Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Gynradd 2023 / 2024

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2023.

 

Amserlen 2023 / 2024
3 Hydref 2022Gall unrhyw riant gyda phlentyn sy'n gymwys i ddechrau yn y dosbarth derbyn yn Medi 2023 gyflwyno cais am le. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr holl rieni sydd a phlentyn wedi'i gofrestru mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn Abertawe.
25 Tachwedd 2022Dyddiad cau rieni wneud cais a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Dylech gwblhau un ffurflen yn unig gan nodi'n glir eich dewis cyntaf o ysgol, a'r ail a'r trydydd dewis. Ni ellir gwarantu lle dalgylch.
Polisi ar geisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (25 Tachwedd 2022) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol.

Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw.  

Mae hyd yn golygu efallai na ddyrennir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ol 25 Tachwedd 2022. Gellir cynnal apeliadau am geisiadau hwyr ar ôl i'r apeliadau am geisiadau ar amser gael eu cynnal.

17 Ebrill 2023Hysbysir rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser ynghylch p'un a ddyrannwyd lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ai peidio, ac os na, ble mae lle ar gael.
18 Ebrill - 12 Mai 2023Gall rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser apelio yn erbyn cais aflwyddiannus trwy ofyn am ffurflen apelio gan y Trefniadau Derbyn.