Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am wneud cais ar-lein ar gyfer lle mewn ysgol

Cwestiynau cyffredin ynghylch gwneud cais ar-lein am le mewn dosbarth Derbyn ac ym Mlwyddyn 7.

Pam gwneud cais ar-lein am le mewn dosbarth derbyn neu ym mlwyddyn 7?

  • Mae'n gyflym ac yn hawdd.
  • Gallwch gyflwyno cais o'ch cartref 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos (o fewn y terfynau amser a gyhoeddwyd).
  • Nid oes perygl y bydd eich cais yn mynd ar goll yn y post.
  • Cewch e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno a bod yr awdurdod wedi'i dderbyn.
  • Mae'r system yn ddiogel ac mae ganddi gyfres o nodweddion diogelwch a fydd yn atal eraill rhag gweld eich gwybodaeth.
  • Mae'r system yn addas i'w defnyddio gyda nifer o ddyfeisiau electronig, gan gynnwys ffonau symudol.
  • Byddwch yn gallu gweld eich cynnig ar eich cyfrif ar-lein ar ddiwrnod y cyhoeddir y cynnig (Blwyddyn 7 - 1 Mawrth 2024, Dosbarth Derbyn - 16 Ebrill 2024).
  • Dylid cyflwyno ceisiadau am le mewn ysgolion y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe yn uniongyrchol i'r ALI perthnasol.

Oes modd i mi gael gwybodaeth am ysgolion cyn cyflwyno cais?

Mae gennym fanylion am holl ysgolion Abertawe - Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol.

Beth yw manteision addysg Gymraeg?

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma.

Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol Gymraeg ond dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg adref. A fyddaf yn gallu cefnogi fy mhlentyn gyda'i addysg?

Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn dod o gartrefi lle na siaredir Cymraeg. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma.

Sut ydw i'n gwneud cais am le ysgol mewn dosbarth derbyn neu ym mlwyddyn 7?

Mae'r broses ymgeisio'n bwysig iawn ac mae'r llyfryn  yn manylu ar sut y dylech wneud cais, sut mae lleoedd yn cael eu dyrannu a meini prawf gorymgeisio'r awdurdod lleol os bydd ysgol yn derbyn mwy o geisiadau nag y mae lleoedd ar gael. Mae'n hanfodol eich bod chi'n darllen y llyfryn oherwydd bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich bod wedi darllen yr wybodaeth cyn i chi wneud eich cais.

  • Mae'n rhaid i'r person sydd a chyfrifoldeb rhiant gyflwyno'r cais. Lle rhennir cyfrifoldeb rhiant, dylai'r holl rieni fod yn gytun ynghylch y dewisiadau a restrwyd yn y cais. Y rhieni sy'n gyfrifol am ddod i'r cytundeb hwn.
  • Mae angen i chi greu cyfrif ar y cyfleuster ar-lein - sicrhewch eich bod yn cadw cofnod i'ch cyfrif trwy gydol y broses.
  • Byddwch yn derbyn cadarnhad ar e-bost a fydd yn cynnwys dolen lle gallwch fewngofnodi i'r cyfleuster ar-lein a chyflwyno eich cais.
  • Unwaith y byddwch wedi ychwanegu eich dewisiadau ac yn hapus bod eich cais yn gyflawn - peidiwch ag anghofio cyflwyno'ch cais.
  • Byddwch yn derbyn cadarnhad ar e-bost bod eich cais wedi'i gyflwyno.
  • Mae'n bwysig nodi mai un cais yn unig y dylid ei gyflwyno i bob plentyn. Os oes mwy nag un cais n cael ei dderbyn gennym, y cais diweddaraf yn unig caiff ei brosesu a chaiff y ceisiadau blaenorol eu diystyru. Os derbyniwn fwy nag un gwahanol ddewisiadau ar bob cais, caiff y ffurflenni eu dychwelyd heb eu prosesu nes bod penderfyniad yn cael ei wneud gan y rheiny sydd a chyfrifoldeb rhiant.

