yn wag. Ariennir y grant hwn gan Lywodraeth y DU a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Abertawe.

I gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys, e-bostiwch transformingcounty@abertawe.gov.uk

'Ei weld - rhowch wybod amdano': sticeri am ddim i fusnesau eu harddangos

Ydych chi wedi gweld rhywbeth nad yw'n taro deuddeg? Ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd neu ddigwyddiad? Gweithredwch nawr a chwaraewch eich rhan i gadw cymunedau'n ddiogel i bawb.

Anogir busnesau yn Abertawe i helpu eu cymdogaeth leol drwy adrodd am droseddau ac unrhyw ddigwyddiadau amheus neu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae sticeri 'Ei weld - rhowch wybod amdano' bellach ar gael i fusnesau eu harddangos yn eu mangreoedd.

Mae'r sticeri, sy'n rhai maint A4 ac sydd ar gael yn ddwyieithog, yn cynnwys codau QR a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer yr heddlu, StreetSafe, Cymorth i Ddioddefwyr a Phlismona Gwrthderfysgaeth.

Menter Abertawe Mwy Diogel yw hon.

Os hoffech dderbyn sticeri 'Ei weld - rhowch wybod amdano', e-bostiwch Paul.Evans3@abertawe.gov.uk neu cysylltwch â'ch Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol.

Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo'r Gymraeg a threftadaeth Cymru

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobl sy'n ymgartrefu yn ein cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am Gymru, yr iaith a'i phwysigrwydd i'r gymuned, rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg, a gweithio'n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a'i sefyllfa heddiw. Ar ôl cwblhau'r modiwlau ar wefan Llysgennad Cymru, mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif, bathodyn, sticer ffenest, a phecyn gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael fel gwasanaeth cyfieithu am ddim i gymunedau, unigolion a sefydliadau trydydd sector.

I ddysgu mwy am y cynllun a sut i ddod yn llysgennad, ewch i 'Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol: Llysgenhadon Cymru' (ambassador.wales)

Mae'r modiwlau Efydd yn cymryd tua 20 munud i'w cwblhau, a gall y llysgenhadon benderfynu beth fyddant yn ei wneud i gefnogi'r Gymraeg yn eu cymuned.

Busnes yn Abertawe'n mynd yn wyrdd gyda grant lleihau carbon

Mae busnes yng nghanol dinas Abertawe ar y ffordd i gael ei bweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy.

Mae naw deg chwech o baneli solar wedi'u gosod ar ben to Cwtsh Hostel ar Castle Street, gan helpu'r busnes i dorri ei ôl troed carbon ac arbed arian ar ei filiau ynni.

Ers i'r paneli ddechrau gweithredu ar ddiwedd mis Ionawr, maent eisoes wedi cynhyrchu  dros 1.2mw o drydan gwyrdd.

Mae Cwtsh Hostel hefyd wedi prynu batri uwch-dechnoleg i storio'r pŵer a gynhyrchir, gan olygu y gallant werthu ynni dros ben i'r grid ac ailfuddsoddi'r elw yn y busnes.

Helpodd Cyngor Abertawe i ariannu'r paneli solar a'r batri gyda grant lleihau carbon drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Roedd Banc Datblygu Cymru wedi cyfrannu cyllid i'r prosiect hefyd.

Yn ogystal â phodiau a llety preifat, mae Cwtsh Hostel yn cynnwys ardal gymunedol, cegin gymunedol, siop goffi fach, gemau a thaflunydd ar gyfer profiad ffilm sy'n debyg i fod mewn sinema.

Mae'r grant lleihau carbon, y bwriedir iddo helpu busnesau lleol i dorri eu hôl troed carbon ac arbed arian ar eu biliau ynni, ymysg nifer o gynlluniau cyllido sydd ar waith i gefnogi cymuned fusnes y ddinas.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau'r cynllun er mwyn cael y grant lleihau carbon.

