Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiadau pwysig i'w cofio ar gyfer Addysg Gynradd 2025 / 2026

Mae'r amserlen hon ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2025.

 

Amserlen 2025 / 2026
7 Hydref 2024Gall unrhyw riant gyda phlentyn sy'n gymwys i ddechrau yn y dosbarth derbyn yn Medi 2025 gyflwyno cais am le. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr holl rieni sydd a phlentyn wedi'i gofrestru mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn Abertawe.
29 Tachwedd 2024Dyddiad cau rieni wneud cais a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein. Dylech gwblhau un ffurflen yn unig gan nodi'n glir eich dewis cyntaf o ysgol, a'r ail a'r trydydd dewis. Ni ellir gwarantu lle dalgylch.
Polisi ar geisiadau hwyr

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (29 Tachwedd 2024) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd.

Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw.  

Mae hyd yn golygu efallai na ddyrennir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ol 29 Tachwedd 2024. Gellir cynnal apeliadau am geisiadau hwyr ar ôl i'r apeliadau am geisiadau ar amser gael eu cynnal.

16 Ebrill 2025Hysbysir rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser ynghylch p'un a ddyrannwyd lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ai peidio, ac os na, ble mae lle ar gael.
17 Ebrill - 14 Mai 2025Gall rhieni sydd wedi gwneud cais ar amser apelio yn erbyn cais aflwyddiannus trwy ofyn am ffurflen apelio gan y Tîm Derbyniadau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Awst 2024