Gellir gwneud ceisiadau am le mewn ysgol ar-lein ar gyfer pob plentyn sydd i fod i drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd (blwyddyn 7) ym mis Medi 2024 a phlant sy'n gymwys i gael lle amser llawn mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd (cynradd) ym mis Medi 2024.  Mae ceisiadau ar bapur hefyd yn dderbyniol.

I gael mynediad i'r ffurflen gais ar-lein, dilynwch y ddolen hon: Gwneud cais am le mewn ysgol (Medi 2024).

Fyddaf yn derbyn cydnabyddiaeth ar ol cyflwyno fy nghais?

Os rydych yn cyflwyno cais ar-lein ar gyfer lle mewn ysgol gan ddefnyddio'r Safle Cais Ar-lein, gofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cofrestru. Pan fyddwch yn cofrestru ar y wefan, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth trwy e-bost ac yn derbyn ail e-bost gyda chydnabyddiaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd bydd meddalwedd eich cyfrifiadur (er enghraifft, meddalwedd diogelwch neu furiau gwarchod) yn atal hyn rhag digwydd. Os na dderbyniwch chi gadarnhad, gwiriwch eich ffolder sbam.

Rwyf wedi cofrestru drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ond heb dderbyn e-bost eto?

Mae'n bosibl bod yr e-bost wedi ei atal gan fesurau gwrth-sbam a ddefnyddir gan eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd neu gan y gosodiadau yn eich cleient post. Os ydych yn defnyddio Outlook/Outlook Express, edrychwch i sicrhau nad yw'r a'i roi yn eich ffolder 'junk' ar ddarnwain. Os rydych yn siwr nad yw'r e-bost wedi ei ddosbarthu i chi, yna cysylltwch a'ch darparwr i weld a oes modd olrhain yr e-bost ac i ddarganfod beth sydd wedi digwydd.

Y darparwyr gwasanaeth sy'n dueddol o gamlabelu e-byst allweddol fel sbam yw aol.com, hotmail.com, hotmail.co.uk, yahoo.co.uk, yahoo.com a btinternet.com.

Nid yw'r ddolen sydd yn yr e-bost cofrestru i ddilysu fy nghyfrif ar-lein yn gweithio. Ni allaf glicio arni?

Yn lle clicio ar y ddolen yn yr e-bost, rhowch gynnig ar gopio a gludo'r ddolen lawn (gan gynnwys y rhan http://)  yn uniongyrchol i'r maes cyfeiriad yn eich porwr. Os na fydd hyn yn gweithio, gwiriwch eich bod yn defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'ch porwr. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi alluogi hysbysebion naid, ac addasu'r gosodiadau diogelwch ar eich system/porwr i alluogi'r broses hon i lwyddo.

Os na allaf orffen y cais cyfan ar unwaith, fydd modd i mi ddychwelyd ato'n ddiweddarach?

Bydd. Gallwch arbed eich cais a dychwelyd ato'n ddiweddarach os dymunwch wneud hynny, ond bydd yn rhaid i chi gwblhau a chyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau perthnasol.

Ar ol gwneud cais ar-lein, oes modd i mi newid fy newisiadau?

Cyn y dyddiad cau, gallwch newid eich dewisiadau ar-lein trwy fwengofnodi i'r wefan eto a chlicio ar 'Golygu Dewisiadau'. Bydd angen i chi gyflwyno'ch cais eto; os na wnewch hynny, ni chaiff eich dewisiadau eu cofnodi.

Ar ol y dyddiad cau, ni allwch newid eich dewisiadau oni bai fod rheswm dilys dros wneud hynny - er enghraifft, mae'ch teulu wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar. Mae hyn yn unol a'r Cod Derbyniadau Ysgolion.

Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ol i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n anghofio fy nghyfrinair?

Os anghofiwch eich cyfrinair, bydd dolen y gallwch glicio arni a chaiff cyfrinair newydd ei anfon atoch. Wedi i chi fewngofnodi, gallwch newid y cyfrinair.

Beth os oes gan i gwestiynau pellach?

Cysylltwch a'r Trefniadau Derbyn os bydd gennych ymholiadau pellach neu os bydd angen help arnoch i ddefnyddio'r system ar-lein.

Close Dewis iaith