Gwneud cais am le mewn ysgol (Medi 2026)
Gwnewch gais am le mewn ysgol yn Abertawe ar gyfer dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2026.
Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn? Mae rhagor o wybodaeth am y manteision i'w chael yma..
Mae'r system ar-lein ar gyfer y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2026 yn cau ar 28 Tachwedd 2025 am 11.59pm.
I gyflwyno cais hwyr, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Mynediad i ysgolion
Nodyn: Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (28 Tachwedd 2025) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol.
Gofynnir i rieni ddarllen y a cais ar-lein - arweiniad i ddefnyddwyr yn ofalus cyn dechrau'r broses.
| Gwneud cais am le yn: | Dyddiad cyntaf ar gyfer ceisiadau | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
|---|---|---|
| Derbyn | 6 Hydref 2025 | 28 Tachwedd 2025 |
| Blwyddyn 7 | 6 Hydref 2025 | 28 Tachwedd 2025 |
Sylwer, os byddwch chi'n aros tan y dyddiad olaf i gyflwyno'ch cais ac yn cael anhawster wrth gwblhau'r ffurflen, ni fydd unrhyw gymorth technegol ar gael ar ol 4.00pm ar y diwrnod cau (28 Tachwedd 2025).
