Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am le mewn ysgol (Medi 2026)

Gwnewch gais am le mewn ysgol yn Abertawe ar gyfer dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn? Mae rhagor o wybodaeth am y manteision i'w chael yma..

Mae'r system ar-lein ar gyfer y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2026 yn agor am 9.00yb (Dydd Llun 6 Hydref 2025)

Gofynnir i rieni ddarllen y  a cais ar-lein - arweiniad i ddefnyddwyr yn ofalus cyn dechrau'r broses.

Rhestrir isod y dyddiadau agor ar gyfer derbyn ceisiadau
Gwneud cais am le yn:Dyddiad cyntaf ar gyfer ceisiadauDyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Derbyn6 Hydref 202528 Tachwedd 2025
Blwyddyn 76 Hydref 202528 Tachwedd 2025

Gwneud cais am le mewn ysgol Gwneud cais am le mewn ysgol

Sylwer, os byddwch chi'n aros tan y dyddiad olaf i gyflwyno'ch cais ac yn cael anhawster wrth gwblhau'r ffurflen, ni fydd unrhyw gymorth technegol ar gael ar ol 4.00pm ar y diwrnod cau (28 Tachwedd 2025).

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd (Dosbarth Derbyn) 2026 / 2027

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2026.

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd (Blwyddyn 7) 2026 / 2027

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

Cais Ar-lein - Canllaw cofrestru

Canllawiau ar gyfer cofrestru i wneud cais ar-lein ar gyfer derbyniadau i'r dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

Cwestiynau cyffredin am wneud cais ar-lein ar gyfer lle mewn ysgol

Cwestiynau cyffredin ynghylch gwneud cais ar-lein am le mewn dosbarth Derbyn ac ym Mlwyddyn 7.

Pryd byddaf yn gwybod a fu fy nghais am le mewn dosbarth derbyn neu Flwyddyn 7 yn llwyddiannus ai peidio?

Byddwch yn derbyn llythyr / e-bost i ddweud wrthych a neilltuwyd lle i'ch plentyn yn eich dewis ysgol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2025