Mae angen i'r holl ymgeiswyr gofrestru ar gyfer cwrs misol am ddim a gynhelir gan y cyngor, a fydd yn dangos i fusnesau sut i nodi mesurau i leihau eu hôl troed carbon a gwella'u heffeithlonrwydd ynni. Bydd y cwrs hefyd yn dangos i fusnesau sut i gynnal archwiliad ynni.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth.

Oes gan eich busnes uchelgais gyda'r economi gylchol a chynaladwyedd?

Rhaglen cymorth Arloesi Cylchol a gyflwynir gan Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe yw Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol (ARCS). Fe'i hariennir yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae ar gael tan fis Rhagfyr 2024.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod sut gall ARCS gefnogi'ch sefydliad i nodi cyfleoedd Economi Gylchol a'u rhoi ar waith, llenwch y ffurflen fer isod a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod cyflwyniadol.

Fel arall, e-bostiwch ARCS@Swansea.ac.uk

Llenwi'r ffurflen ymholi ARCS

Rhaglen Twf Glân y Gymuned Arloesedd

Yn ogystal â'r rhaglen Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol (ARCS) uchod, mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflwyno eu 'Rhaglen Twf Glân y Gymuned Arloesedd'.

Maent bellach yn chwilio am fusnesau neu sefydliadau trydydd parti sydd am edrych ar gynaliadwyedd, yn benodol drwy leihau carbon a thwf glân, i gymryd rhan yn y rhaglen.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Rheolwr Prosiect ar gyfer Cymunedau Arloesi Economi Gylchol, Jo Bishop, yn j.bishop@swansea.gov.uk

Gweminar Cyflogwyr CThEF: Beth sy'n newydd ar gyfer 2024 i 2025 - dewis o amrywiaeth o ddyddiadau

Ymunwch yn y weminar fyw hon i gael trosolwg o'r prif newidiadau a fydd yn effeithio ar sut rydych yn ymdrin â materion o ran cyflogeion a chyflogres, gan gynnwys y canlynol:

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 - cyfraddau a throthwyon
  • Treuliau a buddion ar gyfer cyflogeion - taliadau buddion tanwydd ar gyfer ceir, faniau a thanwydd cwmnïau
  • Cyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol ac Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • Taliadau Statudol - y cyfraddau newydd
  • Benthyciadau i Fyfyrwyr 
  • Newidiadau eraill, gan gynnwys newidiadau i Yswiriant Gwladol ar gyfer y rheini sy'n hunangyflogedig

Bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.

Cofrestrwch yma

Trefnu digwyddiad yn Abertawe

Os ydych yn trefnu digwyddiad i'w gynnal ar dir y cyngor neu dir preifat, rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd i wneud hynny a dilyn y cyngor ar y tudalennau hyn.

www.abertawe.gov.uk/trefnudigwyddiadabertawe

Diwrnod Rhyngwladol y Merched - Parc newydd y ddinas yn cael ei enwi er anrhydedd i Amy Dillwyn

Mae parc arfordirol Abertawe wedi cael ei enwi'n Barc Amy Dillwyn yn swyddogol er cof am un o nofelwyr a menywod busnes mwyaf dawnus y ddinas.

Gwnaed hyn i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Merched - diwrnod rhyngwladol i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched.

Eiddo a thir gwag sydd ar werth neu brydles

Mae'r Gofrestr Tir ac Eiddo Gwag lawn a ffeiliau ar gyfer adrannau unigol (diwydiannol, swyddfeydd, manwerthu a thir) ar gael.

Mae'r dogfennau yn casglu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys eiddo sydd ar gael trwy asiantau masnachol lleol ac eiddo Cyngor.

Eiddo a thir gwag sydd ar werth neu brydles

    Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2024:

    29 Maw - 01 Ebr: Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe
    13-17 Meh: Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe
    6-7 Gor: Sioe Awyr Cymru
    14 Gor: IRONMAN 170.3 Abertawe
    18 Gor: James Arthur, Parc Singleton
    15 Medi: 10k Bae Abertawe Admiral

    Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

    Close Dewis iaith